Canfyddiadau o salwch meddwl: A yw esboniadau biolegol yn lleihau stigma?
28 Mawrth 2017Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf ar braindomain.org
Dros y blynyddoedd diwethaf mae mwy o ymchwil am iechyd meddwl wedi’i chynnal. Y nod yw dod o hyd i esboniadau biolegol am salwch meddwl, er mwyn deall yr anhwylderau yn well ac atal y stigma cysylltiedig. Gyda lwc, os gallwn ddangos mai bioleg ddiffygiol sy’n gyfrifol am y cyflyrau hyn, bydd rhagor o ddealltwriaeth a chydymdeimlad, ac y bydd hyn yn lleihau’r stigma cysylltiedig. Yn rhesymegol, pam y byddech yn beio rhywun am rywbeth na allant ei reoli?
Ar yr olwg gyntaf, mae’r dull hwn o fynd ati, yn edrych yn addawol. Yn ôl dadansoddiadau-meta o astudiaethau am gredoau ac agweddau’r cyhoedd dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o esboniadau biolegol yn arwain at fwy o bobl yn derbyn y rhai sy’n cael triniaeth broffesiynol. Pan mae clefydau iechyd meddwl yn cael eu hystyried yn ‘salwch yr ymennydd’, o ganlyniad i ddiffygion geneteg neu fioleg, mae pobl yn tueddu i roi llai o fai ar y dioddefwr.
Yn anffodus, mae’r canfyddiadau cadarnhaol hyn i’w gweld yn y lleiafrif. Yn annisgwyl, nid yw esboniadau biolegol yn lleihau’r stigma yn ol pob tebyg, a gallen nhw hyd yn oed eu cynyddu. Roedd stigma o hyd, er bod y cyhoedd yn fwy parod i dderbyn bod angen mwy o driniaeth broffesiynol yn ol pob tebyg. Roedd tueddiad parhaus gan gymdeithas i wrthod dioddefwyr, ac roedd yr agweddau tuag atynt yn parhau’n negyddol, gan gynnwys eu stereoteipio fel pobl beryglus. Er hyn, ni ellir cymhwyso’r casgliadau i bob gwlad gan mai mewn diwylliannau gorllewinol y cynhaliwyd yr astudiaeth ac mae normau gwahanol pob gwlad yn gallu amrywio. Er enghraifft mewn rhai llwythau Affricanaidd, caiff symptomau salwch meddwl eu camddehongli fel math o ddewiniaeth. Ar ben hynny, roedd yr astudiaethau yn y dadansoddiad yn ystyried effeithiau tymor hir ar lefel genedlaethol yn hytrach nag effeithiau tymor byr ymgyrchoedd gwrth-stigma.
Yn 2014, cynhaliwyd astudiaeth am ddamcaniaeth effeithiau anghydbwysedd cemegol ar hunan-stigma’r dioddefwr. Mae’r ddamcaniaeth hon yn un gref ond dadleuol, sy’n nodi bod pobl yn dioddef o iselder o ganlyniad i anghydbwysedd niwrodrosglwyddyddion. Cafodd y bobl sy’n dioddef o iselder ar hyn o bryd neu sydd wedi dioddef pyliau o iselder yn y gorffennol eu diagnosis drwy ddefnyddio prawf ffug. Dywedwyd wrth rai bod eu salwch o ganlyniad i anghydbwysedd cemegol. Nid oedd y rhai a gafodd yr esboniad biolegol hwn yn rhoi llai o fai ar eu hunain (hunan-stigma). Roeddent hefyd yn teimlo’n fwy pesimistaidd ac roedd ganddynt lai o hunan-hyder. Mae’r astudiaeth hon yn enghraifft annisgwyl lle gwelwyd bod rhoi esboniad biolegol yn gallu cynyddu stigma, er bod y stigma hwnnw yn deillio o’r dioddefwr eu hunain ac nid o eraill. O’r astudiaeth hefyd, gwelwyd bod y bobl a gafodd wybod bod ganddynt anghydbwysedd cemegol, yn ystyried ymyrraeth fferyllol yn fwy addas na therapi.
