Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddNewyddion

Newid llwybr yn eich gyrfa – Bossing It

30 Medi 2022

Gall newid gyrfa fod yn frawychus, ond hefyd yn hynod werth chweil. Cawsom sgwrs gyda rhai o’n cynfyfyrwyr sydd wedi cymryd y cam mawr i lwybr gyrfa hollol newydd.

Kate O’Connor (BA 2012)

Astudiodd ar gyfer BA mewn Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth yng Nghaerdydd, ac ar ôl gwneud cwpl o interniaethau, cafodd Kate gynnig o le ar gynllun i raddedigion gydag Accenture. Ar ôl ychydig o flynyddoedd, sylweddolodd nad oedd yn mwynhau bod yn Ymgynghorydd Rheoli. Roedd hi’n berfformiwr byrfyfyr ac yn awdur comedi brwd, ac roedd eisiau dilyn llwybr creadigol. Felly gwnaeth hi MA mewn Hysbysebu Creadigol ym Mhrifysgol Falmouth, ac yna cyfres o interniaethau yn Ad Land. Hanes, fel dywedon nhw, yw’r gweddill. Mae hi bellach yn Uwch Weithiwr Creadigol ym Momentum Worldwide, yn rhan o McCann Worldgroup, ac yn mwynhau’r gwaith bob dydd.

Cofiwch atgoffa eich hun pam

Hyd yn oed pan rydyn ni’n gwybod ein bod ni eisiau gwneud rhywbeth newydd, gall tir anghyfarwydd fod yn frawychus. Gofynnwch i chi’ch hun pam rydych chi eisiau newid gyrfa – edrychwch ar yr ateb hwnnw ac yna gofynnwch i chi’ch hun pam eto, gan barhau hyd nes y byddwch wedi dod o hyd i’r rheswm sylfaenol. Dyna’r peth fydd yn rhoi’r ysgogiad sydd ei angen arnoch chi i wneud y cam mawr. Pan oeddwn i’n ceisio argyhoeddi fy hun i adael swydd â chyflog da iawn yn y Ddinas, fe wnes i fwrdd gweledigaeth a oedd yn cynrychioli fy ‘pam’ a’i osod yn gefndir ar fy ngliniadur.

Cofiwch fod gwerth i bopeth rydych chi wedi’i wneud hyd yn hyn

Hyd yn oed os ydych chi’n symud i faes cwbl amherthnasol ac yn gorfod dechrau ar y gris cyntaf eto, bydd yr holl brofiad rydych chi wedi’i ennill hyd yn hyn yn ddefnyddiol ar ryw adeg. Defnyddiwch eich profiad gwaith i ddrysu disgwyliadau o’r hyn y gall ‘gweithiwr iau’ ei wneud. Defnyddiwch eich sgiliau personol i amddiffyn eich hun ac eraill rhag y tasgau afresymol a roddir yn aml i weithwyr iau, sydd ddim eto’n gwybod sut i’w gwrthod.

James Orpwood (BSc 2002, PhD 2006)

Ers yn ifanc iawn, roedd James yn dwlu ar unrhyw beth yn ymwneud â physgod. Nid yw’n syndod felly bod hyn wedi datblygu’n yrfa addawol yn wyddonydd pysgodfeydd. Fodd bynnag, aeth i’r Alban gyda’i yrfa wyddonol, a gan iddo gael ei amgylchynu gan olygfeydd o’r mynyddoedd anhygoel, datblygodd angerdd newydd am hwyl mewn mannau uchel. Roedd ganddo awydd i newid gyrfa er mwyn iddo allu arwain pobl yn y mynyddoedd a mannau gwyllt, a chadarnhawyd hyn gan daith ddringo i’r Himalayas lle cyfarfu James â’i wraig. Yn dilyn sawl blwyddyn o ail-hyfforddi penderfynol, gwireddwyd breuddwyd James. Erbyn hyn mae’n rhedeg ei fusnes bach ei hun, James Orpwood Mountaineering, ac yn gweithio’n llawrydd gyda gweithgareddau awyr agored a chwmnïau teithio antur.

