Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl

13 Rhagfyr 2017

Yn ddi-os, mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi newid y ffordd y mae’r gymdeithas ac unigolion yn cyfathrebu a rhannu gwybodaeth. Bellach, mae’n rhan annatod o fywydau llawer o bobl, yn enwedig y rheiny rhwng 16-30 oed.

Bu i Daisy Ridley, a ddaeth yn enwog yn sydyn fel Rey yn y ffilmiau Star Wars diweddaraf, roi’r gorau i Instagram yn gynharach eleni. Mewn cyfweliad diweddar â’r Radio Times, dywed ei bod hi wedi dileu ei chyfrif oherwydd yr effaith mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei chael ar ei hiechyd meddyliol.

Dywedodd Ridley: “Po fwyaf rwy’n darllen am bryder ymysg pobl yn eu harddegau, mwyaf oll rwy’n credu eu bod [y cyfryngau cymdeithasol] yn afiach iawn o ran iechyd meddwl. Mae’n beth rhyfedd i bobl ifainc edrych ar ddelweddau ystumiedig o’r hyn y dylen nhw fod.”
Rwy’n 28 ar hyn o bryd ac yn ei chael hi’n anodd y cyfnod cyn y rhyngrwyd. Sefydlais fy nghyfrif cyfryngau cymdeithasol cyntaf (Facebook) pan oeddwn 17, ac yn berchen ar fy ffôn clyfar cyntaf pan oeddwn 20. Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi siapo fy hunaniaeth a’m datblygiad seicogymdeithasol.

Does gen i ddim amheuaeth eu bod wedi effeithio ar fy lles meddyliol cyffredinol, ond a yw hyn o reidrwydd yn beth da? Yw fy iechyd meddwl yn well heb y cyfryngau cymdeithasol? Neu ydynt wedi cyfoethogi fy mywyd? Fyddwn i’n hapusach mewn gwirionedd pe bawn wedi tyfu i fyny mewn cyfnod heb y cyfryngau cymdeithasol?

Edrych yn fanylach

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae academyddion ac ymchwilwyr wedi bod yn ceisio ateb y cwestiynau hyn. Fodd bynnag, am fod y cyfryngau cymdeithasol yn ffenomen mor newydd, mae eu heffaith ar les meddyliol unigolion yn aneglur ar hyn o bryd, ac mae llawer o’r dystiolaeth sydd ar gael yn groestynnol.

Mewn ymateb i hyn, mae’r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd a’r Symudiad dros Iechyd yr Ifainc wedi cyhoeddi adroddiad o’r enw #StateOfMind, sy’n archwilio’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mae’r cyfryngau cymdeithasol yn eu cael ar iechyd meddwl pobl ifainc.

Drwy ystyried dwy ochr yr hafaliad, mae’r adroddiad yn cyflwyno safbwynt cytbwys ar effeithiau’r cyfryngau cymdeithasol.

Meddwl yn gadarnhaol

Boed i ni drafod effeithiau cadarnhaol y cyfryngau cymdeithasol yn gyntaf. Mae #StateOfMind yn nodi bod pobl ifainc, rhwng 16-24 oed, yn troi fwyfwy ar y cyfryngau cymdeithasol fel modd o gael cymorth emosiynol.

Gall sgyrsiau ar y cyfryngau cymdeithasol gynnig rhyngweithio hanfodol i bobl ifainc i oresgyn materion anodd, yn enwedig pan na allent fod â mynediad at gymorth wyneb yn wyneb. Yn sicr, gallaf uniaethu â hyn.

Yn ystod cyfnodau anodd yn fy mywyd, rwyf wedi ceisio cymorth gan ffrindiau ar Facebook.

 Roedd y cymorth hwn yn fy ngalluogi wedyn i wynebu fy mhroblemau mewn modd llai problematig.

Mynegi eich hun

Ar ben hynny, noda’r adroddiad bod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn llwyfan effeithiol ar gyfer hunanfynegiant. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn galluogi unigolion i bersonoli eu ffrydiau â delweddau, fideos, a geiriau sy’n mynegi’r hyn ydynt a sut maent yn uniaethu â’r byd o’u cwmpas.

Mae gallu ‘hoffi’ neu ‘ddilyn’ tudalennau yn golygu bod defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol yn gallu creu ‘catalog hunaniaeth’ sy’n cynrychioli eu hunaniaeth fel pobl. Gwn fod fy hunaniaeth i, fel rhywun sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl, yn cael ei phortreadu drwy’r amryw grwpiau iechyd meddwl rwyf wedi eu ‘hoffi’ ar Facebook.

