Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Mae Anhwylderau Bwyta’n broblem i rai o bob oed

22 Chwefror 2017
Concept: Eating DisordersWords describing mental health issues
Concept: Eating DisordersWords describing mental health issues

Gan Anne-Marie Bollen ac Alison Seymour

Mae’r term ‘anhwylderau bwyta’ yw enw generig am amrywiaeth o ymddygiadau bwyta arwyddocâd clinigol sy’n cael eu dosbarthu fel arfer o dan y system Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol (Diagnostic and Statistical Manual, DSM) (Palmer 2014).

Mae dosbarthiad y DSM yn diffinio’r categorïau anhwylder bwyta mwyaf adnabyddus fel anorecsia nerfosa, bwlimia nerfosa ac anhwylderau gorfwyta mewn pyliau. Mae’r anhwylderau bwyta hyn yn gyflyrau iechyd meddwl difrifol a pharhaus sy’n aml yn cyd-ddigwydd â chyflyrau iechyd meddwl cymhleth eraill megis iselder, camddefnyddio sylweddau ac anhwylder personoliaeth.

Mae anhwylderau bwyta’n effeithio’n bennaf ar fenywod ifanc 12-25 oed, fodd bynnag, nid ydynt yn parchu oedran neu rywedd ac amcangyfrifir mai gwrywod yw 11-20% y bobl sy’n dioddef o anhwylder bwyta.

Yn ddiweddar, rhoddodd y cyfryngau sylw i astudiaeth newydd a ganfu bod hyd at 3% o fenywod yn eu 40au a’u 50au hefyd yn dweud iddynt fod ag anhwylder bwyta yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd hyn yn gwrthgyferbynnu â nifer a amcangyfrifir o’r achosion anhwylderau bwyta mewn menywod iau rhwng 15 a 30 oed, sef 1%.

Yr astudiaeth hon yw’r gyntaf o’i bath i adrodd am achosion o anhwylderau bwyta yn y grŵp oed hwn a chredir bod y canfyddiadau’n arwyddocaol oherwydd ansawdd yr astudiaeth a’r maint sampl mawr a ddefnyddiwyd. Mae rhai o’r rhesymau a awgrymir pam mae menywod yn datblygu anhwylderau bwyta yn y cyfnod hwn yn eu bywydau’n cynnwys digwyddiadau mawr mewn bywyd megis ysgariad, profedigaeth, anawsterau ariannol, yn ogystal â newidiadau yn siâp a phwysau’r corff oherwydd y menopos. Nododd yr astudiaeth nad oedd llawer o’r cyfranogwyr wedi siarad am eu hanawsterau neu wedi cael unrhyw driniaeth. Awgrymwyd y gallai hyn fod oherwydd diffyg mynediad at driniaeth briodol yn ogystal â diffyg gwybodaeth am anhwylderau bwyta yn y grŵp oed hwn gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae cael gafael ar gymorth a thriniaeth briodol ar gyfer anhwylderau bwyta yn broblem i rai o bob oed; ffactor allweddol o ran triniaeth yw cydweithio i gynnwys y rhai sy’n cael profiad o’r materion hyn a’u teuluoedd lle bo hynny’n bosibl.

Yn dilyn cyhoeddi Fframwaith Polisi Anhwylderau Bwyta Llywodraeth Cymru yn 2009, yn awr mae gwasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol ar gyfer pobl ifanc ac oedolion ledled y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru. Mae’r timau arbenigol hyn yn cysylltu â haenau eraill o wasanaethau gofal iechyd i ddarparu dull cynhwysfawr i gynnig cymorth a thriniaeth i’r rhai sydd ag anhwylderau bwyta:

Haen 1

Gofal sylfaenol a gweithgareddau a ddarperir gan y gwasanaethau iechyd, cymdeithasol a chymunedol. Gwasanaethau generig sy’n cael eu staffio gan weithwyr proffesiynol nad ydynt fel arfer yn arbenigo mewn anhwylderau bwyta e.e. meddygon teulu, cwnselwyr myfyriwr, nyrsys practis.

Haen 2

Gwasanaethau a ddarperir gan staff sydd â hyfforddiant mewn asesu a gweithio gyda’r rhai sydd â meddwl anhwylderau e.e. timau iechyd meddwl cymunedol.

Haen 3

Gwasanaethau arbenigol a ddarperir gan dimau amlddisgyblaethol sydd ag arbenigedd penodol mewn gweithio gyda’r rhai sydd ag anhwylder bwyta.

Haen 4

Gwasanaethau hynod arbenigol a dwys lle mae rhaid cael cyfeirio ac adolygu penodol e.e. uned anhwylderau bwyta arbenigol i gleifion mewnol.

(Y model haen 4 ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru. Addaswyd o Improving Treatment for Eating Disorders 1000livesplus )

Penaethiaid timau arbenigol Haen 3 yw’r Arweinwyr Clinigol a gellir gweld eu manylion cyswllt ar wefannau Bwrdd Iechyd Lleol. Yn ogystal, hefyd cannoedd o bobl sydd â diddordeb yn rhan o Grŵp Diddordeb Arbennig Anhwylderau Bwyta Cymru Gyfan sy’n cael ei gadeirio gan Robin Glaze Ymgynghorydd mewn Seiciatreg y Glasoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cynhelir cynadleddau ddwywaith y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru yn aml am ffi o £10 neu am ddim i rai sy’n cael consesiynau.

Anhwylderau Bwyta sydd â’r gyfradd marwolaethau uchaf o unrhyw salwch meddwl ac mae myfyrwyr israddedig yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn cael darlithoedd amdanynt ar eu rhaglenni. Yn ogystal, ar ôl cyflwyno nifer o fodiwlau ar lefel Meistr i 60 o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, mae adborth wedi nodi bod cael rhywun sydd wedi cael profiad o anhwylder bwyta yn ogystal â gofalwr rhywun ag anhwylder bwyta yn rhan o’r tîm addysgu, wedi bod o’r pwys mwyaf. Roedd cyfle i’r myfyrwyr fyfyrio ar eu hymarfer ac roeddent yn gallu ystyried y cyfnodau o gyswllt â gwasanaethau o safbwynt y clinigwyr, y gofalwr a’r profiad byw gan ddefnyddio triongli.

Mae’r ymarferwyr hynny sy’n ymwneud â’r modiwl dros y saith mlynedd diwethaf wedi sylwi ar newid yn natblygiad eu sgiliau clinigol ac maent yn dangos eu bod yn parhau i ddefnyddio’r dull cydweithredol yn eu gwaith bob dydd wrth ymgysylltu â phobl; wrth eu hasesu ar gyfer risg neu wrth reoli a darparu amrediad o ymyriadau therapiwtig fel yr argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

Mae Beat, elusen genedlaethol anhwylderau bwyta’r DU yn cynnig gwybodaeth a chymorth i’r rhai sy’n byw ag anhwylder bwyta a’r rhai sy’n eu cefnogi.  O 27 Chwefror 2017 tan 4 Mawrth 2017, mae wythnos flynyddol Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta ledled y DU.

Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn cefnogi’r digwyddiad hwn ar y 1 Mawrth o 10:00 tan 1.00 pm yn Nhŷ Dewi Sant, Campws Parc y Mynydd Bychan.  Bydd myfyrwyr a staff yn gwisgo sanau anhebyg i’w gilydd, yn rhannu gwybodaeth am brosiectau ac ymchwil diweddar ac yn casglu sanau i brosiectau lleol i’r digartref a ffoaduriaid yn rhan o waith y Brifysgol yn ymgysylltu â chymunedau.