Darlith a Gwobr Cyflawniad Oes Skellern
16 Awst 2023Gwnaeth Eileen Skellern gyfraniad o bwys at ddatblygiad nyrsio iechyd meddwl modern a rhyngbersonol, ac yn sgil ei marwolaeth yn 1980 sefydlwyd cyfres o ddarlithoedd er cof iddi. Ers 2006 mae Darlith Skellern wedi cael ei thraddodi yn flynyddol, ar y cyd â Gwobr Cyflawniad Oes. Bellach, y digwyddiad deublyg hwn yw’r prif ddathliad yn y DU o ragoriaeth a chyflawniad ym maes nyrsio iechyd meddwl, ac ar 15 Mehefin roedd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn falch o gynnal digwyddiad 2023. Gyda chymorth Prif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru, roedd modd i’r digwyddiad, a gynhaliwyd yn Adeilad Morgannwg, gael ei ffrydio’n fyw ac mae’r recordiad bellach ar gael i’w weld ar #mhTV.
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Nicola Evans, Darllenydd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, ac ar y noson cafwyd perfformiad gan Trudi Petersen. Nyrs iechyd meddwl, awdur a bardd perfformio yw Trudi, a theitl ei darn gwreiddiol oedd ‘We are the locksmiths’. Roedd y darn yn amlygu’r cyfraniad y bydd nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud gan ddefnyddio’r sgiliau creadigol sy’n hunanholi yn ogystal â throsiadau i fynegi’r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud. Yn dilyn ei pherfformiad cyflwynodd Dr Alicia Stringfellow, Uwch-ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd blac coffa iddi.
Estynnodd Steve Clarke, Swyddog Nyrsio Iechyd Meddwl yn Llywodraeth Cymru, groeso i bawb gan roi trosolwg o flaenoriaethau nyrsio ac iechyd meddwl yng Nghymru. Mae Steve yn gweithio’n agos gyda Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, ac yn ei sgwrs, amlygodd y gwaith parhaus sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r gweithlu, diogelwch cleifion a chreu fframwaith newydd ym maes gofal iechyd meddwl hyd oes pobl.
Darlithydd Skellern 2023 oedd Dr Anne Aiyegbusi, a gyflwynwyd yn agoriad ei sgwrs gan Ddarlithydd Skellern 2022 Dr Gary Winship o Brifysgol Nottingham. Mae Anne yn nyrs iechyd meddwl gofrestredig, yn seicotherapydd ac yn ddadansoddwr grŵp ac yn ystod gyrfa 30 mlynedd yn y GIG mae wedi gweithio yng ngwasanaethau fforensig y GIG (gan gynnwys yng Nghlinig Caswell ym Mhen-y-bont ar Ogwr) ac, yn fwyaf diweddar, roedd yn brif seicotherapydd yn Ymddiriedolaeth Sefydliad Iechyd y GIG yn Rhydychen. Mae Anne yn parhau i gyfuno ymarfer clinigol ac arwain gwasanaethau iechyd meddwl ag ymchwil ac ysgolheictod. Mae gan Anne PhD gan Brifysgol Middlesex, a’i goruchwyliwr oedd yr Athro Daniel Kelly, sydd bellach yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ef gyflwynodd blac Darlith Skellern iddi.