Mae esboniadau biolegol o salwch meddwl yn gwaethygu’r feddylfryd o ‘ni yn erbyn nhw’. Mae hyn yn cynyddu’r gwahaniaethu rhwng pobl ‘normal’ a dioddefwyr ‘annormal.’. Yn ychwanegol, mae’n cynyddu sut mae pobl yn osgoi dioddefwyr, sy’n cael eu gweld fel pobl beryglus ac wedi colli rheolaeth. Gallai achos geneteg wneud i ddioddefwyr deimlo nad ydynt yn bobl go iawn, gan awgrymu eu bod yn ddiffygiol ac yn wahanol i eraill. Gallai hefyd arwain at deulu cyfan yn goddef stigma gan fod aelodau o’r teulu hefyd yn gallu cael eu labelu fel rhai sydd dan risg neu’n cario’r salwch. Mae’n bosibl na fydd darpar bartneriaid eisiau pasio’r tuedd geneteg ymlaen at eu plant.
Yn ôl arolwg a wnaed yng Nghanada yn 2008, ni fyddai 55% o bobl yn priodi rhywun sy’n dioddef salwch meddwl. Mae hyd yn oed y bobl sy’n ceisio helpu dioddefwyr, y clinigwyr, yn dangos diffyg empathi at y rhai sy’n dioddef o glefyd iechyd meddwl pan mae anhwylder y claf yn cael ei ddisgrifio yn nhermau biolegol.
Yn gyffredinol, roedd dealltwriaeth well o achosion biolegol clefydau iechyd meddwl wedi arwain at lai o bobl yn rhoi’r bai ar y dioddefwr am eu cyflwr nhw. Er hyn, roedd agweddau tuag at ddioddefwyr yn parhau’n negyddol. Yn ychwanegol, roedd y dioddefwyr eu hunain yn fwy pesimistaidd am eu cyfnod o wella. Roedd yn peri iddynt feddwl nad oedd dim y gallen nhw ei wneud i newid eu sefyllfa, sy’n agwedd dda i ddim ac yn anghywir. Er bod hyn yn anarferol, mae rhai mwtaniadau yn golygu y byddwch yn datblygu clefyd, fel clefyd Hutington. Nid yw mwtaniadau eraill yn arwain at glefyd, ond maen nhw’n cynyddu’r risg yn sylweddol: mae’r rhai sy’n etifeddu dau gopi o’r APOe4 allele, deg gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd Alzheimer, tra bod y rhai sy’n etifeddu un copi, deirgwaith yn fwy tebygol.
Nid yw genynnau yn gweithio ar wahân i’w gilydd. Nid oes y fath beth â ‘gennyn sgitsoffrenia’. Yn hytrach, y berthynas rhwng gwahanol risgiau biolegol ac amgylcheddol a fydd o bosibl yn arwain at ddatblygu’r clefyd. Mae’r berthynas rhwng gwahanol enynnau, a’r amgylchedd o’ch cwmpas, yn dylanwadu ar sut rydych yn ymateb i ddigwyddiadau mewn bywyd.
Ceir damcaniaeth blaenllaw ym maes ymchwil iselder sy’n canolbwyntio ar gyfranogiad serotonin, neu’r hyn a elwir y ‘cemegyn hapus’. Cemegyn yw seretonin y tybir ei fod ar lefelau annormal yn aml yn ôl y theori am anghydbwysedd cemegol a drafodwyd eisoes. Mae’r genyn SERT yn rheoli faint o serotonin sy’n cael ei greu yn eich ymennydd. Er hyn, mae rôl fwy cymhleth iddo na diffyg cynhyrchiant yn unig. Yn ôl astudiaeth o 2015, gwelwyd bod amrywiad yn y genyn SERT yn cymedroli datblygiad iselder mewn pobl a gafodd eu cam-drin yn ystod eu plentyndod. Dim ond y rhai a oedd â math penodol o SERT ac a oedd wedi cael eu cam-drin a gafodd iselder tra bod y rhai a oedd â’r un math o SERT ond na gafodd eu cam-drin, i’w gweld fel y bobl hapusaf a gymerodd rhan.
