Awgrymiadau gorau gan y podledwyr proffesiynol
21 Medi 2021Mae podledu ym mhobman y dyddiau hyn, gydag unigolion a busnesau fel ei gilydd yn creu tameidiau o sain i wrandawyr eu mwynhau wrth gymudo, cerdded, neu wneud tasgau bob dydd. Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (wrth gwrs) wedi neidio’n syth i mewn, gan sefydlu eu podlediadau llwyddiannus eu hunain a rhannu’r hyn y maen nhw’n angerddol amdano gyda’r byd. Sut wnaethon nhw hynny? Wel, fe wnaethon ni ofyn iddynt …
James Smart (MA 2016)
Mae James yn newyddiadurwr darlledu llwyddiannus a hoffus wedi’i leoli yn Nairobi. Er ei fod fel arfer yn cyflwyno ar gyfer rhai o brif rwydweithiau teledu Kenya, trochodd flaenau ei draed yn y pwll podledu yn ddiweddar a gwnaeth dipyn o sblash gyda’i bodlediad ymchwiliol Case Number Zero. Dyma’i dri awgrymiad gorau ar gyfer podledwyr newydd:
- Fformat – yn dibynnu ar y pwnc mae yna ddwsinau o ffyrdd o weithredu a dod â’ch podlediad yn fyw, felly meddyliwch am ffyrdd o wneud i’ch cynulleidfa ymddiddori cymaint ag yr ydych chi’n ei wneud am yr hyn rydych chi’n siarad amdano. Nid yw’n wir mai cyfweliadau ac eistedd gyferbyn â rhywun yw’r unig ffordd o wneud podlediadau.
- Byddwch yn ddynol – mae natur podlediadau yn golygu bod yn rhaid i ni (y gynulleidfa) gredu yn eich stori, fel y gwesteiwr mae angen i chi feithrin personoliaeth sy’n atseinio gyda ni, gan ddod o hyd i eiliadau dynol i gysylltu a bondio â ni beth bynnag yw’r pwnc rydych chi’n ei drin.
- Er mwyn creu podlediad poblogaidd, treuliwch amser yn meddwl am eich ffordd o gyflwyno a chynllun eich sioe. Mae’r rhain yn bethau syml fel cynnwys rhai recordiadau maes, synau a cherddoriaeth i ddod ag amrywiaeth i’r profiad. Rydych chi’n ceisio gwneud i ni ymddiddori mewn rhywbeth ar ddiwedd y dydd.
Alice Gray (BSc 2013)
Mae Alice yn weithiwr proffesiynol ym maes y cyfryngau a chyfathrebu sydd ag angerdd am bopeth sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae hi’n gweithio gyda’r BBC ac yn cynhyrchu ei sianel YouTube ei hun, Gray Matter. Mae hi wedi bod yn rhedeg ei phodlediad ei hun, Inside the Petri Dish, ers sawl blwyddyn, yn ogystal â helpu BengoMedia i greu podlediad Health Fact Vs Fiction a PetCast Blue Cross – felly mae hi wedi gweld y byd podledu o bob ongl! Ei phrif awgrymiadau podledu yw:
- Gwrandewch ar amrywiaeth o bodlediadau. Cyn cychwyn eich podlediad, mae angen i chi ystyried eich arddull a sut orau i gyflwyno’ch cynnwys. Canfûm fod gwrando ar amrywiaeth o themâu a fformatau podledu wedi fy helpu i ddatblygu fy arddull, oherwydd gallwch greu rhywbeth yr hoffech wrando arno ac felly rhywbeth y byddai pobl eraill eisiau gwrando arno hefyd.
- Y rheswm y daeth podledu yn boblogaidd yw ei naws amrwd. Mae’n ymwneud â theimlo fel eich bod chi’n gwrando ar sgwrs. Mae hwn yn offeryn gwych pan ydych chi’n cychwyn podlediad neu’n cymryd rhan, gan nad oes angen i chi fod yn berffaith. Gallwch ganolbwyntio ar gael sgwrs sydd o ddiddordeb i chi ac nid oes angen i chi boeni am yr arddull siarad proffesiynol sy’n nodweddiadol o fathau eraill o gyfryngau.
