Diweddariad i gynfyfyrwyr o Ysgol Busnes Caerdydd – Yr Athro Rachel Ashworth
25 Tachwedd 2022Mae’r Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau’r Ysgol a chyflawniadau cymunedol.
Helo bawb, a chyfarchion o Gaerdydd. Wrth i ddiwedd tymor yr hydref a 2022 agosáu, roeddwn am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am newyddion a gweithgareddau Ysgol Busnes Caerdydd. Yn ogystal, hoffwn rannu digwyddiadau sydd ar y gweill a allai fod o ddiddordeb i chi.
Y tro diwethaf imi fod mewn cysylltiad, roedd pandemig COVID-19 yn ei anterth o hyd, ond mae’n bleser gennyf ddweud bod ein patrymau gwaith ac astudio wedi ennill eu plwyf erbyn hyn. Mae’r coridorau a’r theatrau darlithio yn brysur unwaith eto yn llawn myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd, o’r DU a ledled y byd. Mae mor braf clywed am y bwrlwm sydd wedi dychwelyd i’n hadeiladau a’n campws.
Pleser hefyd yw diolch i’n staff a’n myfyrwyr gwych gan fod yr ysgol wedi parhau i lwyddo, er gwaethaf heriau COVID. Dyma rai o’r uchafbwyntiau.
Arweinydd byd-eang cyfrifol
Datblygiad cyffrous yn y 12 mis diwethaf – ac un yr ydym yn falch iawn ohono – oedd derbyn achrediad gan Gymdeithas yr MBAs (AMBA). Hon yw’r safon uchaf o gyflawniad mewn addysg busnes ôl-raddedig ac fe’i dyfarnwyd ar ôl asesiad manwl yn 2021. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i wella profiad y myfyrwyr a chyflwyno rhaglenni MBA rhagorol ac unigryw sy’n adlewyrchu ein diben o ran gwerth cyhoeddus.
Ar hyn o bryd mae ein portffolio MBA yn cynnwys rhaglen flaenllaw MBA Caerdydd a rhaglen MBA gyda Deallusrwydd Artiffisial, partneriaeth gyffrous gyda’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Rydym hefyd yn y broses o ailgynllunio ein rhaglen MBA ran-amser ac yn gobeithio dweud rhagor wrthych am hyn mewn diweddariadau yn y dyfodol.
Pwyslais ar ymchwil o werth cyhoeddus
Eleni, cawsom hefyd ganlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF), sef ymarfer sy’n asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) ledled y DU. Roeddem wrth ein bodd bod y canlyniadau yn dangos ein bod yn un o 2 ysgol busnes yn unig yn y DU sydd wedi cynnal y sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil ac roeddem yn 2il o blith 108 o ysgolion busnes y DU am bŵer ymchwil.
Cawsom ein canmol am ein diben o ran gwerth cyhoeddus ar ôl blaenoriaethu ymchwil sy’n canolbwyntio ar heriau byd-eang, megis gwaith gweddus, economïau teg a chynaliadwy, a llywodraethu da. Mae rhan o’r broses werthuso yn ystyried y strategaeth, yr adnoddau a’r seilwaith sydd ar waith i gefnogi ymchwil a galluogi effaith. Unwaith eto, mae’r canlyniadau’n dangos bod y diwylliant colegol, cynhwysol a chyfranogol yn yr ysgol yn darparu ymchwil ymgysylltiol, meddylgar ac effeithiol, sydd o fudd i fusnes a’r gymdeithas ehangach.
Gweithio i gefnogi ein cynfyfyrwyr
Ymunwch â’n cymuned ar LinkedIn
Rydym newydd greu tudalen LinkedIn newydd sy’n rhoi diweddariadau ar ein gweithgareddau, manylion am ein hymchwil, a gwybodaeth am ein digwyddiadau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ac yn cadw mewn cysylltiad.
Gwnewch gwrs Addysg Weithredol rhad ac am ddim
Gallwch fanteisio ar yr Addysg Weithredol yr ydym yn ei darparu. Mae’r tîm yn cynnig gweithdy deallusrwydd emosiynol AM DDIM dan arweiniad academydd newydd sydd wedi ymuno â’n cymuned, Artyom Kliuchnikov o Wcráin. Cysylltwch â Parry-JonesJ1@caerdydd.ac.uk am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein a gynhelir ar 6 Rhagfyr. Os oes digwyddiadau a chyrsiau eraill a fyddai o ddefnydd i chi, rhowch wybod i ni.
