Trafod polareiddio byd-eang – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr
15 Chwefror 2022Mae Alexandra Chesterfield (BA 2003 a PGDip 2004) yn cymhwyso gwyddor ymddygiadol i’w gwaith, er mwyn gwella canlyniadau i unigolion, sefydliadau a chymdeithasau. Mae’n Bennaeth Risg Ymddygiad mewn banc llwyddiannus ac yn ddarlithydd gwadd yng Ngholeg yr Iesu Caergrawnt. Mae podlediad newydd Alexandra, Changed My Mind, a’i llyfr, Poles Apart, yn trin a thrafod ac yn mynd i’r afael â’r polareiddio cynyddol sy’n digwydd ledled y byd. Yma mae’n esbonio pam mae hwn yn bwnc mor bwysig, a pham nawr yn fwy nag erioed, mae angen trafod hyn.
Fe wnes i ffurfio cyfeillgarwch gwych yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda phobl o bob cwr o’r byd. Fe wnaeth i mi sylweddoli hefyd bod y grwpiau rydyn ni’n uniaethu â nhw – boed yn bêl-droed, cenedligrwydd, gwleidyddol ac ati – yn llywio’n sylfaenol sut rydyn ni’n ymddwyn, pwy ydyn ni’n hoffi a phwy nad ydym yn eu hoffi. Un o’m hatgofion cynharaf o ‘ni a nhw’ oedd yn ystod fy wythnos gyntaf mewn neuaddau myfyrwyr yn Heol Column. Ar ôl cael diod neu ddau, defnyddiodd un o fy nghyd-letywyr Cymreig derm difrïol i amlygu fy hunaniaeth Seisnig. Cefais fy magu mewn swigen grŵp fy hun ac mewn amgylchedd Saesneg yn bennaf, a doeddwn i erioed wedi sylweddoli y gallai fy ‘label’ grŵp (a minnau’n Sais) arwain rhywun i deimlo’n elyniaethus tuag ataf.
Ar ôl graddio mewn BA Anrh Llenyddiaeth Saesneg a Diploma PG mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, es i ar gynllun i raddedigion mewn cangen gyfathrebu fyd-eang fawr yn Llundain. Roedd un o’m lleoliadau yn cynnwys gweithio mewn ymgynghoriaeth ymchwil gyda’r sawl a oedd yn dadansoddi polau piniwn ar y pryd ar gyfer Tony Blair a Gordon Brown. Fe wnaeth y gwaith gynnau angerdd dros ddeall pam rydym yn gwneud yr hyn a wnawn, sut rydyn ni’n dod i feddwl beth rydyn ni’n ei feddwl, a sut y gellir defnyddio’r mewnwelediadau hynny ar gyfer newid cadarnhaol.
Pam mae pobl yn hoffi ffurfio grwpiau? Ar un lefel, mae categoreiddio pethau i grwpiau yn broses wybyddol naturiol iawn – o fwsogl, i ffilmiau, i lyfrau a phobl! Ar lefel arall, mae gan fodau dynol, fel rhywogaethau eraill, angen cynhenid i berthyn i grŵp. Yn ogystal â manteision corfforol fel bwyd, cynhesrwydd ac amddiffyniad, mae bod yn rhan o grŵp yn rhoi teimlad o ddiogelwch ac yn ein helpu i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Mae hefyd yn dod â manteision emosiynol sylweddol ar ffurf balchder a hunan-barch. Mae’n lleihau ansicrwydd.
Ond gwyddom hefyd, cyn gynted ag y byddwn yn categoreiddio pobl yn ‘ni’ a ‘nhw’, ei fod yn sbarduno llu o deimladau ffafriol tuag at ein grŵp mewnol a theimladau negyddol tuag at ein grŵp allanol. Blynyddoedd yn ddiweddarach ymunais â Which?, Cymdeithas Defnyddwyr fwyaf Ewrop, lle sefydlais ac arweiniais ei thîm Gwyddor Ymddygiad cyntaf a gwnes i MSc yng Ngholeg Prifysgol Llundain mewn Gwyddor Wybyddol a Phenderfynu. Ar yr un pryd, cefais fy ethol ar fy Nghyngor lleol. Tra roeddwn yn canfasio ges i bobl yn rhegi, yn poeri ac yn gweiddi arnaf. Roeddwn yn chwilfrydig iawn ynghylch pam y gall y grwpiau yr ydym yn uniaethu â hwy achosi cymaint o ddrwgdeimlad a gelyniaeth.
Fe wnes i ymuno â dau gydweithiwr o Which? ac fe wnaethom lansio podlediad o’r enw Changed my Mind, a gynhaliwyd gan Open Democracy, yn gofyn i arweinwyr o fyd busnes, y byd academaidd a gwleidyddiaeth am adeg pan oeddent wedi newid eu meddwl i hyrwyddo meddwl agored, myfyrio a mwy o oddefgarwch. Yn dilyn llwyddiant y podlediad cawsom gytundeb byd eang gyda Penguin Random House i ysgrifennu llyfr ar pam y gall grwpiau droi yn erbyn ei gilydd a sut i ddod â phobl yn ôl at ei gilydd. Er ein bod wedi newid swyddi, cafodd un ohonom fabi, ac wrth gwrs y pandemig byd-eang, cyhoeddwyd Poles Apart ym mis Medi 2021 gyda chymeradwyaeth wych (rwy’n dal i fethu credu’r peth).
O ymosod ar adeilad y Capitol yn Washington DC a gwahaniaethau amlwg yn y DU ar Brexit i ddadleuon dros newid yn yr hinsawdd sy’n rhannu llawer o wledydd, mae’r troi at ‘ni a nhw’ yn weladwy ar draws y byd. Mae’r rhaniadau hyn yn cael eu gwaethygu gan amgylchiadau economaidd-gymdeithasol anodd, newidiadau technolegol cyflym, ac ymdeimlad cynyddol o ansicrwydd, nad yw’r pandemig byd-eang yn ei helpu. Mae pethau’n debygol o waethygu cyn iddynt wella. Ond ar nodyn mwy cadarnhaol, er nad oes ateb syml i’r broblem hirsefydlog ar gyfer polareiddio, ni ellir rhoi’r effeithiau o’r neilltu; rhaid i ni gymryd camau’n unigolion, grwpiau, busnesau a chymdeithas i fynd i’r afael ag ef. Yr ydym i gyd yn rhan o’r broblem, ond o leiaf mae hynny’n golygu y gallwn i gyd fod yn rhan o’r ateb.
Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi
Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018