Cyswllt Caerdydd, I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr, News

Sut gallwn ni fwyta ein ffordd i blaned iachach – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Steve Garret (MSc 2009) yw Sylfaenydd Bwyd Go Iawn Glan-yr-Afon, marchnadoedd bwyd wythnosol sy’n hyrwyddo bwyd ffres, cynaliadwy a lleol. Mae Steve yn actifydd angerddol am fwyd ac yn entrepreneur cymdeithasol arobryn. Yma, mae’n esbonio pam ei bod yn bwysig bwyta’n lleol a manteision siopa mewn marchnadoedd ffermwyr lleol.   

Faint o bethau sy’n dda i chi, yn llawer o hwyl, ac yn dda i’r blaned? Dim llawer — ond mae prynu a bwyta bwyd tymhorol, wedi’i gynhyrchu’n lleol o’ch marchnad ffermwyr leol yn un ohonyn nhw.

Gadewch i ni ddechrau gyda’r elfen amgylcheddol. Mae cynhyrchu a dosbarthu bwyd yn un o’r cyfranwyr mwyaf at nwyon tŷ gwydr a chynhesu byd-eang. Felly mae’n gwneud synnwyr i ni brynu bwyd mor gynaliadwy â phosibl os ydym am leihau ein heffaith ar newid yn yr hinsawdd.

Rheol dda yw bwyta bwyd sydd wedi’i gynhyrchu mor lleol â phosibl, oherwydd ei fod wedi teithio llai. Mae trafnidiaeth yn cynhyrchu llawer o nwyon tŷ gwydr. Hefyd, mae bwyd sydd wedi’i gynhyrchu’n organig neu gyda dulliau cynaliadwy yn well oherwydd bod llawer o olew yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r gwrtaith mewn ffermio dwys, heb sôn am y difrod y mae’n ei wneud i’r tir. Os ydym yn poeni am gynaliadwyedd, heb os rydym eisiau pridd iach i genedlaethau’r dyfodol dyfu eu cnydau ynddo.

Mae prosesu bwyd yn gyfrannwr mawr arall at ôl troed carbon y system fwyd, ac ni fydd bwyd wedi’i brosesu cystal i chi (neu mor flasus!) â phryd o fwyd wedi’i wneud o gynhwysion lleol ffres.

Yn olaf, mae cynhyrchu cig yn defnyddio llawer mwy o adnoddau na llysiau ar gyfer pob calori a gynhyrchir, felly mae bwyta llai yn dda i’r blaned ac i’n hiechyd. Does dim angen i ni i gyd fod yn llysieuwyr ond mae bwyta cig bob dydd yn ddiangen ac yn ormodol. A phan fyddwch chi’n ei brynu, cofiwch y bydd anifeiliaid ar ffermydd bach lleol wedi cael eu trin yn llawer gwell nag ieir a gwartheg sy’n cael eu magu mewn ffatrïoedd enfawr sy’n cynhyrchu cig.

Y newyddion da arall yw y bydd y bwyd sy’n cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy gan ddefnyddio dulliau iachach i’r pridd hefyd yn iachach i chi — ac, yn fy marn i, yn fwy blasus! Os ydych chi wedi blasu tomato sydd wedi ei gludo o Sbaen a’i gymharu ag un mewn marchnad leol a gafodd ei dynnu’n ffres oddi ar y planhigyn gan y ffermwr, mae’r gwahaniaeth yn rhyfeddol, ac mae hynny’n berthnasol i’r rhan fwyaf o lysiau.

Wrth gwrs, mae rhai ohonom yn bryderus am bris prynu bwyd lleol o gymharu â phrynu o gadwyn archfarchnad. Mae bag o salad lleol yn cadw’n ffres am o leiaf pythefnos. Byddai’r un bag o archfarchnad yn slwtsh gwyrdd ar ôl ychydig ddyddiau, oherwydd ei fod eisoes wedi cael ei storio am gyfnod cyn cyrraedd y silffoedd. Mae hyn yn lleihau ei gynnwys maeth yn sylweddol, heb sôn am ladd y blas.

Mae’n anodd dod o hyd i ffyrdd y gallwch gael effaith ar gynaliadwyedd a gwneud y newid rydych chi eisiau ei weld. Os ydych chi’n cefnogi cynhyrchwyr lleol rydych chi’n cyfrannu at system gynhyrchu bwyd lleol ffyniannus, sy’n creu pobl iach a phlaned iach.

Mae llawer o bobl yn meddwl mwy ar hyn o bryd am sut mae eu ffordd o fyw yn effeithio ar eu hiechyd a’r blaned, ac mae hyn yn sicr yn amlwg gyda phrynu bwyd. Mae mwy o bobl eisiau gwybod o ble mae eu bwyd yn dod, a chael y cynnyrch gorau, mwyaf ffres a blasus sydd ar gael, gyda’r difrod amgylcheddol lleiaf. Dyna pam sefydlon ni Farchnad Glan-yr-Afon a Marchnad y Rhath dros ugain mlynedd yn ôl. Ein rheolau yw bod yn rhaid i stondinwyr fod wedi tyfu, cynhyrchu neu wneud yr hyn y maent yn ei werthu.

Mae siopa mewn marchnad ffermwyr yn achlysur cymdeithasol rhyfeddol — hollol wahanol i gerdded o amgylch archfarchnad wedi’u oleuo’n llachar ac yn llawn bwyd wedi’i becynnu a’i brosesu. Gallwch chi siarad â’r cynhyrchwyr, cael syniadau ar gyfer ryseitiau, blasu samplau, cwrdd â ffrindiau – a chael y coffi Masnach Deg gorau yn y ddinas. Rhowch gynnig arni rywbryd!

https://www.riversidemarket.org.uk/