Skip to main content

Iechyd ac Iechyd Meddwl

Canfyddiadau o salwch meddwl: Y cyfryngau ac iechyd meddwl

21 Chwefror 2017
Stack of newspapers on white wood table
Stack of newspapers on white wood table

Ymddangosodd hwn gyntaf ar thebraindomain.org

Fyddech chi ddim yn beio rhywun sydd â chanser y fron neu ffibrosis systig am eu clefyd, fyddech chi? Fe wyddom eu bod yn cael eu hachosi gan namau ar y mecanwaith biolegol. Gall dewisiadau bywyd gynyddu’r risg ond mae llai o stigma’n gysylltiedig â dioddef salwch ‘corfforol’ o’i gymharu â salwch meddwl.  Gyda’r ddau fath o salwch mae’r stigma’n deillio o ddiffyg dealltwriaeth. Os oes rhywun yn cerdded i lawr y stryd yn dadlau gyda nhw eu hunain rydych chi’n eu hosgoi ac yn meddwl “mae’r person yna o’i go’.” Dydych chi ddim yn meddwl ddwywaith, rydych chi’n osgoi eu llygad ac yn brysio heibio, dydych chi ddim am fod yn rhan o unrhyw beth mor anghyffredin. Ond pam? Pam ddylen ni feio pobl am rywbeth nad yw’n fai arnyn nhw pan fydden ni ddim yn gwneud hynny gyda chlefydau eraill?

Mae’r ffordd mae cyflyrau iechyd meddwl yn cael eu portreadu yn y cyfryngau’n atgyfnerthu ein drwgdybiaeth a’n hymateb negyddol i’r sawl sy’n dioddef. Dro ar ôl tro cânt eu portreadu’n ddrwg, yn dwyllodrus gyda bwriadau niweidiol, er gwaethaf y ffaith mai anaml iawn mae hynny’n wir. Nid yw dangos empathi gyda phobl sy’n dioddef salwch meddwl ac sy’n cyflawni troseddau’n golygu nad oes ots am eu trosedd, ond mae deall pam eu bod wedi ymddwyn yn y ffordd honno’n hanfodol er mwyn atal y peth rhag digwydd eto.

Yn 2015 crashodd peilot awyren yn llawn teithwyr yn yr Alpau mewn achos o hunanladdiad ymddangosiadol. Yn ddiweddarach daeth i’r amlwg ei fod wedi bod yn brwydro gydag iselder ers tro byd. Roedd y mwyafrif o’r adroddiadau newyddion yn ei ddarlunio fel unigolyn cyfrwys am iddo guddio ei salwch, ac yn ôl rhai roedd wedi bod yn aros am gyfle i niweidio pobl eraill. Mae’r hyn a wnaeth yn erchyll, ac yn dorcalonnus i’r rheini a gollodd anwyliaid, ac mae’n atgyfnerthu ein hanfodlonrwydd i ddelio gyda rhywun sydd â thueddiadau hunanladdol. Er gwaethaf ein hymateb greddfol i hyn rhaid i ni edrych ar y rhesymau pam ei fod yn dioddef a holi a oedd yn derbyn cymorth priodol. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall pam iddo wneud hyn, ac a oedd posibilrwydd y gellid bod wedi’i osgoi, ac atal rhywun arall rhag ei wneud eto. Gallai pwysau ei swydd fod wedi cyfrannu at ei iselder a’i hunanladdiad dilynol. Tynnwyd sylw at gymaint o straen sydd ym mywyd peilot, ar ben yr holl straen arferol mae pobl yn ei wynebu, a pha mor anodd a dinistriol i yrfa y gall ceisio cymorth fod. Pe bai cymdeithas yn fwy parod i dderbyn anhwylderau iechyd meddwl a phe bai llai o stigma ynghlwm â diagnosis, gallai hynny olygu bod pobl yn barotach i geisio cymorth, ac felly leihau’r tebygolrwydd o rywbeth tebyg yn digwydd eto.

A ddylem ni atal rhywun rhag gwneud swydd am fod ganddyn nhw gyflwr iechyd meddwl? Fyddech chi ddim yn gwneud hynny i rywun â salwch corfforol.  Bydd rhai achosion yn codi lle nad yw’n ymarferol iddyn nhw wneud gwaith penodol, ond mae atal pobl yn ddi-wahân rhag dilyn gyrfa oherwydd diagnosis iechyd meddwl yn afresymol. Mae hyn yn berthnasol yn benodol oherwydd er bod gan lawer o anhwylderau un enw yn unig, yn aml maen nhw’n disgrifio sbectrwm o gyflyrau a symptomau. Felly, ni fydd pawb â’r un cyflwr yn ymddwyn yn yr un modd, ac fe allai’r rhai sy’n fwy abl i ymdopi’n gymdeithasol gael eu cosbi am fod â chyflwr cysylltiedig. Mae diystyru cyfran o gymdeithas ar sail gweithredoedd un person yn niweidiol i bawb. Mae achosion fel yr hediad hwn, sydd wedi derbyn y fath sylw a thrafodaeth negyddol am ei ddiagnosis o iselder, yn bwydo drwgdybiaeth ac amheuaeth ymhellach. Yn ei dro mae hynny’n ei gwneud yn anoddach i’r rheini sy’n dioddef geisio cymorth, gan gynyddu’r tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto.

Dychmygwch pe baech chi’n colli eich swydd, neu golli rhywun sy’n agos atoch chi. Dydych chi ddim yn meddwl eich bod yn gallu ymdopi dim mwy a’r cyfan rydych chi am ei wneud yw stopio ond mae wedi’i bwysleisio i chi gan ffrindiau, teulu a’r cyfryngau bod dioddef iselder, neu fod angen cymorth, yn wan ac yn bathetig felly rydych chi’n ceisio ymdopi ar eich pen eich hun. Mae’n dod yn hawdd gweld sut mae pobl yn eu cael eu hunain mewn sefyllfaoedd dychrynllyd, gan hyd yn oed gymryd eu bywyd eu hunain. Fe fydd yn cymryd amser i newid barn y cyhoedd ond gallai’r cyfryngau fod mor bwerus yn newid ein hagweddau at iechyd meddwl, yn enwedig drwy ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol fel Time to Change a Rethink Mental Illness. Mae’r cyfryngau wedi cael eu defnyddio i gynnig cipolwg ar fywydau dioddefwyr o’r blaen. Aeth prosiect cydweithredol rhwng Bryan Charnley a newyddiadurwr ati i geisio dangos ei brofiadau o sgitsoffrenia drwy hunanbortreadau, tra’r oedd yn cymryd meddyginiaeth i wahanol raddau. Yn drasig, yn y diwedd gwnaeth Brian amdano’i hun, ond mae ei baentiadau cythryblus a chynyddol ofidus yn dal i fyw.  Mae cynyddu faint o negeseuon o gymorth y gwelwn ni, gan atgoffa pobl nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain ac nad oes unrhyw gywilydd mewn dioddef cyflyrau iechyd meddwl, a rhoi gwybodaeth iddyn nhw ar sut i gael help, yn gam hanfodol at leihau stigma.

Felly pam fod ein hymateb greddfol i iechyd meddwl mor negyddol? Ydy hyn oherwydd yr wybodaeth anghywir a’r ofn sy’n cael eu cyfleu gan y mwyafrif o sylw’r cyfryngau? A yw’n bosib i ni atal y stigma gyda dealltwriaeth gynyddol o sail fiolegol y clefydau hyn?

Os yw’r cwestiynau o ddiddordeb i chi, darllenwch fy erthygl nesaf ‘Perceptions of mental illness: Do biological explanations reduce stigma?’