Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Uwd siocled, menyn cnau daear, a llus
10 Mawrth 2022Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi’i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus!
Dyma’r cogydd
Sarah John (BA 2011) yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, bragdy llwyddiannus a ddechreuodd gyda’i phartner busnes pan oedd yn ei hugeiniau. Ystyrir Sarah yn un o entrepreneuriaid gorau’r DU a dechreuodd ar ei thaith yma yng Nghaerdydd fel myfyriwr Newyddiaduraeth.
“Ro’n i wrth fy modd yn coginio’r uwd yma pan o’n i’n fyfyriwr – roedd yn teimlo fel ffordd o gael siocled i frecwast heb fod yn ddrwg! Roedd yn gwneud i mi deimlo’n llawn am oesoedd, felly dyma’ r dewis os o’n i’n gwybod bod gen i aseiniad hir i’w orffen y diwrnod hwnnw.”
Dewch i ni goginio…
Rhestr siopa
300ml o ddŵr llaethog
(ó llaeth, ó dŵr)
75g o geirch
1 llwy fwrdd o bowdwr siocled
Llond llaw o lus (blueberries)
3 llwy fwrdd o ddŵr
1 pinsiad o halen
Llwyaid neu ddwy o fenyn cnau daear (llyfn neu grensiog)
10g o naddion siocled tywyll
Bydd arnoch angen
Jwg mesur Sosban ganolig Sosban fach
Dull
Cam 1
Cymysgu’r dŵr llaethog, y ceirch a’r halen mewn sosban a dod â’r cyfan i’r berw.
Cam 2
Pan fydd yn berwi, gostwng y gwres a’i fudferwi am tua 5 munud nes ei fod wedi tewhau. Rhaid troi’r gymysgedd bob hyn a hyn fel nad yw’n gludo ar waelod y sosban.
Cam 3
Ychwanegu’r powdr siocled a’r menyn cnau daear.
Cam 4
Mewn sosban lai, mudferwi’r llus yn y dŵr am tua 2 funud nes bod rhywfaint o sudd i’w weld.
Cam 5
Gweini’r uwd gyda’r llus (gan gynnwys y sudd blasus!) a naddion siocled.
Dewisol
Ei wneud yn figan drwy ddefnyddio dewis llaeth soia neu geirch (neu ddŵr yn unig).
Ei wneud yn ddi-glwten drwy ddefnyddio ceirch heb glwten.
Myfyrwyr, Megan Somerville (BSc 2021) Llywydd yr Undeb Athletau a Dirprwy Lywydd Chwaraeon…
“Dechreuwch y diwrnod yn iawn gydag ychydig o uwd. Dyma’r ffordd orau o ddechrau’r diwrnod a gallwch fod yn greadigol drwy ychwanegu blasau ac ati. Perchnogwch eich uwd!”
Wedi mwynhau’r rysáit hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn Recipes for Success. Ewch amdani!
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018