Yn ei darlith siaradodd Anne â huodledd ac awdurdod ar bwnc ‘Gofal iechyd meddwl a her barhaus trawma hil’, gan gyfeirio at effaith gronnol hiliaeth sy’n peri trawma byth a hefyd dros gyfnod o amser, a hynny yn sgil gweithredoedd unigol o wahaniaethu a hiliaeth systemig. Cyfeiriodd Anne at y ffyrdd niferus y bydd hyn yn digwydd, gan gynnwys trin pobl Ddu fel na baen nhw’n bobl, trin plant Du fel pe baen nhw’n oedolion, marwolaethau yn sgil atal a ffrwyno dynion Du yn gorfforol a mecanweithiau trawma sy’n digwydd dros nifer o genedlaethau. Bydd trawma hiliol, dadleuodd Anne, yn ei hanerchiad teimladwy a phryfoclyd, yn cael ei atgynhyrchu mewn lleoliadau gofal iechyd meddwl, sef ‘lleoedd aflonyddwch’, ac mewn ffyrdd sy’n destun pryder i bawb. Ymhlith cynigion Anne o ran cymryd camau roedd canolbwyntio’n barhaus ar fynd i’r afael â thrawma hiliol dros nifer o genedlaethau yn rhan o raglenni addysg, creu cynghreiriau go iawn â gweithlu amrywiol a chreu lleoedd diogel i hyrwyddo cymorth, gallu iacháu a gwytnwch.
Derbynnydd Gwobr Cyflawniad Oes eleni oedd yr Athro Mary Chambers, Athro Emerita ym Mhrifysgol Kingston ac Athro Emerita Nyrsio Iechyd Meddwl yn St George’s, Prifysgol Llundain. Cyflwynwyd Mary gan dderbynnydd Gwobr Cyflawniad Oes 2022, yr Athro Kevin Gournay, Athro Emeritws yng Ngholeg y Brenin Llundain, a buodd hi’n myfyrio, gyda hiwmor a chraffter, ar ei gyrfa helaeth a dylanwadol yn rhyngwladol ym maes ymarfer, ymchwil, addysg ac arweinyddiaeth iechyd meddwl gan ddechrau gyda’r cyfnod o hyfforddi nyrsys yn Belfast yn yr 1960au. Gan fyfyrio ar ei gyrfa sydd wedi arwain ac arloesi ym maes nyrsio iechyd meddwl, yn ei hanerchiad cyfeiriodd Mary at y ffaith mai hi oedd ‘y gyntaf’ mewn sawl rôl. Disgrifiodd Mary brofiad cynnar a hynod ffurfiannol pan oedd yn rhan o’r genhedlaeth gyntaf o therapyddion ymddygiad nyrsio, yn dilyn yr hyn a oedd bryd hynny’n gwrs arbrofol yn Ysbyty Brenhinol Bethlem ac Ysbyty Maudsley yn yr 1970au. Yn dilyn swyddi yn y GIG soniodd Mary am y cyfnod pan ddechreuodd swydd academaidd ym Mhrifysgol Ulster lle bu’n cyfuno cyfrifoldebau dros addysg, arwain cyrsiau ac ymchwil.
Fel y dangosodd sgwrs Mary, mae ei diddordebau a’i gwaith dros y blynyddoedd wedi ehangu i gynnwys gwybodeg gofal iechyd, datblygu ymarfer gan gynnwys cydweithio â chydweithwyr yn y Coleg Nyrsio Brenhinol, mesur ymyraethau nyrsio ynghyd ag ymrwymiad diysgog i gynnwys y cyhoedd a chleifion mewn ffordd ystyrlon. Yn y meysydd hyn mae Mary bellach yn adnabyddus yn rhyngwladol, a’i swydd gyntaf yn athro oedd dyfarnu cadair bersonol iddi ym Mhrifysgol Ulster ym 1998. Am nifer o flynyddoedd hefyd Mary oedd golygyddol sylfaenol y Journal of Psychiatric and Mental Health Nursing, ac yn fwyaf diweddar roedd yn aelod o banel arbenigol Proffesiynau Cyflenwol Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021.
Daeth y digwyddiad i ben pan gyflwynodd yr Athro Ben Hannigan o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd blac i Mary, ac yna air o ddiolch a nodyn atgoffa bod yr enwebiadau ar gyfer Darlithydd a Gwobr Cyflawniad Oes Skellern 2024 bellach ar agor.
Ben Hannigan, Stephen McKenna Lawson, Seren Roberts
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016