Effaith gadarnhaol bellach y cyfryngau cymdeithasol yw eu bod yn cynnig i’w defnyddwyr offeryn defnyddiol i greu, cynnal, ac adeiladu perthnasoedd rhyngbersonol yn y byd go iawn.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn galluogi unigolion i wneud ffrindiau newydd yn ogystal â chadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu y byddid fel arall yn cysylltu â nhw’n llai aml.

Hyd yma, ymddengys fod nifer o fanteision i berthyn i ffenomen newydd y cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, yw hyn o reidrwydd yn golygu bod fy mywyd yn well gyda fy nghyfrifon Facebook ac Instagram?

Ddylwn i fewngofnodi’n amlach, neu a ddylwn eu dileu fory a byth edrych yn ôl?

Gormod o beth da?

Boed i ni bellach drafod rhai o effeithiau negyddol y cyfryngau cymdeithasol a amlygwyd yn adroddiad #StateOfMind.

Noda’r adroddiad bod cyfraddau gorbryder ac iselder ymysg pobl ifainc wedi cynyddu 70% dros y 25 mlynedd diwethaf ac mae ymchwil yn awgrymu bod pobl ifainc sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ddwys (gan dreulio mwy na 2 awr y diwrnod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol) yn fwy tebygol o nod bod arnynt orbryder ac iselder.

Mewn geiriau eraill, mae defnydd gormodol o’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy tebygol o arwain at iechyd meddwl gwaeth.

Mae’r adroddiad yn ymhelaethu: mae gweld ffrindiau yn mwynhau eu hunain yn gallu gwneud i bobl teimlo fel eu bod nhw’n colli mas tra bod eraill yn mwynhau bywyd. Gall y teimladau hyn feithrin agwedd ‘cymharu ac anobeithio’ [’compare and despair’].

Gallai defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol sydd â lluniau sydd wedi eu golygu, eu haddasu neu curadu’n benodol eu cymharu nhw â’u bywydau ymddangosiadol gyffredin. Wedyn, gall teimladau o annigonolrwydd, bod yn hunanymwybodol, bod â hunan-barch isel, a chwennych perffeithiaeth godi yn sgil hyn.

Efallai y dylwn ailystyried o ddifrif faint o ddelweddau Instagram y mae rhaid i mi sgrolio drwyddynt noswaith gyfartalog.

Enghraifft wych o effeithiau niweidiol posib y cyfryngau cymdeithasol ar ein hiechyd meddwl yw’r ffilm fer  All My Happy Friends a gynhyrchwyd gan y cyfarwyddwr o Gaerdydd Paul Howard Allen.

Colli cwsg

Fe wnaeth #StateOfMind hefyd amlygu cwsg (neu ei diffyg) fel un o effeithiau negyddol difrifol defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Mae cysylltiad cryf rhwng cwsg a iechyd meddwl.

Gall iechyd meddwl gwael arwain at gwsg gwael, a gall cwsg gwael arwain at iechyd meddwl gwael. Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar ffonau, gliniaduron a llechi cyn cysgu yn cael ei gysylltu ag ansawdd cwsg gwael.

Credir bod defnyddio goleuadau LED cyn cysgu yn gallu ymyrryd â phrosesau naturiol yr ymennydd sy’n peri teimladau cysglyd, yn ogystal â rhyddhau’r hormon cysgu, melatonin.

Golyga hyn ei fod yn cymryd hirach i gwympo i gysgu a bod unigolion yn y pen draw yn cael llai o oriau o gwsg bob nos.

Rydw i heb os yn euog o dreulio amser ar fy ffôn hwyr y nos pan ddylwn fod ynghwsg. Hyd yma, nid wyf wedi meddwl rhyw lawer am sut mae hyn yn effeithio ar fy nghwsg. Efallai y dylwn ddechrau rhoi ar waith gyrffyw ar fy ffôn? Dim ffôn wedi 11pm?

Parodd adroddiad #StateOfMind i mi ailfeddwl faint dwi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Mae gennyf bellach well dealltwriaeth o sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cyfryngau ac yn cyfyngu ar fy lles mewn gwahanol ffyrdd.

Efallai y dylem oll ailfeddwl am effeithiau’r cyfryngau cymdeithasol, yn gadarnhaol a negyddol fel ei gilydd, ar ein bywydau.