Cyn mynd amdani – gwnewch gynllun, cadwch y ffydd, a byddwch yn hyblyg!

Dylai’r syniad o newid gyrfaoedd fod yn gyffrous! Fodd bynnag, gall hefyd fod yn frawychus, yn llawn ansicrwydd (cyffro!), a llawer o ‘beth os’. Gall cael cynllun ar gyfer eich newid gyrfa helpu i dawelu nerfau, a’ch helpu i ganolbwyntio ar eich nod yn y pen draw. Gallai eich cynllun ganolbwyntio ar feysydd allweddol megis ail-hyfforddi, sicrhau cyllid ac amserlenni. Bydd angen chi fod yn hyblyg – ni fydd pob syniad sydd gennych yn cael ei wireddu, ond rwy’n gwarantu unwaith y byddwch chi’n cymryd y naid ffydd honno, bydd cyfleoedd ar gael i chi!

Ar ôl i chi fynd amdani – cofiwch rwydweithio, manteisiwch ar bob cyfle, byddwch yn driw i chi’ch hun.

Unwaith y bydd eich gyrfa newydd ar y gweill manteisiwch ar bob cyfle i rwydweithio â phobl fwy profiadol yn eich maes. Peidiwch â bod ofn cynnig “cysgodi” ymarferwyr sefydledig, er enghraifft. Gall hyn helpu i feithrin eich profiad gyda chleientiaid “byd go iawn” ac efallai y bydd yn eich helpu i gael gwaith gyda chyflogwyr posib. Bydd argymhellion personol, ymddygiad cyfeillgar a sgwrs dros baned yn llawer mwy buddiol nag ymholiad ebost di-wyneb. Dysgwch gan y goreuon – roedd yn rhaid i bawb ddechrau yn rhywle – ond arhoswch yn driw i chi’ch hun, eich gwerthoedd a’ch ethos eich hun.

Mae ein platfform rhwydweithio i gynfyfyrwyr, Cysylltiad Caerdydd yn eich galluogi i ddod o hyd i gynfyfyrwyr eraill sy’n gweithio yn eich diwydiant neu’r sefydliad o’ch breuddwydion er mwyn i chi allu gofyn cwestiynau iddynt, creu cysylltiadau â nhw neu weld a fyddent yn cynnig gwasanaeth mentora.

Steph Bird (BSc 2014)

Astudiodd Steph BSc Radiotherapi ac Oncoleg, ac aeth i weithio’n Radiograffydd Therapiwtig yn Ysbyty Brenhinol Swydd Surrey am 3 blynedd. Arweiniodd ei hangerdd dros wirfoddoli a chodi arian iddi symud i’r sector elusennol yn 2017. Dechreuodd yn Godwr Arian i’r Gymuned yn Elusen Tiwmor yr Ymennydd ac yn ddiweddarach symudodd i fod yn Rheolwr Codi Arian i’r Gymuned, yn rheolwr llinell tîm codi arian cymunedol ledled y DU. Ar hyn o bryd, hi yw Swyddog Codi Arian Cymunedol Prifysgol Caerdydd, yn codi ymwybyddiaeth o Brifysgol Caerdydd yn elusen a chefnogi codwyr arian #TeamCardiff.

Ennill profiad cyn symud.

Roedd cael gwybodaeth am y sector elusennol wedi helpu fy mhroses benderfynu a hefyd wedi helpu yn y trafodaethau mewn cyfweliadau. Fe wnes i chwiliad Google, yna gwnes gais a llwyddais i gael lle yn Charity Apprentice, cwrs blwyddyn rhan-amser a roddodd sylfaen gadarn i mi o wybodaeth am y sector elusennol a swyddi posibl. Rhoddodd gyfleoedd rhwydweithio i mi ofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol yn y sector a roddodd y sicrwydd a’r hyder i mi i wybod bod y penderfyniad yn iawn i mi.