- Nid oes angen i chi wario llwyth ar gyfarpar. Wrth gwrs, os oes gennych chi’r gyllideb, bydd meicroffonau cyddwyso drud yn gwneud i bawb swnio fel cyflwynydd radio ar y BBC. Ond os na wnewch hynny, bydd recordio ar yr ap sain ar eich ffôn yn rhoi rhywbeth i chi weithio gydag ef. Mae natur llawr gwlad podledu yn golygu bod y gynulleidfa yn llawer mwy maddeuol ac nid ydynt yn chwilio am ansawdd radio – maent yn chwilio am gynnwys diddorol!
Dr Dean Burnett (BSc 2003, PhD 2011)
Mae Dean yn ddyn â llawer o dalentau ac, yn ogystal â bod yn niwrowyddonydd uchel ei barch, mae’n flogiwr, digrifwr o bryd i’w gilydd, awdur a phodlediwr. Nid yw Brain Yapping – The Podcast wedi’i gynllunio na’i sgriptio, ac mae ei bodlediad arall, Smart Welsh People, yn gasgliad o sgyrsiau gydag ystod o westeion gwahanol. Dyma’i awgrymiadau ar gyfer creu podlediad cydlynol a difyr:
- Mae rhywfaint o ddadlau ynghylch pa mor hir y dylai podlediad fod. Heb unrhyw amserlen na chyfyngiad i gadw atynt, mae’n dechnegol yn golygu y gallant fod cyhyd ag y dymunwch, ond 30-45 munud yw’r hyd a argymhellir, yn enwedig os ydych chi’n anelu at yr ongl addysgol/addysgiadol.
- Yn dechnegol, gall podlediad ymwneud ag unrhyw beth – dyna harddwch y peth. Ond nid yw hynny’n golygu y bydd pob syniad ar gyfer podlediad yn arwain at bobl yn gwrando arno yn y pen draw. Yn fy mhrofiad i, mae’r podlediadau gorau, mwyaf llwyddiannus yn ddeniadol, yn addysgiadol, yn organig, yn ddoniol, yn rhywbeth y gellir uniaethu ag ef. Mae unrhyw bodlediad gweddus yn ticio o leiaf dau o’r blychau hyn. Mae’r rhai gorau yn eu ticio i gyd. Un o gryfderau podlediadau y cyfeirir ato fwyaf yw eu bod yn ddieithriad yn teimlo fel ‘cymdeithasu gyda ffrindiau’ yn hytrach nag arlwy prif ffrwd mwy ‘proffesiynol’. Felly, mae bob amser yn well cael o leiaf dau o bobl yn cymryd rhan mewn podlediad.
- Cymerwch adborth o ddifrif, edrychwch ar yr hyn y gallech chi ei wneud i wella, byddwch yn barod i fod yn llym wrth wneud toriadau os bydd yn creu pennod well/dynnach. A cheisiwch gofio wrth recordio nad dim ond i chi y mae, ond i’r gynulleidfa nas gwelwyd o’r blaen. Mynnwch adborth gan bobl nad ydynt yn eich adnabod chi’n dda. Yn ddelfrydol, dylai gwneud podlediad fod yn brofiad pleserus, ond nid i chi yn unig – gan y bydd hynny’n trechu’r holl bwynt.
Jane Cook (BA 2008)
Mae Jane yn awdur blog ac ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus arobryn sy’n cynnal podlediad bwyd o’r enw Hank! ar y cyd â’i ffrind Matt Appleby. Trodd ei hangerdd am fwyd a’i chysylltiadau o fewn sin fwyd Caerdydd yn wledd sain hawdd gwrando arno. Mae hi’n crynhoi rhai o’i hargymhellion allweddol o’i phrofiadau podledu ei hun fel a ganlyn:
- Dewiswch bwnc rydych chi’n angerddol amdano: bydd hyn yn helpu i’ch cymell i gyhoeddi’n rheolaidd, ac mae’n golygu na fyddwch chi byth yn rhedeg allan o syniadau neu bethau newydd i’w dweud. Daliwch afael ar syniadau canol y nos a gadwyd ar eich ffôn a gallwch ddod yn ôl atynt pan fyddwch yn barod i’w rhoi mewn pennod neu ddwy newydd.
- Meddyliwch am eich cynllun hyrwyddo: dim ond hanner y gwaith yw creu podlediad – gweddill y gwaith fydd dod o hyd i gynulleidfa ar ei gyfer. Byddwch yn daer, defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol, a gwnewch y gorau o’ch rhwydweithiau presennol eich hun – a rhai newydd sy’n berthnasol i’ch pwnc podlediad – i ledaenu’r neges. Mae angen i chi ddod o hyd i’r bobl sydd eisiau gwrando ar yr hyn rydych wedi’i wneud.
