Dewch i gwrdd â Phennaeth newydd yr Ysgol Cerddoriaeth
14 Awst 2023Dechreuodd Dr Nicholas Jones (BMus 1994, MMus 1995, PhD 1999), ei swydd yn Bennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym mis Awst 2023, gan olynu’r Athro Ken Hamilton. Yn gynfyfyriwr triphlyg o Gaerdydd, mae Nick wedi astudio a gweithio yn y Brifysgol ers dros 30 mlynedd. Cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd, mae Nick yn rhannu ei obeithion a’i flaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol Cerddoriaeth.
Yn gynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, a allech chi sôn am rai o’ch hoff bethau ynghylch y Brifysgol a Chaerdydd ei hun?
Mae fy nghysylltiad â Chaerdydd, y Brifysgol a’r Ysgol Cerddoriaeth yn mynd yn ôl dros 30 mlynedd. Pan es i fy nghlyweliad israddedig yn y 1990au cynnar, cefais fy nharo ar unwaith gan yr awyrgylch cynnes a chroesawgar, ac nid yw’r awyrgylch hwnnw wedi newid o gwbl yn y blynyddoedd ers hynny. Yn wir, mae’r Ysgol yn parhau i gynnig astudiaeth artistig ac academaidd ysgogol mewn amgylchedd cyfeillgar, cynhwysol a chreadigol. Mae myfyrwyr yn teimlo’n rhan o gymuned gerddorol glos lle maent yn medru cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys cymryd rhan mewn nifer o ensembles a digwyddiadau dan arweiniad yr Ysgol a myfyrwyr, rhaglen flynyddol o gyngherddau, a chyfleoedd i ymgymryd â lleoliadau gwaith ac astudio dramor.
Rwyf bob amser wedi teimlo’n falch o fod yn rhan o’r Brifysgol ehangach ac yn teimlo’n angerddol iawn dros fyw a gweithio ym mhrifddinas Cymru. Mae Caerdydd yn ddinas ddiwylliannol fywiog iawn, gyda digon o fannau gwyrdd i ymlacio a mwynhau ynddynt. Mae hefyd yn lleoliad delfrydol ar gyfer astudio cerddoriaeth. Mae gan y ddinas nifer o leoliadau sydd o safon fyd-eang, megis Canolfan Mileniwm Cymru a Neuadd Dewi Sant, a llawer o leoliadau llai lle gall myfyrwyr a staff fwynhau gwrando ar amrywiaeth gyfoethog o gerddoriaeth, o jazz a gwerin i roc a phop, ac i berfformiadau gan gerddorion o bedwar ban byd sy’n arddangos cerddoriaeth o’u diwylliant eu hunain.
Allwch chi sôn ychydig am hanes eich gyrfa?
Mae gan fy ngyrfa berthynas agos â Phrifysgol Caerdydd. Dechreuais yn fyfyriwr israddedig yma ym 1991 a dyfarnwyd BMus imi dair blynedd yn ddiweddarach. Yn dilyn hyn, cwblheais radd meistr mewn cyfansoddi (MMus, 1995), ac yna cychwynais ar unwaith ar ymchwil doethurol yn ymwneud â Thrydedd Symffoni Syr Peter Maxwell Davies (PhD, 1999). Dyma sbarduno angerdd a chysylltiad gydol-oes â’r cyfansoddwr hwn, ac rwyf wedi ysgrifennu a chyd-olygu tri llyfr ar ei fywyd a’i gerddoriaeth ers hynny.
Mae fy niddordebau ymchwil hefyd yn ymwneud â cherddoriaeth gelf Brydeinig yn ehangach, yn enwedig cerddoriaeth Gymreig ers 1945. Dechreuais ddysgu yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym 1996, ac er fy mod hefyd wedi gweithio i Adran Addysg Barhaus a Phroffesiynol y Brifysgol a’r Brifysgol Agored, rwyf wir wedi mwynhau dysgu ac arwain nifer o fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol ers dros 25 mlynedd yn awr. O ystyried y cysylltiad cryf hwn, mae’n anrhydedd mawr imi gael fy mhenodi’n Bennaeth ar yr Ysgol ac rwy’n ei hystyried yn fraint i arwain Ysgol fywiog ac uchelgeisiol gyda hanes mor gyfoethog.
Beth yw eich gobeithion a’ch blaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol Cerddoriaeth?
Rwy’n rhagweld y bydd llwyddiant yr Ysgol Cerddoriaeth yn y dyfodol yn canolbwyntio ar nifer o feysydd eang. Bydd lles myfyrwyr a staff, yn ogystal â chydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith yn cael eu hystyried yn flaenoriaethau. Hoffwn ddatblygu ein gweithgareddau rhyngwladol, gan gynnwys symudedd myfyrwyr a staff; parhau i hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob maes addysgu a dysgu; meithrin cymuned ymchwil ac ysgolheictod lewyrchus; a sicrhau bod yr Ysgol yn cynnal ac yn adeiladu ar ei henw da fel amgylchedd ysgogol a chefnogol i astudio ynddo.
Sut brofiad fydd gweithio gyda chymuned y cynfyfyrwyr yn y dyfodol yn eich barn chi?
Rwyf wedi gwasanaethu yn Swyddog Cynfyfyrwyr yn yr Ysgol Cerddoriaeth am yr wyth mlynedd diwethaf ac rwyf bob amser wedi mwynhau cadw mewn cysylltiad â myfyrwyr blaenorol i brofi sut mae eu gyrfaoedd wedi datblygu. Mae cynfyfyrwyr sy’n dymuno ymweld â’r Ysgol a chael taith o gwmpas yn cysylltu â ni’n rheolaidd. Yn ddiweddar, croesewais grŵp o fyfyrwyr a oedd yn astudio yma yn israddedigion pan agorwyd yr Adeilad Cerddoriaeth am y tro cyntaf yn 1971! Yn ddigon naturiol, bydd y diddordeb hwn yn parhau wrth imi weithio yn fy swydd newydd, ond mae’n siŵr y bydd yn dod yn bwysicach fyth hefyd. Yn sicr, rwyf wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’n cymuned o gynfyfyrwyr a hyrwyddo datblygiad cysylltiadau cartref a rhyngwladol.
Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf ynghylch eich swydd newydd?
Goruchwylio a rheoli gweithgareddau amrywiol yr Ysgol. Bydd yr amrywiaeth yn sicrhau swydd ddiddorol iawn ac yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed! Rwyf bob amser wedi ei hystyried yn fraint i weithio gyda myfyrwyr mor dalentog a staff ymroddedig, ac rwy’n edrych ymlaen at gryfhau’r cysylltiad hwn. Fodd bynnag, ni all ysgol academaidd lewyrchus a deinamig oroesi a ffynnu os wedi’i hynysu. Bydd cydweithrediad gyda chydweithwyr o fewn Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, y Brifysgol a thu hwnt, gan gynnwys y gymuned leol a’n partneriaid strategol, felly yn hollbwysig i lwyddiant yr Ysgol yn y dyfodol. Mae’n gyfrifoldeb enfawr, ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her!
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018