Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Defnyddio dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru – Zoe Haslam,Dr Rachel Brown

21 Medi 2023

Mae nifer cynyddol o genhedloedd yn eirioli dros ddull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith yn amlinellu eu model ar gyfer ymgorffori’r dull hwn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. Mae ein hymchwil yn ceisio archwilio sut mae polisi o’r fath yn gweithio ar lawr gwlad.

Pam dull ysgol gyfan?

Rydym yn gwybod bod iechyd meddwl plant a phobl ifanc ledled y DU a thu hwnt i’w weld fel petai’n gwaethygu.

Yn ôl ymchwil gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), mae niferoedd cynyddol o bobl ifanc ledled Cymru yn profi trallod emosiynol, gyda gwahaniaeth nodedig rhwng cyfraddau cyn ac ar ôl y pandemig coronafeirws (COVID-19). Yn arwyddocaol, mae cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n rhoi gwybod am anawsterau iechyd meddwl cymedrol, er nad oes ganddynt gyflwr iechyd meddwl y gellir gwneud diagnosis ohono o reidrwydd.

Mae pryderon hefyd ynghylch y pwysau eithafol sydd ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), sy’n effeithio ar amseroedd aros, trothwyon gofal, a’r cymorth sydd ar gael unwaith y bydd person ifanc wedi cyrraedd drwy’r drws. Mae yna bryder, felly, ynghylch y niferoedd cynyddol o blant a phobl ifanc ag anawsterau cymedrol sy’n fwy tebygol o ddisgyn drwy fylchau mewn gwasanaethau.

Er mwyn lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl a gwella llesiant plant a phobl ifanc, mae ysgolion yn cael eu hystyried fwyfwy fel safle ar gyfer cyflwyno ymyriadau sy’n hybu llesiant emosiynol da ac yn atal anawsterau iechyd meddwl rhag codi neu waethygu. Ystyrir bod ysgolion mewn sefyllfa dda i roi cymorth o’r fath gan fod y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc wedi’u lleoli mewn ysgolion prif ffrwd am gyfran sylweddol o’u hamser.

Mae ymchwil yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi dangos bod ymyriadau iechyd mewn ysgolion yn fwyaf tebygol o greu newid pan gânt eu cymhwyso ar draws y system ysgol gyfan. Hynny yw, pan fydd newidiadau wedi’u hymgorffori yn y cwricwlwm, diwylliant yr ysgol, yr amgylchedd cymdeithasol a ffisegol, a phan wahoddir cymuned yr ysgol gyfan i gyfrannu syniadau ar gyfer newid. Ymhlith enghreifftiau mae: Learn it, Live it, Teach it, Embed it, rhaglen ysgol gyfan sy’n meithrin iechyd meddwl cadarnhaol; a’r rhaglen INCLUSIVE, a oedd yn ceisio mynd i’r afael â bwlio ac ymddygiad ymosodol mewn ysgolion uwchradd. O’r herwydd, y canllawiau cenedlaethol presennol yw gweithredu, yn bennaf oll felly, ddull ysgol gyfan ar gyfer iechyd emosiynol a meddyliol.

Beth sydd yn Fframwaith Llywodraeth Cymru?

Mae Fframwaith Llywodraeth Cymru ar Ymgorffori Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (cyfeirir ato yma fel “y Fframwaith” o hyn ymlaen) yn amlinellu’r rhesymeg y tu ôl i weithredu gan ddefnyddio dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant meddyliol. Mae’n amlygu’r rôl sydd gan bawb yng nghymuned yr ysgol o ran ystyried eu hymdeimlad eu hunain o berthyn, effeithiolrwydd a llais, ac ymdeimlad eraill o hyn. Yn fwy penodol, mae’n annog ysgolion i ystyried yr hyn sydd ganddynt ar waith yn gynhorthwy ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol o ran 16 o feysydd gwahanol, gan gynnwys meysydd fel y cwricwlwm, arweinyddiaeth, hyfforddiant a llesiant staff, ac amgylchedd ffisegol yr ysgol.