- Gofynnwch i’r arbenigwyr: mae asiantaeth cynhyrchu podlediadau o Gaerdydd Bengo Media yn cynnal ‘clwb podlediad Caerdydd’ misol yn rhad ac am ddim sy’n agored i unrhyw un (mae yna grŵp Facebook hefyd). Mae’n dda gallu gofyn unrhyw gwestiynau brys iddynt a datrys problemau pan fyddaf yn cael trafferth gydag unrhyw beth sy’n rhy dechnegol!
Scott McKenzie (BSc 2011)
Scott yw Pennaeth Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ystod y pandemig, roedd yn edrych ar ffyrdd arloesol o ymgysylltu â grwpiau penodol o fyfyrwyr a lluniodd bodlediad University, Autism and You, y mae’n ei gynnal ar y cyd â Freya Morris (MScEcon 2020). Dyma flas cyntaf Scott o bodledu a dyma beth mae wedi’i ddysgu hyd yn hyn:
- Mae’n iawn mynd am ddull DIY. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ein disgwyliadau wedi newid o ran cyfryngau ar-lein. Yn flaenorol, roeddem o’r farn bod angen perffeithio pethau, ond mae’r pwyslais nawr ar y cynnwys go iawn oherwydd bod pobl yn gwybod eich bod chi’n recordio’r pethau hyn gartref. Fe wnes i recordiad pan oedd fy nghymydog yn gwneud rhywfaint o waith y tu allan ac roedd yn eithaf swnllyd, felly roeddwn o dan y duvet gyda fy mhic yn y diwedd, gan geisio rhwystro’r sain (ac roedd yn ddiwrnod poeth iawn hefyd!).
- Gwnaethom sylweddoli yn eithaf cynnar nad oedd darllen sgript yn teimlo’n naturiol. Gwnaethom fwrdd stori ar gyfer ein chwe phennod gyntaf, a’u cadw’n eithaf byr, gyda dwy thema ym mhob pennod. Pwyntiau bwled byr yn unig oedd y rhain, felly ni chawsant eu sgriptio’n ormodol. Ond mae pawb yn unigol, ac mae’n dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio orau i chi a fformat eich podlediad.
- O ran enwi’r podlediad, gwnaethom gynnig rhai enwau rhyfedd, creadigol yn wreiddiol, ond yn y diwedd gwnaethom ni ddweud beth ydyw yn unig heb geisio bod yn rhy glyfar. Gweithiodd hyn i ni. I’n cynulleidfa, mae dweud beth ydyw ar y tun yn llawer mwy priodol na chael neges gudd yn y teitl.
Sarah Ormer (MA 2009)
Mae Sarah yn olygydd digidol, awdur a phodledwr llwyddiannus, yn cynnal y podlediad We’ve Made It a’r podlediad A Calmer Life, a enillodd y podlediad Iechyd a Lles Gorau yn 2020. Mae hi wedi gweithio mewn rolau cyfryngau amrywiol dros y deng mlynedd diwethaf ac mae ganddi rai perlau o ddoethineb podledu i’w rhannu gyda ni:
- Gwenwch a nodiwch. Pan ydym yn siarad â rhywun mewn sgwrs arferol, rydym yn tueddu i ddangos bod gennym ddiddordeb yn yr unigolyn arall trwy ddweud “mm” neu “ie” wrth iddynt siarad. Gall hyn fod yn ddiflas iawn ar bodlediad. Gallwch osgoi hyn trwy wenu a nodio – mae hyn yn eich caniatáu i ddangos bod gennych ddiddordeb heb wneud sŵn. Mae’n teimlo ychydig yn rhyfedd ar y dechrau, ond mae’n gweithio.
- Recordiwch fersiwn wrth gefn bob amser. Dysgais y wers hon y ffordd galed, pan fu bron imi golli cyfweliad â gwestai enwog. Gall hyn fod ar ffôn neu iPad os nad oes gennych ail recordydd.
- Dysgwch sut i oedi ac ailgychwyn. Dwi wrth fy modd gyda phodlediadau oherwydd maen nhw’n faddeuol iawn! Os byddwch chi’n gwneud llanast, gallwch wastad oedi ac ailadrodd yr hyn rydych wedi’i ddweud. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich gwesteion y gallant stopio a dechrau eto os ydynt yn gwneud camgymeriad hefyd – bydd yn eu helpu i ymlacio.
Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a’u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres ‘Bossing It’.
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018