Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Taith ysgytiog y gofalwr

14 Mawrth 2017

George Drummond yn trafod bywyd fel gofalwr, strategaethau ymdopi a datrysiad gofal arloesol.

Mae o ddeutu 670,000 o bobl yn gofalu am ddioddefwyr dementia yn y DU, yn aml aelodau agos o’r teulu sy’n awyddus iawn i wneud mwy ond sy’n teimlo’n ddiymadferth wrth wylio eu hanwylyd yn colli ei hunaniaeth yn raddol ac yn y diwedd yn gorfod mynd i ysbyty.

Pan gafodd fy ngwraig Elaine ddiagnosis o glefyd Alzheimer yn 2011, roedd ei symptomau’n ysgafn ac ar y cyfan roedd yn bosib eu hanwybyddu. Ar y cam hwn, trafododd Elaine a fi sut y gallem ni ddisgwyl i’r symptomau ddatblygu; roedd ein hemosiynau’n pendilio rhwng gwadu, dicter ac ofn.

Am y tair blynedd gyntaf ar ôl y diagnosis, roeddem ni’n rheoli cyflwr Elaine gartref a doedd hi ddim yn gadael i mi ddweud wrth neb o’r teulu. Erbyn y cam hwn, mae’r daith ysgytiog wedi mynd drwy rwystredigaeth, mwy o ddicter, cariad, a thosturi, wrth i chi weld yr unigolyn roeddech chi’n ei adnabod yn cilio oddi wrth realiti.

Wrth i’r symptomau ddod yn fwy amlwg fe ddatblygon ni strategaethau ymdopi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Pan oedden ni allan, byddai Elaine yn ymweld â thoiled ac yn aml byddai’n gadael ei bag yno, felly byddwn ni’n awgrymu ei adael yn y car. Pan nad oedd hi’n gallu deall bwydlen mewn tŷ bwyta ddim mwy, byddwn i’n ei darllen ac yn dweud “O, edrych mae X ganddyn nhw heno – un o dy ffefrynnau di.”

Wrth i’r symptomau ddatblygu ymhellach, daeth yn amlwg ein bod yn agosáu at yr adeg y byddai’n rhaid i Elaine gael ei derbyn i gyfleuster meddygol. Ar y cam hwnnw, mae pendil yr emosiynau’n cynnwys methiant, straen ac anobaith. Derbyniwyd Elaine i Ysbyty Llandochau ym mis Tachwedd 2015. Ar y pwynt hwn rydych chi (y gofalwr) yn wynebu cwymp enfawr. Rydych chi’n eich holi eich hun a allech chi fod wedi gwneud mwy neu a oes unrhyw ffordd y gallech chi fod wedi cadw’ch anwylyd gartref am gyfnod hirach, er eich bod yn gwybod eich bod chi fel yr unig ofalwr yn gwbl flinedig yn gorfforol ac yn feddyliol.

Erbyn mis Ionawr 2016 roeddwn i wedi datblygu perthynas wych gyda’r staff ar Ward Dwyrain 18 yr ysbyty, a rhannon nhw gyda fi eu dyhead i greu ystafell oedd yn debyg i amgylchedd preswyl, yn hytrach nag amgylchedd ysbyty. Gwirfoddolais i helpu gyda’r prosiect, ynghyd â gofalwyr/perthnasau dau glaf arall oedd hefyd ar y ward. Y ward gododd yr arian i gyd, a dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr. Ar y cam hwn mae’r gofalwr yn dal ar y daith ysgytiog ond i fi roedd pleser hefyd wrth allu gwneud rhywbeth oedd yn helpu cynifer o bobl (nid y cleifion yn unig, ond hefyd eu hymwelwyr, sydd wedi rhoi adborth gwych i ni).

Cwblhawyd y gwaith addurno a dodrefnu’r ystafell ac fe’i hagorwyd ym mis Ebrill.  Roeddwn i’n aml yn gallu mynd ag Elaine i’r ystafell honno, yn enwedig pan oedd wedi’i chynhyrfu. Roedd hi’n gallu gadael i fi wybod beth roedd hi am wrando arno, a bydden ni’n chwarae un o’r recordiau o’r casgliad mawr o 33s oedd gennym ni. Roedd hyn bob amser yn tawelu ei meddwl, ac rydw i wedi gweld yr un effaith ar gleifion eraill.”

Wrth i lwyddiant yr ystafell dderbyn sylw o gwmpas yr ysbyty, dangosodd wardiau eraill ddiddordeb mewn cael cyfleuster tebyg ac roeddwn i’n fwy na hapus i wirfoddoli i bapuro, peintio ac adeiladu/teilio llefydd tân. Rwyf i bellach wedi trawsnewid tair ystafell arall ar y ward dementia, gyda pherthnasau eraill, gan gynnwys ystafell fyw yn arddull y 1950au/60au, ‘ystafell dawel’ o’r 1960au a chaffi glan môr yn arddull y 1960au.

Ar ôl pum mis yn yr ysbyty, daeth taith anodd Elaine i ben ym mis Mai 2016 pan gollodd ei brwydr yn erbyn clefyd Alzheimer. Ac i fi, rwy’n dal ar y daith, ond rwyf i bellach yn teimlo’n ddiolchgar, gan i mi gael cyfle i wneud rhywbeth oedd yn gymorth i Elaine ac a fydd yn parhau i helpu cleifion, gofalwyr a pherthnasau eraill sydd wedi’u heffeithio gan y clefyd creulon hwn.