Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Cwrdd â’r Gwirfoddolwr – Audrey Long (BSc 1987)

15 Mawrth 2022
Audrey Long

Mae gan Audrey Long (BSc 1987) dros 25 mlynedd o brofiad proffesiynol mewn marchnata gwyddor bywyd a datblygu busnes ledled y byd. Mae gan Audrey ddiddordeb hefyd mewn busnesau newydd ym maes gwyddor bywyd a diagnosteg, gan eu helpu i ddiffinio strategaeth, dadansoddi’r farchnad a datblygu cynlluniau busnes, yn ogystal â gweithgareddau codi arian. Mae Audrey newydd ddechrau ei hail flwyddyn yn fentor ar gyfer rhaglen Menywod yn Mentora Caerdydd, gan gynnig ei chyngor a’i chefnogaeth i fenywod graddedig ar ddechrau eu gyrfa.

Roeddwn yn un o ddim ond dwy fenyw yn fy ngharfan Biocemeg israddedig blynyddoedd yn ôl. Gan fy mod yn fenyw sydd â gyrfa mewn gwyddoniaeth, rwy’n teimlo ei bod yn bwysig i mi gefnogi menywod graddedig ifanc wrth iddynt lywio’r hyn a all weithiau fod yn faes heb fawr o gefnogaeth, ym myd busnes a’r amgylchedd gwaith.

Yn ystod rhaglen Menywod yn Mentora’r llynedd, roeddwn yn fentor i ddwy fenyw graddedig ifanc. Roeddwn yn ffodus i allu dod i’w hadnabod trwy Skype neu Facetime. Byddwn wedi hoffi cyfarfod â nhw wyneb yn wyneb (ac efallai y ceisia i wneud hynny rywbryd) ond gwnaeth y pandemig rwystro hynny! Gwnaeth y ddwy argraff arnaf a chawsom gyfarfodydd unigol a chyfarfodydd grŵp i rannu eu pryderon, eu syniadau a rhannais fy mhrofiadau hefyd. Roedd ganddynt broblemau cyffredin ond hefyd anghenion unigol, felly buom yn eu trafod i gyd, gan ystyried eu cefndiroedd gwahanol.

Rhoddodd gyfle i mi ddysgu am y newidiadau mewn amgylchiadau gwaith ar gyfer cenhedlaeth wahanol. Fe wnaeth fy mentoreion fy helpu i ddeall eu dulliau modern sy’n cael eu llywio gan dechnoleg – bod technoleg wedi effeithio ar berthnasoedd gwaith yn yr oes fodern o gyfathrebu.

Rwy’n credu bod hi’n bwysig bod dynion a menywod yn cael mentor da. Rydw i wedi bod yn lwcus o gael pobl arbennig yn fy mywyd gwaith – roedd un ohonynt yn rheolwr arnaf mewn tri chwmni gwahanol dros gyfnod o tua 12 mlynedd! Y llall oedd fy athro gitâr (sydd wedi fy nysgu ers pan oeddwn yn 11 oed!) Mae hi wedi bod yn gysondeb yn fy mywyd ac mae’n deall pwysigrwydd cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Un o fy arwyr hefyd oedd yr Athro Gillian Powell, a oedd yn Bennaeth Biocemeg yn ystod fy astudiaethau gradd yng Nghaerdydd. Roedd hi’n ysbrydoliaeth wirioneddol a gwnaeth i mi sylweddoli bod menywod weithiau’n gallu bod yn brin o’r hyder neu’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud trawsnewidiadau llwyddiannus i fyd busnes.

Dylai mentor da fod yn ddigon arwahanol a chefnogol er mwyn gallu cynnig persbectif profiadol, ond hefyd ddysgu am sut mae eu mentoreion yn wynebu amgylchedd gwaith sy’n newid yn gyflym.
Fy nod yw gwrando ar fy mentoreion. Rwy’n parchu bod hwn yn gyfle i mi roi hyder a thawelu ofnau am broblemau y maent yn ei chael yn anodd eu trafod ag eraill. Rwy’n ceisio rhoi cefndir ystyrlon i unrhyw broblemau maent wedi’u cael a sut y gwnaethant eu datrys.

Rwy’n dweud wrth fy mentoreion am beidio â bod ofn trafod agweddau a allai ymddangos yn rhyfedd. Weithiau gall fod yn anodd dod o hyd i rywun “cyfrinachol” i wrando arnoch chi heb deimlo embaras. Rydw i am gynnig fforwm sy’n le diogel i ofyn am gyngor, cymorth, neu syniadau ar sut i fynd i’r afael â’u gyrfaoedd.

Er ei bod bob amser yn ddefnyddiol dysgu oddi wrth ein camgymeriadau ein hunain, gall fod hyd yn oed yn fwy diddorol dysgu oddi wrth brofiadau rhywun arall, a hynny er mwyn deall safbwynt gwahanol ynghylch sut i ddelio â sefyllfaoedd anodd. Gall cymryd rhan mewn fforwm pan fydd cyn-fyfyrwyr neu fyfyrwyr iau yn elwa ar yrfa a phrofiad rhywun arall fod yn hynod o werth chweil!

Rhagor o wybodaeth am gymryd rhan a chefnogi myfyrwyr a graddedigion Caerdydd trwy wirfoddoli.