Cynfyfyrwyr Caerdydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd
26 Hydref 2022Mae Cwpan Rygbi’r Byd ar y gweill yn Seland Newydd. Dechreuodd Cymru eu hymgyrch gyda buddugoliaeth agos o 18-15 yn erbyn yr Alban. Bydd y tîm yn wynebu Seland Newydd yn rownd ogynderfynol y twrnamaint, ar ôl symud drwy ei grŵp. Mae’r flwyddyn hon yn arwyddocaol iawn gan mai dyma’r tro cyntaf i nifer o’r tîm fynd i’r twrnamaint gyda chytundebau proffesiynol.
Eleni mae URC wedi dyfarnu 12 o gontractau amser llawn yn ogystal â sawl contract lled-broffesiynol.
Elinor Snowsill (TAR 2014)
Yn ogystal ag astudio gradd meistr yng Nghaerdydd, cynrychiolodd Elinor dîm rygbi’r Brifysgol. Pontiodd Elinor o bêl-droed i rygbi yn ei harddegau hwyr. Mae’n faswr ac erbyn hyn wedi derbyn cytundeb proffesiynol. Ar hyn o bryd mae hi’n chwarae’n lleol i’r Bristol Bears yng Nghynghrair 15 Allianz.
Cafodd Elinor ei dewis i chwarae dros Gymru yn y gêm ddiweddar yn erbyn Yr Alban yn Whangārei, gan ennill ei 68fed cap rhyngwladol. Cafodd ei dewis yn chwaraewr y gêm hefyd.
Robyn Wilkins (BSc 2016)
Astudiodd Robyn ei gradd israddedig yng Nghaerdydd. Bu’n cystadlu gyda thîm y Brifysgol ac enillodd y gêm Varsity yn Abertawe. Mae hi wedi arwyddo i chwarae gyda’r Exeter Chiefs yng Nghynghrair 15 Allianz yn ddiweddar. Bu’n chwarae yn ail hanner gêm Cymru yn erbyn yr Alban.
Mae Robyn yn ferch i gyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Gwilym Wilkins, ac mae’n uwch swyddog i Chwaraeon Anabledd Cymru.
Abbie Fleming (BSc 2017)
Dechreuodd Abbie chwarae rygbi pan oedd yn 12 oed, ac mae’n chwarae i Exeter Chiefs ar hyn o bryd. Hi oedd capten Gleision Caerdydd cyn symud i Gaerwysg. Mae Abbie wedi ei henwi’n y garfan a deithiodd i Seland Newydd ac eisoes mae ganddi 4 cap rhyngwladol.
Dyfarnwyd contract cadw i Abbie gan URC tra hefyd yn gweithio yn ffisiotherapydd yng Nghaerwysg. Yn ystod y pandemig, roedd yn rhan o’r staff rheng flaen oedd yn trin cleifion â COVID.
Gemau sydd i ddod:
Cymru yn erbyn Seland Newydd – 29 Hydref, yn dechrau am 7.30am GMT (ar gael i’w gwylio ar ITV)
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018