Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Byw’n dda gyda dementia

30 Mawrth 2017

Mae dementia’n derm sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o wahanol gyflyrau, ac mae pob person â dementia’n cael profiad gwahanol o’r salwch a’r heriau cysylltiedig. Er nad oes gennym ddull o atal neu drin dementia hyd yma, mae darganfod ffyrdd o barhau i gael bywyd da gyda dementia yn bwysig i unigolion a’u teuluoedd, ac mae polisïau llywodraeth Cymru a’r DU yn canolbwyntio ar hyn yn gynyddol. Ond ychydig iawn yr ydym yn gwybod am sut mae byw’n dda gyda dementia o safbwynt y bobl a’r teuluoedd sy’n cael eu heffeithio ganddo, na’r ffactorau sy’n rhwystro pobl rhag byw’n dda.  Mae yna hefyd ddiffyg gwybodaeth am y ffyrdd y gall pobl â dementia a’u teuluoedd wneud synnwyr o’r cyflwr ac addasu eu bywydau iddo, ac i’w newidiadau sy’n eu hwynebu dros amser.

Mae ymchwilwyr yn WISERD (Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru) ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Grŵp Ymchwil Heneiddio ac Iechyd Gwybyddol (REACH) ym Mhrifysgol Caerwysg, yn gweithio ar astudiaeth sy’n ymdrin yn benodol â sut gall pobl â dementia barhau i gael bywyd da, a’r ffordd orau o gefnogi hyn. Enw’r astudiaeth, sydd wedi’i hariannu gan ESRC a NIHR, yw Gwella Profiad Pobl â Dementia a’u Galluogi i Wneud Mwy (IDEAL), a hon yw’r astudiaeth fwyaf o’i math yn y DU.  Mae’r ymchwilwyr wedi recriwtio mwy na 1,200 o bobl â dementia a’u gofalwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban mewn astudiaeth hydredol.  Bydd pob unigolyn a’i ofalwr yn cael cyfweliad ac yn ateb holiadur ar dair adeg wahanol dros y tair blynedd, a fydd yn cynnig modd o fesur eu hansawdd bywyd a’u hamgylchiadau cymdeithasol yn ofalus. Yn y modd hwn mae’r astudiaeth yn gobeithio nodi’r ffactorau cymdeithasol a seicolegol sy’n dylanwadu ar allu pobl â dementia a’u teuluoedd i fyw’n dda gydag unrhyw fath o ddementia.

Mae’r ymchwilwyr yn WISERD yn cynnal cyfweliadau manwl ychwanegol gyda nifer llai o gyfranogwyr IDEAL er mwyn deall pam mae rhai ffactorau cymdeithasol a seicolegol yn dylanwadu ar brofiad pobl o fyw gyda dementia, er gwell neu er gwaeth.  Bydd yr elfen hon o’r astudiaeth yn galluogi’r rhai sydd â dementia, a’u teuluoedd, i ddisgrifio’r hyn sy’n bwysig iddynt o ran byw’n dda gyda dementia, yn eu geiriau eu hun.  Bydd y wybodaeth yn cynnig mwy o fanylder i’r ymchwilwyr ynglŷn â sut a pham mae rhai ffactorau penodol yn cael effaith ar eu gallu i fyw’n dda.

Cafodd yr ymchwil ei chynllunio a’i datblygu mewn partneriaeth â phobl â dementia a’u gofalwyr, a bydd yn cynnig sylfaen dystiolaeth ddefnyddiol iawn ar gyfer nodi’r newidiadau y gellid eu cyflwyno ar lefel unigolion a chymunedau er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn llwyddo i barhau i gael bywyd da gyda dementia. Yn y pen draw, mae’r tîm ymchwil yn hyderus y bydd yr astudiaeth yn arwain at argymhellion mwy gwybodus ar gyfer prynwyr, darparwyr a chynllunwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd â chyngor ac arweiniad ar gyfer pobl â dementia a’r rhai sy’n eu cefnogi.