Mae’r rhyngweithio hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod cyfuniad o ffactorau yn dod ynghyd i achosi clefydau seiciatrig. Felly, y driniaeth orau ar gyfer y bobl hyn yw cyfuno meddyginiaeth a therapi. Mae meddyginiaeth yn lleddfu symptomau ac yn rhoi’r cyfle i gleifion elwa o seicotherapi, sy’n hwyluso dulliau iachach o ymdopi â’r clefydau. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn opsiwn hyfyw i bobl, oherwydd costau’r gwasanaethau ac anawsterau o ran cael mynediad atynt. Mae cleifion sy’n cael esboniad biolegol o’u salwch yn fwy tebygol o weld meddyginiaeth fel y driniaeth orau, ac mae’n bosibl na fyddant yn ceisio cael help therapiwtig. Mae hyn er gwaethaf y ffaith mai effeithiau cyfyngedig y gall triniaeth ffarmacolegol gael ar eu cyflwr. Nid oes yr un cyffur seiciatrig yn gweithio ar gyfer pawb sy’n dioddef. Gall hyn fod oherwydd amrywiadau unigol diagnosis y clefyd a’r symptomau, ac felly ymateb y bobl i driniaeth. Ystyrir bod tua 40% o’r cyflwr iselder yn gallu gwrthsefyll cyffuriau ac nid yw symptomau negyddol sgitsoffrenia (e.e. cilio o gymdeithas, difaterwch) yn gallu cael eu trin â chyffuriau ar hyn o bryd. Yn wir, nid yw dilyn cwrs o feddyginiaeth yn iacháu yn llwyr. Yn hytrach, mae triniaeth symptomaidd wrth i gleifion fynd yn ôl yn sâl unwaith eto os ydynt yn peidio â chymryd y feddyginiaeth rhagor a’r sgil-effeithiau yn wanychol weithiau.
Ystyriaeth arall, sydd yn aml yn cael ei hanwybyddu gan wyddonwyr a chlinigwyr, yw’r ffaith nad yw pawb sy’n dioddef o glefyd yn ystyried eu hun yn sâl, ac efallai nad ydynt eisiau gwella. Bydd y credoau hyn yn amrywio o berson i berson felly mae’n bwysig ystyried credoau unigol person am eu clefyd nhw eu hunain. Mae eu diffinio oherwydd eu clefyd yn debyg i ddiffinio person anabl oherwydd eu hanabledd. Hynny yw, eu diffinio yn ôl y pethau na allant eu gwneud. Wrth drafod salwch iechyd meddwl, mae’n rhaid i glinigwyr ac ymchwilwyr osgoi meddwl yn nhermau patholegol yn unig, ac yn hytrach meddwl am yr unigolyn yn llawn. Os na wnawn hyn, rydym mewn perygl o waethygu’r sefyllfa, a chreu stigma anymwybodol o ‘ni yn erbyn nhw’ rhwng y bobl sy’n astudio’r cyflwr â’r rhai sy’n dioddef. Mae Touretteshero yn enghraifft o rywun sydd wedi manteisio ar gyfle i newid ffordd pobl o feddwl am y cyflwr. Mae hi’n llawn gwybodaeth, yn ddoniol tu hwnt a dylai pawb fynd ar ei gwefan hi.
Yn amlwg, nid yw pwysleisio’r achosion biolegol yn fwy nag achosion eraill yn ffordd o leihau stigma. Mae canolbwyntio ar yr achosion biolegol yn unig ac anwybyddu’r ffaith bod yr amgylchedd hefyd yn hanfodol ym maes iechyd meddwl yn gallu cynyddu stigma mewn gwirionedd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs bod bioleg yn berthnasol! Ni fyddai’r amodau hyn yn cael eu hetifeddu os byddai hynny’n wir. Er hyn, mae’r amgylchedd yr ydych chi’n byw ynddo a lle rydyn yn gweithio hefyd yn ddylanwadol iawn.
Mae’n sgitsoffrenia yn enghraifft dda cyn i ni orffen. Yn aml, ystyrir sgitsoffrenia fel clefyd iechyd meddwl sy’n seiliedig ar eneteg yn bennaf. Mae’r darlun clasurol uchod yn dangos y tebygolrwydd cynyddol o ddatblygu sgitsoffrenia, fel y gwelir o’n risg gynyddol â thebygolrwydd geneteg. Os oes gan eich gefell unwy sgitsoffrenia, bydd hynny’n cynyddu eich risg o’i ddatblygu 50%. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw’r risg hon yn 100%. Bydd ffactorau amgylcheddol hefyd yn effeithio’n fawr ar eich risg, fel cael haint feirysol yn ystod ail ran eich beichiogrwydd neu gael eich cam-drin yn ystod eich plentyndod. Er mwyn deall clefydau seiciatrig yn well, mae’n rhaid i ni ystyried y berthynas rhwng yr amgylchedd a’n bioleg. Drwy gael gwell dealltwriaeth o bob agwedd sy’n cael effaith ac yn achosi’r clefydau hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar bethau penodol sy’n eu hachosi, y bydd gennym sail gadarn i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016