Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Lles meddwl a phrofiadau pobl hŷn yn yr ysbyty

13 Chwefror 2017
Close-up of hands of senior woman lying in hospital ward
Close-up of hands of senior woman lying in hospital ward

Mae’r neges hon yn seiliedig ar bapur sy’n ymddangos yn rhifyn cyntaf y Cyfnodolyn Meddygon dan Hyfforddiant, sef argraffiad gan Wasg Prifysgol Caerdydd.

Wrth i’r boblogaeth heneiddio, byddwn yn ôl pob tebyg yn gweld nifer fwy o bobl hŷn yn yr ysbyty. Gall anghenion gofal cymhleth ac amryw anhwylderau cysylltiol sy’n cyd-daro â hwy ymestyn cyfnod cleifion hŷn yn yr ysbyty. Gan fod pobl hŷn yn dod yn gyfran gynyddol o’r boblogaeth ysbytai, credaf fod angen ystyried ymhellach brofiadau ehangach cleifion hŷn yn yr ysbyty.

Y llynedd, treuliais rywfaint o amser yn cymharu canlyniadau clinigol pobl a oedd â salwch aciwt, pobl hŷn â dementia sy’n mynd i wardiau o fath gwahanol; ystafelloedd sengl ac wardiau aml-wely traddodiadol. Er i’m prosiect i ganolbwyntio ar ganlyniadau clinigol empirig, mesuradwy, rwyf yn aml wedi myfyrio am sut y byddai’r 100 claf hyn wedi disgrifio’u hamser yn yr ysbyty; sut y gwnaeth iddynt deimlo.

Treuliodd nifer o’r cleifion y des ar eu traws fisoedd yn yr ysbyty; y rhan fwyaf ar yr un ward, a nifer ohonynt yn yr un gwelyau. Cawsai’r rhan fwyaf drafferth symud a phroblemau gwybyddol i raddau amrywiol.

Dychmygais fy hun yn lle rhai o’r cleifion hyn wrth iddynt dreulio chwe, saith, wyth mis ar y wardiau. Pe na allwn i symud, yn gaeth i’m gwely ac mewn ystafell sengl heb gwmni eithr llyfr posau a’r teledu, byddwn fwy na thebyg yn diflasu’n llwyr o fewn rhai diwrnodau. Ar ôl rhai wythnosau, gyda fawr ddim rhyngweithio, gallwn fynd i deimlo’n unig. Yn ffodus, mae’n annhebygol y bydd pobl yn eu hugeiniau cynnar yn treulio misoedd lawer yn yr ysbyty. Petawn yn y sefyllfa hon, byddai fy nhymer yn sicr yn gwaethygu.

Heblaw am oedran, mae ffactorau cymdeithasol, diwylliannol ymhlith nifer o rai eraill all ddylanwadu ar brofiadau personol o’r ysbyty, ond petai fy lles meddwl i yn dioddef yn yr amgylchiadau cymharol cyffredin hyn, pam nid rhywun hanner can mlynedd yn hŷn na mi?

Er bod iselder yn gyffredin ymhlith pobl hŷn, yn aml nid ydynt yn rhoi gwybod amdano. Mae modd priodoli symptomau dirywiad iechyd meddwl, fel colli pwysau a blinder, i anhwylderau meddygol sydd eisoes yno. Ymhlith y cant o bobl hŷn â salwch aciwt â dementia, a arsylwais ar ôl eu derbyn i ddau ysbyty GIG gwahanol, roedd cyfraddau iselder a ddiagnoswyd a oedd yn cyd-fynd â chyflwr arall yn 26 a 34%. Pryderaf ymhlith cleifion o’r fath, fod canlyniadau gwaeth i’r sawl sy’n yr ysbyty am gyfnod hwy.

Gydag adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol dan bwysau, gall y cwestiwn bach o p’un ai a yw pobl hŷn yn teimlo’n unig yn yr ysbyty ymddangos yn ddi-nod. Ond, os yw cleifion yn unig, wedi’u hynysu neu fod unrhyw heriau parhaus i’w lles meddwl, yn sicr mae’r potensial i’r rheiny arwain at heriau sy’n fwy clinigol sylweddol i’w hiechyd meddwl cyffredinol yn yr ysbyty hefyd.

Mae profiadau o’r ysbyty’n amrywio; rwy’n amharod i ragdybio ymhellach neu ddod i ganlyniad ynghylch profiadau o’r ysbyty rhan amrywiol o’r boblogaeth ysbyty.  Wrth i’r boblogaeth gyffredinol barhau i dyfu a heneiddio, credaf fod yn rhaid rhoi mwy o sylw i ganlyniadau seicolegol posibl derbyn i’r ysbyty. Gydag ystyriaeth, ymchwil a thrafodaeth ehangach, gobeithiaf allu siarad am natur profiadau pobl hŷn o’r ysbyty â mwy o awdurdod.

Mae Caitlin Young yn fyfyriwr israddedig meddygaeth sy’n gwneud blwyddyn ryngosodol ym maes niwrowyddoniaeth.