Cwrdd â’r Gwirfoddolwr – Audrey Long (BSc 1987)
15 Mawrth 2022Mae gan Audrey Long (BSc 1987) dros 25 mlynedd o brofiad proffesiynol mewn marchnata gwyddor bywyd a datblygu busnes ledled y byd. Mae gan Audrey ddiddordeb hefyd mewn busnesau newydd ym maes gwyddor bywyd a diagnosteg, gan eu helpu i ddiffinio strategaeth, dadansoddi’r farchnad a datblygu cynlluniau busnes, yn ogystal â gweithgareddau codi arian. Mae Audrey newydd ddechrau ei hail flwyddyn yn fentor ar gyfer rhaglen Menywod yn Mentora Caerdydd, gan gynnig ei chyngor a’i chefnogaeth i fenywod graddedig ar ddechrau eu gyrfa.
Roeddwn yn un o ddim ond dwy fenyw yn fy ngharfan Biocemeg israddedig blynyddoedd yn ôl. Gan fy mod yn fenyw sydd â gyrfa mewn gwyddoniaeth, rwy’n teimlo ei bod yn bwysig i mi gefnogi menywod graddedig ifanc wrth iddynt lywio’r hyn a all weithiau fod yn faes heb fawr o gefnogaeth, ym myd busnes a’r amgylchedd gwaith.
Yn ystod rhaglen Menywod yn Mentora’r llynedd, roeddwn yn fentor i ddwy fenyw graddedig ifanc. Roeddwn yn ffodus i allu dod i’w hadnabod trwy Skype neu Facetime. Byddwn wedi hoffi cyfarfod â nhw wyneb yn wyneb (ac efallai y ceisia i wneud hynny rywbryd) ond gwnaeth y pandemig rwystro hynny! Gwnaeth y ddwy argraff arnaf a chawsom gyfarfodydd unigol a chyfarfodydd grŵp i rannu eu pryderon, eu syniadau a rhannais fy mhrofiadau hefyd. Roedd ganddynt broblemau cyffredin ond hefyd anghenion unigol, felly buom yn eu trafod i gyd, gan ystyried eu cefndiroedd gwahanol.
Rhoddodd gyfle i mi ddysgu am y newidiadau mewn amgylchiadau gwaith ar gyfer cenhedlaeth wahanol. Fe wnaeth fy mentoreion fy helpu i ddeall eu dulliau modern sy’n cael eu llywio gan dechnoleg – bod technoleg wedi effeithio ar berthnasoedd gwaith yn yr oes fodern o gyfathrebu.
Rwy’n credu bod hi’n bwysig bod dynion a menywod yn cael mentor da. Rydw i wedi bod yn lwcus o gael pobl arbennig yn fy mywyd gwaith – roedd un ohonynt yn rheolwr arnaf mewn tri chwmni gwahanol dros gyfnod o tua 12 mlynedd! Y llall oedd fy athro gitâr (sydd wedi fy nysgu ers pan oeddwn yn 11 oed!) Mae hi wedi bod yn gysondeb yn fy mywyd ac mae’n deall pwysigrwydd cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Un o fy arwyr hefyd oedd yr Athro Gillian Powell, a oedd yn Bennaeth Biocemeg yn ystod fy astudiaethau gradd yng Nghaerdydd. Roedd hi’n ysbrydoliaeth wirioneddol a gwnaeth i mi sylweddoli bod menywod weithiau’n gallu bod yn brin o’r hyder neu’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud trawsnewidiadau llwyddiannus i fyd busnes.
Dylai mentor da fod yn ddigon arwahanol a chefnogol er mwyn gallu cynnig persbectif profiadol, ond hefyd ddysgu am sut mae eu mentoreion yn wynebu amgylchedd gwaith sy’n newid yn gyflym.
Fy nod yw gwrando ar fy mentoreion. Rwy’n parchu bod hwn yn gyfle i mi roi hyder a thawelu ofnau am broblemau y maent yn ei chael yn anodd eu trafod ag eraill. Rwy’n ceisio rhoi cefndir ystyrlon i unrhyw broblemau maent wedi’u cael a sut y gwnaethant eu datrys.
Rwy’n dweud wrth fy mentoreion am beidio â bod ofn trafod agweddau a allai ymddangos yn rhyfedd. Weithiau gall fod yn anodd dod o hyd i rywun “cyfrinachol” i wrando arnoch chi heb deimlo embaras. Rydw i am gynnig fforwm sy’n le diogel i ofyn am gyngor, cymorth, neu syniadau ar sut i fynd i’r afael â’u gyrfaoedd.
Er ei bod bob amser yn ddefnyddiol dysgu oddi wrth ein camgymeriadau ein hunain, gall fod hyd yn oed yn fwy diddorol dysgu oddi wrth brofiadau rhywun arall, a hynny er mwyn deall safbwynt gwahanol ynghylch sut i ddelio â sefyllfaoedd anodd. Gall cymryd rhan mewn fforwm pan fydd cyn-fyfyrwyr neu fyfyrwyr iau yn elwa ar yrfa a phrofiad rhywun arall fod yn hynod o werth chweil!
Rhagor o wybodaeth am gymryd rhan a chefnogi myfyrwyr a graddedigion Caerdydd trwy wirfoddoli.
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018