O actio yn Theatr y Sherman, i Athro yng Ngholeg y Brenin — I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr
23 Mai 2023Buom yn siarad â’r Athro David Mosey CBE (LLB 1976) am theatr fyfyrwyr, pêl-droed, a’r radd yn y gyfraith a arweiniodd at ei yrfa ddisglair: o Gyfreithwyr Trower & Hamlins, i Goleg y Brenin Llundain, i CBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2023 am wasanaethau i’r diwydiant adeiladu.
Cyrhaeddais Gaerdydd fel myfyriwr israddedig yn y gyfraith 50 mlynedd yn ôl, mewn pryd ar gyfer agoriad Theatr y Sherman. Gallwn felly fwynhau sawl blwyddyn o ddramateg amatur, gan dderbyn Stiwdio’r Sherman fel cartref ‘o’r radd flaenaf’ amlwg ar gyfer cynyrchiadau myfyrwyr yn hytrach na braint anghyffredin.
Fy rôl gyntaf oedd ‘Pete G’, ail-weithiad o Peer Gynt sy’n codi cwestiwn amlwg – beth yn union oedd o’i le ar y gwreiddiol, ar wahân i Ibsen yn hepgor y defnydd o feic modur swnllyd? Rhoddodd y South Wales Echo adolygiad cas i ni dan y pennawd ‘Trendies who were square on stage’ ond, gan anwybyddu’r rhwystr hwn, es ymlaen i actio yng nghynyrchiadau eraill y Sherman a chyfarwyddo ‘Loot’ gan Joe Orton.
Ffurfiais dîm pêl-droed byrhoedlog Theatr y Sherman, sy’n fwy enwog am daclo brwnt nag am ein gallu. Fe wnes i rwyfo hefyd dros dîm Prifysgol Caerdydd, allan ym mhob tywydd ar y rhan fordwyol o Afon Taf yn Llandaf nad oedd yn ein paratoi’n llawn ar gyfer rasys hirach ar afonydd eraill.
Yn y cyfamser, cefais fudd o addysg o’r radd flaenaf yn Ysgol y Gyfraith, gan raddio ym 1976 a chael swydd fel ‘clerc erthyglog’ yn y cwmni cyfreithiol Trowers & Hamlins. Cefais alwad ffôn gan ein partner uwch, yr ewythrol Anthony Trower, un noson i ddweud ‘David, rwy’n clywed eich bod yn cymryd arnoch eich hun yn actor. Wel, sut hoffech chi actio fel gweinydd gwin mewn parti diodydd ar gyfer ein cleientiaid heno?’
Cynigiodd Trowers secondiad i mi i Lywodraeth Bahrain yn fuan ar ôl i mi gymhwyso fel cyfreithiwr ym 1980. Ar ôl dychwelyd i Lundain ym 1984, ailddysgais gyfreithiau Cymru a Lloegr a phedair blynedd yn ddiweddarach cefais wahoddiad i redeg swyddfa’r Trowers yn Swltaniaeth Oman, ac yn sgil y sector adeiladu bywiog yng Ngeneufor Arabia, roedd y maes cyfraith hwn yn ddewis naturiol pan ymsefydlais yn Llundain o’r diwedd.
Erbyn 1998 roedd sôn am ddulliau ‘cydweithredol’ o gaffael prosiectau adeiladu, ac fel aelod o Dasglu Cyngor y Diwydiant Adeiladu cefais wahoddiad i ddrafftio contract aml-blaid, dau gam safonol o’r enw ‘PPC2000’ sy’n parhau i gael ei ddefnyddio hyd heddiw.
Ymddeolais o Trowers yn 2013 i ymgymryd â swydd yng Ngholeg y Brenin Llundain fel Cyfarwyddwr ei Ganolfan Cyfraith Adeiladu & Datrys Anghydfod. Ymhlith y cyfleoedd ymchwil a alluogodd y rôl hon oedd comisiwn yn 2021 gan Swyddfa Gabinet y DU i ddatblygu ‘safon aur’ ar gyfer fframweithiau adeiladu a chontractau fframwaith. Mae’r argymhellion a ddeilliodd o’r gwaith hwn bellach wedi’u mabwysiadu fel polisi’r llywodraeth yn ‘Llawlyfr Adeiladu’ 2022.
Cyfle gwerthfawr arall ar gyfer ymchwil a arweinir gan effaith yw’r canllawiau a gyd-ysgrifennwyd gennyf ar gyfer yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, ar sut y gall caffael cydweithredol a rheoli gwybodaeth ddigidol osgoi trychineb arall fel trychineb Tŵr Grenfell.
Rwy’n dal i gadw cysylltiad â ffrindiau o Brifysgol Caerdydd ac rwy’n gweld bod yr un ddihangfa dân yn y tŷ anhrefnus yr oeddem yn ei rannu ym Mhen-y-lan. Rwy’n ddiolchgar iawn am bopeth a ddysgais fel myfyriwr yng Nghaerdydd, yn enwedig y rhyddid i arloesi a’r pwysigrwydd o beidio â chael eich digalonni gan adolygiad gwael.
Rydym wedi cyflwyno ‘I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gyn-fyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi blas i ni arnynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018