Cwrdd â’r Ymchwilydd – Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020)
16 Medi 2021Mae Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020) yn gynorthwyydd ymchwil yn labordy Gallimore/Godkin yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar mesothelioma malaen, math o ganser sy’n effeithio ar yr ysgyfaint. Fel arfer, dod i gysylltiad ag asbestos sy’n achosi’r canser hwn, sy’n angheuol yn y rhan fwyaf o achosion.
Dywedwch ychydig wrthym am eich ymchwil?
Mae labordy Gallimore/Godkin yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y system imiwnedd a chanser. Mae ein system imiwnedd, sy’n ein hamddiffyn rhag feirysau a chlefydau eraill, hefyd yn helpu i ladd canserau. Rydym yn gobeithio datblygu triniaethau newydd a fydd yn rhoi hwb i gelloedd penodol y system imiwnedd o’r enw “celloedd T” a’i gwneud yn bosibl lladd canserau drwy eu targedu.
Mae fy PhD yn canolbwyntio ar fath penodol o ganser, sef mesothelioma malaen. Fel arfer, mae mesothelioma’n effeithio ar yr ysgyfaint, a dod i gysylltiad ag asbestos sy’n ei achosi bron bob amser. Yn anffodus, mae’r canser hwn yn angheuol yn y rhan fwyaf o achosion, sy’n golygu bod angen gwneud ymchwil a datblygu triniaethau newydd ar frys.
Yn rhan o’m PhD, byddaf yn ymchwilio i’r berthynas rhwng y system imiwnedd a mesothelioma, yn ogystal â nodi ffyrdd o wella ymateb y system imiwnedd i’r canser hwn.
Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich ymchwil a’i budd i bobl yn y dyfodol?
Mae celloedd mesothelioma’n dangos moleciwl penodol, sef 5T4. Anaml y bydd celloedd iach yn dangos y moleciwl hwn. Gallai trin y system imiwnedd i dargedu’r moleciwl hwn fod yn therapi penodol iawn, lle byddai pobl yn ddioddef llawer llai o sgîl-effeithiau nag y byddent yn eu dioddef o bosibl wrth gael cemotherapi.
Beth a apeliodd atoch am ymchwil canser?
Drwy gydol fy addysg, rwyf bob amser wedi mwynhau gwyddoniaeth, ac wrth i mi symud drwy’r Brifysgol, sylweddolais yn fuan fy mod eisiau gweithio ym maes ymchwil canser. Mae canser yn effeithio ar bawb, ac mae’r cyfle i gyfrannu at faes gwyddoniaeth cyffrous yn fy ysgogi’n fawr.
Beth wnaeth eich annog i chi ddod i astudio yng Nghaerdydd?
Mwynheais fy astudiaethau blaenorol ym Mhrifysgol Caerdydd yn fawr, ac roeddwn i’n teimlo mai hwn oedd y lle a’r amgylchedd iawn imi wneud fy PhD. Mae Caerdydd yn fyd-enwog am ei hymchwil academaidd a chredaf y bydd astudio yma yn rhoi profiadau gwych i mi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.
Pa rôl y mae rhoddwyr wedi’i chwarae yn eich ymchwil?
Rwy’n ddigon ffodus bod fy ymchwil wedi’i hariannu gan roddwr, sy’n golygu fy mod yn gallu cynnal ysgoloriaeth PhD sydd wedi’i hariannu’n llawn. Gyda lwc, trwy gydol cyfnod fy astudiaethau, byddaf yn cyflawni canfyddiadau newydd cyffrous ym maes mesothelioma ac imiwnotherapi canser, ac y byddaf yn gallu rhannu’r rhain â fy rhoddwr, sydd â diddordeb yn y clefyd hwn.
Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd?
Mae Caerdydd yn ddinas fywiog sy’n cynnig llawer o bethau i’w profi a’u mwynhau. Fel person ifanc, rwy’n gwerthfawrogi’r holl gyfleoedd i gael bywyd cymdeithasol gwych fydd yn helpu i gael cydbwysedd bywyd a gwaith fel myfyriwr PhD. Rwy’n mwynhau bod mewn prifddinas amrywiol, yn ogystal â bod mor agos at ardaloedd arfordirol gan fy mod wedi cael fy magu ger yr arfordir yn Abertawe.
Beth rydych yn mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?
Rwy’n hoff iawn o chwaraeon ac yn mwynhau gwylio pêl-droed, tennis a rygbi’n arbennig. Rwy’n aml yn mynd i wylio fy nhîm lleol, Dinas Abertawe, yn chwarae ar y penwythnosau. Ar wahân i chwaraeon, rwyf hefyd wrth fy modd yn gwylio’r ffilmiau diweddaraf yn y sinema ac yn mynd i ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw.
Darganfyddwch ragor am ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018