Cadwch eich opsiynau ar agor

Mae bob amser yn syniad da meddwl ymlaen llaw ac ystyried eich opsiynau cyn newid gyrfaoedd. Efallai na fydd pethau’n gweithio’n union yn y ffordd roeddech wedi’i gynllunio neu’n gobeithio i ddechrau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn agored i gyfleoedd a llwybrau eraill. Mae cymaint o rolau o fewn sector ac mae’n dda cofio bod rolau’n gallu amrywio mewn gwahanol sefydliadau hefyd. Peidiwch â bod ofn cael sgyrsiau gyda’ch rheolwr llinell, cydweithwyr, ffrindiau a theulu am opsiynau gan y gallent helpu i roi cyngor cyfeillgar neu dynnu sylw at gyfleoedd hyfforddi er enghraifft.

Hannah Jefferys (MArch 2009)

Astudiodd Hannah ym Mhrifysgol Caerdydd am 5 mlynedd, gan gwblhau ei MArch mewn Dylunio Pensaernïol yn 2009. Ar ôl graddio, bu Hannah yn Ddylunydd ac yn Bensaer, ond ochr yn ochr â hyn penderfynodd ddilyn ei hangerdd dros Seidr, gan sefydlu Sài Gòn Cider yn Fietnam yn 2013. Mae’r brand yn 9 oed ac wrth i’r busnes fynd o nerth i nerth, Hannah sydd bellach yn Gyfarwyddwr Sefydlu a Gwneuthurwr Seidr yn y cwmni’n llawn amser. Seidr Sài Gòn yw prif frand seidr Fietnam, ac mae’n cynnig seidr organig arobryn wedi’i wneud yn Fietnam, gan ddefnyddio sudd 100% pur, fel y dylai seidr fod.

Mae cymaint o werth i’ch gradd o hyd

Cefais lawer o sgiliau trosglwyddadwy yn fy ngradd Meistr mewn Pensaernïaeth. Rwy’n dal i’w defnyddio heddiw, er enghraifft:

  • Gwerthu syniadau – mae hyn yn ddefnyddiol wrth wynebu cwsmeriaid a buddsoddwyr, yn ogystal â chleientiaid a datblygwyr. Boed yn gynnig ar gyfer canolfan addysg neu’n frand, mae’r un egwyddorion yn berthnasol.
  • Aros yn driw i’r cysyniad – o adeiladu manylion mawr i fach, rhaid i bopeth fod yn gysylltiedig â’r un syniad. Mae’r un peth yn berthnasol i frandiau. Os organig a chrefftwrol yw eich ffocws, dylai hynny effeithio ar bopeth o gynhwysion y cynnyrch i’r arddull cyfathrebu.
  • Creadigrwydd, dyfeisgarwch, sylw i fanylion, y gallu i weithio dan bwysau … mae’r rhestr yn ddiddiwedd!

Ewch amdani!

Bydd yr awydd tanbaid hwnnw i redeg eich busnes eich hun yn eich poeni, felly gwnewch gynllun ac ewch amdani! Ni fydd y busnes hwnnw o reidrwydd yn deillio o’r pwnc rydych chi wedi astudio. Os nad yw’r llwybr yn ymddangos yn glir ac yn gyraeddadwy yn y dyfodol agos, yna ceisiwch fodloni’r awydd hwn mewn ffordd arall. Rwy’n angerddol am bensaernïaeth a dylunio, ond ni fyddai creu busnes yn y maes wedi apelio. Dim ond wrth edrych yn ôl y sylweddolais hyn, ar ôl i mi greu brand seidr. Beth bynnag fo’ch meysydd o ddiddordeb, bydd gorfodi eich hun i osod cynllun 5 mlynedd tuag at nod terfynol sy’n eich bodloni, yn eich annog i ddod o hyd i fusnes sy’n addas i chi cyn gynted â phosibl. Penderfynwch. Cynlluniwch. Gwnewch!

Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a’u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres ‘Bossing It’.