Skip to main content

Iechyd ac Iechyd Meddwl

Integreiddio ymchwil iechyd meddwl o ansawdd uchel ag addysgu israddedig

17 Chwefror 2020

Dr William Davies, Ysgolion Meddygaeth a Seicoleg

Un o brif heriau ymchwil iechyd meddwl yw rhoi gwybod i’r grwpiau rhanddeiliaid perthnasol am y canfyddiadau sy’n datblygu gennym – mae’r rhain yn cynnwys cyd-academyddion, cleifion a chyrff cefnogi, clinigwyr, cyllidwyr ac elusennau, a gweithwyr proffesiynol fel cwnselwyr genetig.

Mae myfyrwyr israddedig yn rhanddeiliaid allweddol eraill. Gan eu bod nhw’n ddinasyddion gwybodus, dylent fod mewn sefyllfa dda i achosi newid cadarnhaol yn y gymdeithas, boed drwy wneud eu hymchwil eu hunain neu drwy lu o fecanweithiau eraill.

Fel academydd sy’n ymwneud ag ymchwil ac ag addysgu, credaf fod rhaid i bobl fel fi sicrhau bod myfyrwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf cadarn ynghylch pynciau fel iechyd meddwl, a’u bod yn cael y sgiliau i werthuso a dehongli canfyddiadau ymchwil. Fel y cyfryw, roeddwn i’n hynod falch o dderbyn y wobr ‘Rhagoriaeth mewn Addysgu (Israddedig) yn ddiweddar gan yr Ysgol Feddygaeth.   

Mae fy rôl addysgu’n amrywiol, ac mae’n cynnwys darlithio i garfannau mawr o fyfyrwyr, hwyluso sesiynau tiwtorial llai (e.e. mewn Dysgu’n Seiliedig ar Achosion fel y’i gelwir), a phrosiectau cyfarwyddo un-i-un, ar draws dwy Ysgol yn y Brifysgol. Mae fy ymchwil yn ymwneud â deall pam mae gwrywod a benywod yn ymddwyn yn wahanol, a pham mae gwahaniaeth o ran sut mae’r rhyweddau’n agored i gael cyflyrau iechyd meddwl penodol. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn rôl y cromosomau rhyw (X ac Y) ac mewn pam mae rhai menywod yn datblygu anhwylderau seiciatrig yn fuan ar ôl esgor. Mae trafod y pynciau hyn, ynghyd ag asesiad o sut gellir defnyddio ymchwil geneteg ymddygiadol yn y dyfodol, yn un o brif linynnau fy narlithoedd ar fodiwlau ‘Seicoleg Fiolegol a Gwahaniaethau Unigol’ a ‘Geneteg Ymddygiadol’ yn yr Ysgol Seicoleg

Mae prosiectau ymchwil israddedig yn caniatáu i fyfyrwyr brofi bywyd fel ymchwilydd bona fide, gyda’r holl gyffro (a straen!) sydd ynghlwm wrth hynny. Drwy weithio ar gwestiwn pwysig a newydd, a thrwy ryngweithio ag ymchwilwyr medrus iawn wrth eu gwaith, buan iawn y gall myfyrwyr israddedig ddod i werthfawrogi’r heriau, y cymhlethdodau a’r mân bethau sy’n gysylltiedig â datblygu a phrofi damcaniaethau, ac â chynhyrchu data a’u rhoi mewn cyd-destun.

Rhywbeth newydd i’w groesawu yw cynlluniau interniaeth SPRInt y Brifysgol (Ysgol Seicoleg) a’r interniaeth ymchwil ar y campws, sy’n galluogi myfyrwyr i wneud gwaith ymchwil gyda thâl wrth ymyl mentor academaidd am gyfnod byr, fel arfer yn ystod gwyliau’r haf – yn ddiweddar cyhoeddwyd papur mawr ei effaith o waith fy myfyriwr SPRInt diwethaf, gyda hithau’n awdur cyntaf. Dangosodd y papur hwn fod unigolion sydd â mwtaniad genetig penodol ar gromosom X mewn mwy o berygl o broblemau hwyliau a’r galon ac felly, dylai roi gwybodaeth bwysig ychwanegol i’r unigolion sy’n cael eu heffeithio, i’w teuluoedd a chlinigwyr, ac i gwnselwyr genetig.

Mae prosiectau ymchwil yn elfen graidd o lawer o raddau, gan gynnwys y graddau B.Sc. ymsang y mae rhai myfyrwyr meddygol yn eu cwblhau – mae cyfran uchel o’r rhain yn rhoi mewnwelediadau gwyddonol a chlinigol pwysig. Mae astudiaethau o dan arweiniad myfyrwyr ymsang yn fy ngrŵp wedi disgrifio nodweddion ymddygiadol sy’n gysylltiedig â’r cyflwr croen genetig ichtyosis sy’n gysylltiedig â X mewn gwrywod a benywod, a dangoswyd bod amrywiad o fewn y gennyn STS rhyw-gysylltiedig sy’n ymwneud â sylw.

Yn ogystal â sgiliau academaidd, mae gwaith prosiect yn addysgu nifer o sgiliau trosglwyddadwy hanfodol gan gynnwys rhwydweithio a chydweithredu, cyflwyno data a chyfathrebu, a’r gallu i werthuso tystiolaeth ac ystyried goblygiadau moesegol posibl sy’n gysylltiedig â’r gwaith.

I grynhoi fy mhrofiad, mae manteision mawr i addysgu wedi’i arwain gan ymchwil mewn sefydliadau fel Prifysgol Caerdydd, nid yn unig i fyfyrwyr israddedig (sy’n elwa o gael eu cynnwys mewn amgylchedd ymchwil deinamig a bywiog), ond hefyd i’w canolwyr (sydd fel arfer yn elwa o gynhyrchedd a brwdfrydedd eu myfyrwyr yn y labordy) ac i’r gymdeithas yn ehangach (sy’n elwa o wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd gwell gan fyfyrwyr ac o ganfyddiadau prosiectau israddedig). Po fwyaf o gyfleoedd sydd gan fyfyrwyr israddedig i ymgysylltu ag ymchwil sydd ar y gweill, a pho fwyaf o gyfleoedd sydd gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa (e.e. myfyrwyr ôl-raddedig a Chymrodyr Ymchwil) i fentora myfyrwyr fel hyn ac i fireinio eu sgiliau cyfarwyddo, gorau oll!