Gwnewch y gorau o’n digwyddiadau hybrid
Mae’r pandemig wedi ein helpu i fod yn fwy arloesol hefyd. Er enghraifft, mae llawer o’n digwyddiadau bellach yn cael eu trefnu ar sail hybrid, fel bod cynifer o bobl a rhanddeiliaid â phosibl yn gallu cymryd rhan yn ein sgyrsiau a’n seminarau. Mae hyn yn sicrhau bod cymysgedd amrywiol – yn ddemograffig ac yn ddaearyddol – o bobl yn mynd iddynt, gan gyfoethogi’r trafodaethau a’r rhyngweithio â’r gynulleidfa.
Yn ddiweddar, croesawyd y Gwir Anrh. Mark Drakeford (MS), Prif Weinidog Cymru, i’r ysgol ar gyfer cynhadledd a dynnodd sylw at yr heriau i ffoaduriaid o ran dod o hyd i waith yng Nghymru. Roedd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan gyflogwyr cyfrifol fel Tiny Rebel ac IKEA.
Byddem yn croesawu eich presenoldeb yn ein cyfres o Sesiynau Hysbysu dros Frecwast, sy’n llwyfannu ystod o siaradwyr amrywiol o fyd busnes, y byd academaidd a’r llywodraeth. Y mis hwn, roedd Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Noel Mooney, yn sgwrsio â’r Athro Laura McAllister, cyn Gapten Menywod Cymru ac academydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth y brifysgol, cyn seremoni agoriadol Cwpan y Byd yn Qatar.
Siaradodd Noel a Laura yn angerddol am ddyfodol pêl-droed Cymru (Wales), Cymdeithas Bel-droed Cymru ac effaith y pencampwriaethau sydd i ddod. Gallwch wylio’r recordiad byw i wrando ar y drafodaeth lawn. A gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar dudalen digwyddiadau’r ysgol, lle bydd Sesiynau Hysbysu dros Frecwast yn y dyfodol yn cael eu rhestru. Mae’r ddwy sesiwn olaf yn 2022 eisoes wedi’u hamserlennu:
- Rhagolygon Cyllideb Cymru gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru – 5 Rhagfyr
- Beth sydd ei angen i fod yn was cyhoeddus yn yr 21ain ganrif? – 13 Rhagfyr
Ein cynfyfyrwyr sydd wedi creu newid
Ac ar nodyn i gloi, rydym yn llongyfarch holl gynfyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd a gymerodd ran yng Ngwobrau (tua)30 oed cyntaf y brifysgol. Cafodd Liz Tan (BSc 2004), Jon Szehofner (BSc Econ 2007), Oli Cook (BSc Econ 2007), Hosanna Hali (BSc 2016, MSc 2018) a George Bellwood (BSc 2019) gydnabyddiaeth am gyflawniadau ar draws categorïau amrywiol, yn amrywio o entrepreneuriaeth a gweithredaeth amgylcheddol i weithredu tegwch ac arloesedd.
Mae’n wych gweld cynifer o gynfyfyrwyr yn defnyddio’r wybodaeth a enillwyd yn ystod eu hastudiaethau, ochr yn ochr â’u sgiliau a’u profiadau proffesiynol, mewn meysydd amrywiol ac er lles arferion busnes a chymdeithas. Mae pob un ohonynt yn ymgorffori ein hegwyddorion o ran gwerth cyhoeddus a chred mewn newid er gwell. Mae gweld eu cyflawniadau a chlywed amdanynt yn rhoi cymaint o foddhad. Da iawn a diolch i gymuned gyfan cynfyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd am wneud gwahaniaeth a chael effaith ar gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.
Dwi’n meddwl bod hynny’n ddigon o newyddion am y tro! Byddaf yn cysylltu cyn bo hir i roi rhagor o ddiweddariadau. Rydym hefyd yn gobeithio mynd ar daith a chwrdd â chynifer ohonoch â phosibl dros y flwyddyn i ddod. Yn y cyfamser, dymuniadau gorau i chi gyd. Cofiwch gadw mewn cysylltiad a bod croeso cynnes i chi yma yng Nghaerdydd bob amser – yn eich ysgol busnes chi.
Yr Athro Rachel Ashworth
Deon Ysgol Busnes Caerdydd
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018