Mae’n ofynnol i bob ysgol yng Nghymru ystyried y Fframwaith wrth ddatblygu eu gweledigaeth, strategaethau a pholisïau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi’n glir yn y Fframwaith nad ydynt yn bwriadu rhoi canllawiau anhyblyg i ysgolion eu dilyn. Mae hyn er mwyn galluogi ysgolion i ymgorffori ymarfer presennol yn eu hymagwedd at lesiant meddyliol, ac i deilwra’r canllawiau yn y Fframwaith i ddiwallu anghenion eu dysgwyr a’u staff o ran llesiant.

I gynorthwyo â hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu adnodd hunanasesu ategol i helpu ysgolion i fyfyrio ar eu hymarfer presennol ac ystyried meysydd i’w gwella. Mae gan bob ysgol hefyd fynediad at gydlynydd penodedig o Iechyd Cyhoeddus Cymru i’w cynorthwyo â’r broses hon.

Beth mae ein gwerthusiad yn ceisio ei gyflawni?

Wedi’i ariannu gan Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, mae ein tîm yng Nghanolfan Ymchwil DECIPHer yn cynnal gwerthusiad o’r Fframwaith. Mae’n ceisio deall nid yn unig effaith y Fframwaith ar lesiant meddyliol, ond hefyd y manylion cynnil o ran pa systemau ac ymarfer sy’n gweithio’n dda yn yr ysgol, ym mha gyd-destun, ac ar gyfer pwy.

Yn rhan o’r ymchwil bydd cyfweliadau gyda phlant, pobl ifanc, staff addysgu a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy’n gweithio yn y byd addysg. Cynhelir y rhain ar ddau achlysur: unwaith ym mlwyddyn academaidd 2022/23 ac eto yn 2023/24. Byddwn hefyd yn cynnal dadansoddiad o ddata arolwg SHRN a gasglwyd yn genedlaethol mewn ysgolion rhwng 2002 a 2025.

Gobeithiwn gael deall sut mae ysgolion wedi defnyddio’r Fframwaith wrth ddatblygu eu strategaethau, polisïau a hefyd amgylchedd yr ysgol i gefnogi llesiant dysgwyr a staff. Byddwn hefyd yn edrych i weld a oes unrhyw newidiadau yn y ffordd y mae dysgwyr mewn ysgolion yn disgrifio eu llesiant meddyliol eu hunain, gan ddefnyddio data o’r arolwg SHRN cenedlaethol ac olrhain newidiadau dros amser. Yna, drwy ystyried y pethau hyn ar y cyd, byddwn yn archwilio a allai datblygiadau yn yr ysgol esbonio unrhyw newidiadau o ran llesiant meddwl dysgwyr.

Mae i’r astudiaeth nifer o ffactorau cymhleth, gyda’r Fframwaith yn cael ei roi ar waith ochr yn ochr â’r Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru, diwygiadau i Anghenion Dysgu Ychwanegol, a strategaethau adfer yn dilyn COVID-19 i enwi dim ond rhai. Byddwn yn ceisio archwilio sut mae ysgolion yn gweithredu’r Fframwaith ochr yn ochr â’r polisïau newydd eraill hyn, er mwyn deall pa newidiadau y mae hyn yn arwain atynt o ran y ffordd mae ysgolion yn cynorthwyo â llesiant meddyliol ac emosiynol. Yn y pen draw, ein nod yw cyfrannu at ddealltwriaeth o sut y gall systemau ysgol hyrwyddo llesiant meddyliol ac emosiynol aelodau eu cymuned yn effeithiol.

Dechreuodd yr astudiaeth hon ym mis Awst 2022 a rhagwelir y caiff ei chwblhau yng ngwanwyn 2026.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr astudiaeth a’i chynnydd, gall darllenwyr gyrchu’r protocol llawn ar-lein, dilyn DECIPHer ar Twitter neu LinkedIn, neu ymweld â gwefan DECIPHer.