Cofio Reesh – dweud ‘ie’ i fywyd a rhedeg Hanner Marathon Caerdydd
25 Mai 2022Mae Laura Stephenson (BA 2008) wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Medi er cof am ei ffrind, Areesha. Mae hi’n codi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd a chafodd ei hysbrydoli gan gryfder ei ffrind yn wyneb diagnosis dinistriol, ac agwedd ‘dweud ie i bopeth’.
Roeddwn i’n actif ac yn hoffi chwaraeon o oedran ifanc. Roeddwn hefyd – ac yn parhau i fod – yn hynod gystadleuol. O feicio, llafnrolio, pêl-droed, pêl-rwyd a hoci – enwch gamp, mi wnes i roi cynnig arni. Yr unig beth na wnes i roi cynnig arno oedd rhedeg. Nid oedd rhedeg at fy nant i.
Pan roeddwn yn 23 oed, mi wnes i ddarganfod camp o’r enw Ras Sglefrolio (Roller Derby) sydd yn gamp gyswllt lawn a chwaraeir ar esgidiau sglefrio cwad. Chwaraeais y gamp hon am chwe blynedd. Yn ogystal â gwella fy nghryfder a ffitrwydd, mi wnes i gwrdd â grŵp arbennig o ffrindiau. Cawsom ein taflu at ein gilydd fel cyd-chwaraewyr, ond rydym wedi aros yn agos. Rydym yn fwy na ffrindiau sglefrio, rydym yn ffrindiau agos. Rydym wedi sefyll ochr yn ochr â’n gilydd wrth i ni briodi a chael plant, wedi bod yno i’n gilydd trwy dorcalon a phrynu tai ac, yn fwyaf diweddar, wedi cysuro ein gilydd ar ôl colli un o’n criw, Areesha (Reesh). Roedd hi’n 35 oed.
Grym oedd Reesh. Roedd hi’n uchelgeisiol, yn hyderus ac yn gystadleuol. Roedd hi’n swnllyd, yn ddramatig, yn siaradus, ac yn ddiymdrech o ddoniol – fel arfer pan nad oedd unrhyw reswm i fod. Roedd hi’n gallu bod yn hi ei hun heb orfod ymddiheuro ac roedd hi’n gwneud ffrindiau gyda phawb roedd hi’n ei chyfarfod. Roedd Reesh yn manteisio ar bob cyfle a roddwyd iddi. Hi yw’r unig berson dwi’n ei nabod sydd wedi cael nifer o wyliau unwaith-mewn-oes ac sydd methu’n lân a gwybod beth yw FOMO gan nad oedd hi byth yn methu allan ar unrhyw beth! Rwyf mor falch ei bod wedi byw felly.
Ym mis Mawrth 2021, cafodd Reesh ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd. Credai mai’r ffordd orau o wynebu triniaeth oedd meddwl yn gadarnhaol. Ac, ar yr arwyneb o leiaf, fe wnaeth hi. Canolbwyntiodd yn llwyr ar godi arian ar gyfer elusennau ac archwilio triniaethau a allai fod o gymorth. Ni oedd ei chefnogwyr – roedden ni’n gadarnhaol ar y diwrnodau lle nad oedd hi’n gallu bod ac yn dal i wneud y pethau ‘normal’. Doedd hi ddim eisiau cael ei diffinio gan ei salwch, felly fe wnaethon ni wneud yn siŵr nad oedd hi.
Yn anffodus, ar 19 Chwefror 2022, bu farw Reesh. Dydw i erioed wedi teimlo colled o’r fath. Ni allaf ddod â fy hun i ddweud ei bod wedi ‘colli’ ei brwydr â chanser oherwydd nid wyf yn hoffi goblygiadau’r geiriau hynny. Pe bai canser yn beth y gellid ei guro, yna byddai rhywun â chryfder a phenderfyniad Reesh yn gallu ei guro. Ac o fewn ein grŵp o ffrindiau, gan gynnwys rheolwyr, hyfforddwyr, peirianwyr, strategwyr ac ystadegwyr, byddem wedi meddwl am gynllun a’i gyflawni. Ond nid dyna sut mae hyn yn gweithio.
Wedi fy ysbrydoli gan agwedd gadarnhaol Reesh i fanteisio ar bopeth a ddaw fy ffordd i ac ar ôl sylweddoli pa mor fyr yw bywyd, sylweddolais fy mod wedi bod yn cymryd fy iechyd a’m lles yn ganiataol. Rwyf, felly, wedi cofrestru ar gyfer rhedeg yr hanner marathon gyda #TeamCardiff i godi arian dros ymchwil canser (roeddwn hefyd ychydig yn genfigennus o gyflawniadau’r rhai a redodd yr hanner marathon ym mis Mawrth (sylwch, dyna fy elfen gystadleuol!)).
Ar wahân i wneud Couch i 5k ddiwedd 2021, a hyd yn oed ar ôl hynny dychwelais i’r soffa, nid wyf erioed wedi rhedeg o’r blaen. Nid wyf yn rhedwr. Fodd bynnag, rwy’n cael fy ngyrru ymlaen gan nodau. Os byddaf yn gosod nod i fy hun, byddaf yn ei gyflawni. Roedd meddwl am yr holl hyfforddiant yn frawychus i ddechrau, ond rwyf wedi ailymweld â rhediadau C25K, dod o hyd i gynllun hyfforddi wedi’i deilwra, ac mae rhywun o’n grŵp ni wedi cytuno i redeg gyda mi. Fe ysgogodd yr olaf i mi ddechrau cyfeirio at yr hanner marathon fel ras! Rwyf hyd yn oed wedi troi fy ymdrechion codi arian yn gystadleuaeth.
Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan haelioni’r rhai sydd wedi rhoi yn barod. Mae’n ychwanegu tanwydd ychwanegol at fy nhân ar y dyddiau hynny lle nad wyf eisiau gwisgo fy esgidiau rhedeg, neu pan mae dechrau pennod newydd ar Netflix yn llawer mwy apelgar na’r ysfa i fynd allan i redeg. Rydw i wedi cael cyngor gwych gan ffrindiau am amrywio fy llwybrau rhedeg fel nad ydw i’n diflasu, yn ogystal â gwrando ar bodlediadau ar gyfer rhediadau hirach ac arbrofi gyda maeth hefyd. Rwyf wedi dod o hyd i rai cymunedau rhedeg gwych ar Twitter.
Mae’n gyffredin i bobl sy’n mynd yn sâl neu sy’n cael newyddion sy’n newid bywyd ysgrifennu rhestr o’r hyn y maent eisiau ei gyflawni. Nid oedd Reesh angen gwneud hynny oherwydd dyna sut roedd hi’n byw beth bynnag. Rwy’n meddwl bod hynny’n wers i ni gyd, ac rwy’n gobeithio mai cofrestru i redeg yr hanner marathon yw’r cam cyntaf ar fy nghenhadaeth i #BeMoreReesh.
Gallwch gefnogi ymdrechion codi arian Laura drwy ei thudalen JustGiving
Os hoffech chi redeg Hanner Marathon Caerdydd er cof, dathliad, neu i roi her i chi’ch hun a chadw’n heini, gwnewch gais am le elusennol #TeamCardiff rhad ac am ddim.
Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd i niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy’n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy’n byw gydag ystod eang o gyflyrau.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018