Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Sgitsoffrenia o ganlyniad i enynnau cof annormal

17 Chwefror 2017

O ystyried bod sgitsoffrenia’n anhwylder a nodweddir gan gamargraffiadau, rhithwelediadau, a chredoau anwir, mae’n bosibl y byddai’n eich synnu i glywed ei fod yn deillio o brosesu atgofion mewn modd annormal yn ôl pob golwg.

Er mwyn deall ac ymateb yn briodol i’r hyn sydd o’n cwmpas, rydym bob amser yn dysgu’r cysylltiadau rhwng yr hyn yr ydym yn ei weld, clywed a theimlo, a’u canlyniadau. Pan rydym yn profi rhywbeth newydd, rydym yn ffurfio atgof cysylltiadol newydd, sy’n gallu dylanwadu ar ein hymddygiad y tro nesaf y byddwn yn ei brofi. Er enghraifft, os ydych chi’n mynd i ddeintydd newydd ac yn cael llenwad poenus, mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n nerfus ar gyfer eich apwyntiad nesaf.

Pan mae profiad newydd yn mynd yn groes i atgof cysylltiadol blaenorol, mae’n bosibl y bydd dysgu atgof newydd yn disodli’r hen atgof. Gelwir hyn yn ddysgu difodiant oherwydd mae’r hen atgof, a’i effaith ar ymddygiad, yn cael ei ddiffodd. Y tro nesaf y byddwch yn mynd i’r deintydd, mae’n bosibl y byddwch yn cael canmoliaeth am eich dannedd glân, a fydd yn golygu y byddwch llai ofnus ynglŷn â mynd eto.

Elfen bwysig o hyn yw bod dysgu difodiant yn cynnwys prosesau biolegol sy’n wahanol i’r broses ar gyfer creu atgof cysylltiadol hollol newydd. Ymddengys fod prosesau biolegol sy’n ymwneud â dysgu difodiant yn annormal mewn cleifion sydd â sgitsoffrenia.

Beth bynnag sy’n digwydd yn yr ymennydd i greu symptomau sgitsoffrenia, rydym wedi gwybod ers amser hir mai’r prif ffactor sy’n cyfrannu at yr anhwylder yw amrywiad genetig. Fodd bynnag, yn wahanol i anhwylderau niwroddatblygol eraill, gall mwtaniadau sy’n effeithio ar nifer, neu gannoedd, o ennynnau gyfrannu at sgitsoffrenia. Er bod hyn yn golygu bod deall bioleg yr anhwylder yn fwy cymhleth, rydym wedi sylwi bod y genynnau a effeithir yn dueddol o rannu swyddogaethau cyffredin.

Yn wir, mae llawer o’r genynnau sydd wedi eu mwtadu mewn sgitsoffrenia yn rheoli’r broses o gryfhau cysylltiadau rhwng celloedd yn yr ymennydd wrth ddysgu. Mewn astudiaeth newydd, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, gwnaethom ddarganfod bod gan gleifion sgitsoffrenig fwtadiadau mewn grŵp o enynnau sy’n gyfrifol am reoli difodiad atgofion cysylltiol, ac nad yw genynnau sy’n rheoli ffurfio atgofion cysylltiadol newydd yn cael eu heffeithio.

Sut gallai’r mwtadiadau hyn arwain at symptomau seicotig? Cynigiwyd bod y camargraffiadau a chredoau anwir sy’n rhan o sgitsoffrenia yn digwydd o ganlyniad i atgofion cysylltiadol afresymegol a ganiateir i barhau, er gwaethaf profiadau sy’n mynd yn groes iddynt. Mae’n ymddangos yn debygol y gallai mwtadiadau sy’n effeithio ar ddysgu difodiant arwain at gamargraffiadau a chredoau anwir oherwydd bod cleifion yn ei chael yn anodd disodli atgofion cysylltiadol blaenorol sy’n anghywir, drwy ddysgu rhesymegol newydd.

Yn anffodus, nid yw’r feddyginiaeth a ddefnyddir i drin sgitsoffrenia’n gweithio ar gyfer pob claf, neu weithiau dim ond rhai o’u symptomau y mae’r feddyginiaeth yn eu trin. Fodd bynnag, mae ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn ein galluogi i ddysgu mwy a mwy am y mwtadiadau sy’n cyfrannu at sgitsoffrenia, ac wrth i ni ddysgu mwy am swyddogaethau cyffredin y genynnau hyn yn yr ymennydd, rydym gam yn nes at ddylunio triniaeth effeithiol.