Skip to main content

Iechyd meddwl oedolionIechyd meddwl plant a'r glasoed

Cwsg: Y gadwyn aur ar gyfer iechyd meddwl

1 Rhagfyr 2017

Mae’n gaeaf, a ph’un a ydych chi’n mwynhau’r nosweithiau tywyllach, y tywydd oerach ac addurniadau Nadolig cynamserol yn y siopau ai peidio, bydd y mwyafrif ohonom yn llawenhau o gael yr awr ychwanegol yn y gwely sy’n nodi’r newid o Amser yr Haf i Amser Safonol Greenwich.

‘Canmol cwsg’

Nid ffenomen fodern yw canmol rhinweddau cwsg. Dros 400 o flynyddoedd yn ôl, neilltuodd Thomas Dekker bennod o’i gyfrol yn 1609, The Guls Horne-booke, i ‘Ganmol cwsg a noethni’. Mater arall yw myfyrdodau Dekker ar noethni fodd bynnag, ond disgrifiodd cwsg fel ‘y gadwyn aur sy’n clymu iechyd a’n cyrff at ei gilydd’ gan nodi bod ‘rhy ychydig yn golygu y cwympwn i’r fynwent, ac o’i ddefnyddio’n ddi-hid, cawn ein taflu i Bedlam’.

Mae llawer o ymchwil gwyddonol ers hynny wedi dangos bod cwsg yn hanfodol ar gyfer lles corfforol a meddyliol, gan effeithio ar brosesau niferus yn ein cyrff o gof i fetabolaeth. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar sut mae cwsg yn effeithio ar iechyd meddwl.

Aflonyddwch cwsg fel symptom o afiechyd meddwl

Yn y 19eg ganrif, nododd Emil Kraepelin, a ystyrir yn daid seiciatreg fodern, fod aflonyddwch cwsg yn gyffredin mewn cleifion ag anhwylderau seiciatrig ac argymhellai driniaethau oedd yn hybu cwsg.

Heddiw, mae’r systemau diagnostig a ddefnyddir mewn ymchwil ac ymarfer clinigol yn ategu arsylwadau Kraepelin. Er enghraifft, mae pumed fersiwn Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders yn cynnwys aflonyddwch cwsg fel symptom o anhwylder deubegwn, anhwylder iselder difrifol ac anhwylderau gorbryder.

Fodd bynnag ychydig o sylw a roddwyd i’r cwestiwn a yw cwsg gwael yn ein ‘taflu ni i Bedlam’ (h.y. yn achosi afiechyd meddwl) tan yn ddiweddar.

Ydy diffyg cwsg yn ein ‘taflu ni i Bedlam’?

Cafwyd diddordeb cynyddol i wybod a all problemau cwsg fod yn achos yn ogystal ag yn symptom o salwch meddwl. Er enghraifft mae astudiaethau epidemiolegol yn awgrymu bod pobl sydd ag insomnia mewn perygl uwch o iselder, ac mae cyfnodau o ddiffyg cwsg wedi’u cysylltu â chyfnodau manig mewn pobl gydag anhwylder deubegwn (Wehr, 1989; Plante and Winkelman, 2008). Mae tystiolaeth o astudiaethau arbrofol yn cefnogi’r cysylltiadau hyn. Er enghraifft, adroddodd Gessa a’i gydweithwyr fod llygod mawr yn dangos ymddygiad manig yn dilyn diffyg cwsg ac mae astudiaethau eraill wedi canfod bod diffyg cwsg mewn pobl yn arwain at ddiffygion prosesu emosiynol a symptomau’n debyg i seicosis.

Y goblygiadau ar gyfer ymarfer clinigol

Gallai deall mwy am y ffordd mae problemau cwsg yn dylanwadu ar gwrs anhwylderau seiciatrig hwyluso ymdrechion i drin afiechyd meddwl. Er enghraifft mae ymyriadau sydd â’r nod o wella cwsg wedi’u cysylltu â gwella symptomau iselder, gostwng y risg o atgwymp mewn anhwylder deubegwn, a lleihau paranoia a phrofiadau o weld rhithiau.

Cymhlethdodau

Er gwaethaf cynnydd sylweddol yn y maes ymchwil hwn, mae llawer mwy o hyd sydd angen i ni ymchwilio iddo am y berthynas rhwng cwsg ac iechyd meddwl.

Yn gyntaf mae salwch seiciatrig yn gymhleth ac yn cael ei achosi gan amrywiaeth o ffactorau genetig ac amgylcheddol, felly mae’n bosibl nad yw cwsg gwael yn ffactor risg i bawb. Er enghraifft, mewn astudiaeth o dros 3000 o bobl gydag anhwylder deubegwn, canfuwyd fod 20% o gyfranogwyr yn adrodd bod colli cwsg wedi sbarduno cyfnodau o hwyliau uchel, gyda menywod yn fwy tebygol o adrodd am hyn na dynion.

Yn ail, mae ein patrymau cwsg yn cael eu dylanwadu gan ffactorau niferus sy’n cymhlethu ymhellach ymdrechion i ddeall y berthynas rhwng cwsg gwael ac iechyd meddwl. Un dylanwad, a amlygwyd yn ddiweddar yn y gwobrau Nobel, yw ein rhythmau circadaidd (rhythmau 24-awr yn ein ffisioleg a’n hymddygiad). Mae’r rhythmau hyn yn dylanwadu ar y cylch cwsg-effro a chânt eu heffeithio gan ffactorau fel golau, ymddygiad ac amrywiaeth genetig.

Ymchwil cyfredol a chyfeiriadau’r dyfodol

Yn y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol a Chanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg, rydym ni’n archwilio’r berthynas rhwng cwsg ac iechyd meddwl gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau. Er enghraifft, rydym ni’n defnyddio data genetig o astudiaeth o dros 6,000 o bobl sydd ag anhwylder deubegwn i ymchwilio a yw risg genetig ar gyfer problemau cwsg yn gysylltiedig â nodweddion gwahanol mewn anhwylder deubegwn. Rydym ni hefyd yn edrych ar y berthynas tymor hir rhwng cwsg a hwyliau gan ddefnyddio monitorau gweithgaredd a dyddiaduron dyddiol.

Mae’r berthynas rhwng cwsg ac iechyd meddwl yn gymhleth, felly i sicrhau cynnydd yn y maes hwn mae angen i ymchwilwyr ystyried dylanwad ymddygiad, bioleg a’r amgylchedd. Mae cymhlethdodau o’r fath yn golygu bod datod dolenni’r ‘gadwyn aur’ yn faes ymchwil heriol ond cyffrous a allai yn y pen draw helpu i ddeall a thrin anhwylderau seiciatrig. Pe bai Dekker yn dal yn fyw, efallai y byddai’n falch i glywed bod ei ysgrifau ar gwsg (os nad noethni) yn dal i fod yn berthnasol heddiw.

Dysgwch fwy am sut y gallwch chi gymryd rhan yn ein hymchwil cwsg

Rydym ni hefyd yn rhedeg gweithdai ar wyddor cwsg a hysbysebir drwy ein tudalen Facebook.