Cymuned Caerdydd yn cael ei chydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2022
17 Ionawr 2022Mae Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines ar gyfer 2022 yn cydnabod cyflawniadau eithriadol llawer o aelodau o gymuned Prifysgol Caerdydd.
Mae Syr Paul Nurse (Cymrawd Anrhydeddus 2014) yn enillydd Gwobr Nobel, genetegydd, biolegydd celloedd, aelod hirdymor o’r Cyngor Gwyddoniaeth a Thechnoleg a chrewr Sefydliad Francis Crick. Dyfarnwyd Cydymaith Anrhydedd iddo am ei wasanaethau i wyddoniaeth a meddygaeth yn y DU a thramor.
Dyfarnwyd CBE i Dr Neil Wooding (PhD 2003) am ei wasanaethau i gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a’r gymuned yng Nghymru. Roedd Neil yn Brif Swyddog Pobl i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn ymgynghorydd i Swyddfa’r Cabinet. Dywedodd Dr Neil wrth y Western Telegraph bod derbyn anrhydedd o’r fath ‘yn fraint ac yn bleser’.
Dyfarnwyd OBE i Mr Alan Brace (BA 1983), Cyfarwyddwr Cyllid GIG Cymru, am ei wasanaethau i’r GIG a’r ymateb i COVID-19 yng Nghymru.
Derbyniodd Mr Graham Edwards (MBA 1992) OBE am ei ewasanaethau i fusnesau a’r gymuned yng Nghymru. Ef yw Prif Weithredwr Wales and West Utilities ac mae wedi bod yn eiriolwr brwd dros gyfleoedd cyfartal ac yn helpu eraill i wireddu eu potensial.
Mae Mr Martin Lewis (Dip.Ôl-radd 1998, Cymrawd Anrhydeddus 2017) yn newyddiadurwr ymgyrchu ac ef wnaeth sefydlu MoneySavingExpert.com ac elusen y Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl. Cafodd ei gydnabod gyda CBE am wasanaethau i ddarlledu a hawliau defnyddwyr. Dywedodd Mr Lewis ar Twitter ei fod wedi cael sioc a’i fod wrth ei fodd yn derbyn yr anrhydedd.
Wow. I've been upgraded! Shocked & thrilled to get a CBE
Huge THANKS to all who nominated me, it was unnecessary, but lovely – and to all who follow & support my work. I hope it helps
Best bit (Covid permitting) is this time my little one’s old enough to be with when I get it! pic.twitter.com/7BYY4K8pMn
— Martin Lewis (@MartinSLewis) January 1, 2022
Mr Sanjiv Vedi (BSc 1984) yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Swyddfa Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd ei anrhydeddu eleni gydag OBE am wasanaethau cyhoeddus, elusennol a gwirfoddol.
Dyfarnwyd MBE i’r Parchedig Steven Bunting (BTh 2012) am ei wasanaethau elusennol i’r gymuned yn Abertawe. Mae’r Parchedig Bunting yn eiriolwr brwd dros y rhai mewn angen a’r rhai sy’n dioddef o dlodi bwyd. Ar ôl derbyn ei MBE, mynegodd ei ddiolch ar Twitter.
Dyfarnwyd MBE i Dr Seema Arif (PGCert 2011) am ei wasanaethau i ofal iechyd ymhlith y gymuned Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae hi wedi gweithio’n ddiflino i wynebu a herio rhwystrau diwylliannol i ofal iechyd ac i daflu goleuni ar addysg iechyd mewn cymunedau BAME.
Derbyniodd yr Athro Euan Hails (EdD 2012), nyrs ymgynghorol ac athro a arweiniodd y gwaith o ddatblygu’r gwasanaethau Seicosis Ymyrraeth Gynnar (EIP) cenedlaethol ledled Cymru, MBE am ei wasanaethau i iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Dyfarnwyd MBE i Dr Edward Roberts (MBBCh 1970) am ei wasanaethau i feddygaeth ac i’r gymuned yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Derbyniodd Mr Craiger Solomans (BSc 2011) MBE am wasanaeth cyhoeddus am ei waith yn Ddadansoddwr Arweiniol yng Nghell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru.
Dyfarnwyd MBE i Miss Katherine Sparkes (BA 2002), Cymrawd Academaidd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd a Sylfaenydd Flamingo Chicks, am ei gwasanaethau i blant ag anableddau a’u teuluoedd. Dywedodd Miss Sparkes wrth BristolWorld: “Roeddwn i’n hapus ac yn methu credu’r peth. Roedd yn anodd ei gadw’n gyfrinach. Wnes i ddim dweud wrth neb nes iddo gael ei gyhoeddi.”
Mae Dr Bnar Talabani (MBBCh 2013) yn Gymrawd Academaidd Clinigol Ymddiriedolaeth Wellcome GW4 ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Wyddonydd Imiwnoleg sydd wedi bod yn mynd i’r afael â chelwyddau am y brechlyn ar TikTok. Dyfarnwyd MBE iddi am wasanaethau i’r GIG ac i’r cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn enwedig yn ystod COVID-19.
Dywedodd wrth y BBC: “Roedd yn sioc enfawr ac mae’n parhau i fod felly. Rydw i mor ddiolchgar am y gydnabyddiaeth ond rydw i’n gwybod hefyd bod cynifer o’r rhai yr ydw i wedi gweithio gyda nhw yn haeddu’r gydnabyddiaeth hon hefyd.”
Honoured & humbled to have been appointed #MBE in the #NewYearsHonoursList Thank you to my amazing colleagues at @muslimdoccymru @projecthalo @britsocimm who have worked tirelessly over the past year to combat #covidvaccine #misinformation. @gw4_cat @cardiffuni @CardiffMBBChC21 https://t.co/q83WkUlX1j
— Dr Bnar Talabani MBE (@bnar) December 31, 2021
Mae’r Athro Nalin Chandra Wickramasinghe yn arfer bod yn Athro ac yn Bennaeth Adran Mathemateg Gymhwysol a Ffiseg Fathemategol ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaethau i wyddoniaeth, seryddiaeth ac astrofioleg.
Mae Miss Linda Alexander (LLM 2003) yn Ddirprwy Gyfarwyddwr nyrsio a dyfarnwyd BEM iddi am ei gwasanaethau i ofal cleifion ac atebion amgen i’r gweithlu yn GIG Cymru.
Derbyniodd Miss Charlotte Butter (BA 2015) a Dr John Manly (MBBCh 2016), sylfaenwyr DeliverAid, BEM am eu gwasanaethau i weithwyr rheng flaen a’r GIG yn ystod COVID-19.
Cafodd Miss Ceri Jones (Dip 1995), Prif Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ei hanrhydeddu â BEM am ei gwasanaethau i ofal diabetes. Dywedodd Miss Jones wrth Nursing Times: “Mae’n braf cael fy nghydnabod ond mae fy nhîm yno, yn gwneud y gwaith hefyd – maen nhw’n anhygoel.”
Dyfarnwyd DBE i’r Fonesig Jennifer Harries (MPH 2000), Prif Weithredwr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, am ei gwasanaeth rhagorol i iechyd y cyhoedd. Chwaraeodd ran hanfodol yn yr ymateb i COVID, Ebola, Zika, monkeypox, MERS ac ymosodiadau Novichok.
Rydym mor falch o’n cymuned o gynfyfyrwyr yng Nghaerdydd. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi’u cydnabod am eu hymroddiad a’u cyflawniadau.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018