Llwybrau gyrfa anghyffredin ac allfeydd creadigol – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr
17 Tachwedd 2020Mae James Orpwood (BSc 2002, PhD 2006) wedi newid o fod yn wyddonydd pysgodfeydd i fynyddwr, yn cyrraedd uchelfannau newydd a dechrau llwybr gyrfa newydd. Mae hefyd ar fin cyhoeddi ei lyfr cyntaf, a gafodd ei ysgrifennu dros nifer o oriau yn ystod y cyfnod clo o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Mae James yn disgrifio ei daith yrfaol bersonol a sut wnaeth y mwyaf o’i amser sbâr…
Mae gen i atgofion melys o fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl cyrraedd fel myfyriwr israddedig brwd yn hydref 1999, fe dreuliais dair blynedd hapus iawn yn gweithio tuag at fy ngradd gyntaf. Fel rhywun nad oedd yn hoff iawn o’r ysgol, fe wnes i synnu faint wnes i fwynhau’r amgylchedd cyfoethog o addysg ac ymchwil a chefais fy ysbrydoli gan rai o’r academyddion mwyaf ysgogol gallwn fod wedi dymuno cyfarfod.
Roedd pysgod yn rhan fawr o flynyddoedd cynnar fy mywyd ac fe dreuliais fy mhlentyndod yn padlo yn nentydd y Fforest Newydd wrth chwilio am bennau lletwad a sildynnod. Felly yn ffodus iawn, yn hwyrach ymlaen yn fy mywyd fel oedolyn ifanc, roedd fy niddordebau mewn ecoleg dŵr croyw, bioleg pysgod ac ystadegau yn cyfuno’n berffaith ym mlwyddyn olaf fy astudiaethau. Graddiais yn 2002, gyda BSc mewn Ecoleg a Rheoli Amgylcheddol, yn canolbwyntio yn bennaf ar bopeth oedd yn ymwneud â physgod! Fe wnaeth fy nghysylltiad â Phrifysgol Caerdydd (a physgod) barhau ac fe es i ymlaen i gwblhau PhD (2002-2005) ac fy ôl-ddoethuriaeth gyntaf (2005-2007) cyn symud ymlaen i brifysgol arall ac yna’r sector gyhoeddus.
Fe ddaeth newid mawr ar ddechrau fy PhD – fe symudais i’r Alban gan mai dyna ble oedd fy ngwaith ymchwil o ddydd i ddydd yn cael ei wneud. Rwyf wedi bod yno ers hynny!
Wrth grwydro’r Alban yn ystod fy amser rhydd (os oes y fath beth yn ystod PhD) cefais fy hudo’n llwyr gan fynyddoedd y wlad. Ni wnaeth teithiau dringo tramor i Foroco, Nepal, Bolifia a Gwlad yr Iâ wneud dim i leihau fy mrwdfrydedd am hwyl mewn mannau uchel. Yn y pen draw, er bod gen i yrfa wyddonol addawol, penderfynais i ailhyfforddi fel y gallwn weithio’n broffesiynol ym mynyddoedd yr Alban.
Yna fe ddaeth llawer o flynyddoedd o ganolbwyntio a gwaith caled, gan alluogi newid cyfeiriad llwyr yn fy mywyd gwaith, a chefais fy nghefnogi drwyddo gan fy ngwraig y cwrddais â hi ar daith ddringo yn yr Himalaya.
Cefais bleser mawr yn gweithio drwy’r flwyddyn ym mynyddoedd yr Alban, yn arwain teithiau tywys a chyrsiau hyfforddi sgiliau mynyddig drwy fy musnes bach fy hun, yn ogystal â gweithio i ddarparwyr gweithgareddau awyr agored a gwyliau antur eraill.
Roedd yn mynd yn dda, tan…
Nid oes angen cyflwyniad i bandemig byd-eang COVID-19, gan ei fod wedi bod yn dominyddu’r cyfryngau am fisoedd, yn effeithio bywyd o ddydd i ddydd o gwmpas y byd mewn ffordd na welwyd ers yr Ail Ryfel Byd, ac yn druenus, wedi gadael miloedd o bobl yn galaru am farwolaeth un o’u hanwyliaid.
Cafwyd gohiriad dros dro o fy holl waith yng nghanol Mawrth 2020 o ganlyniad i’r achosion o COVID-19 a’r cyfyngiadau symud. Yn wir, hyd yn oed cyn y cyfnod clo gorfodol, roedd llawer o weithwyr awyr agored proffesiynol, gan gynnwys fy hunain, eisoes wedi canslo eu gwaith am y dyfodol agos. Nid oeddem eisiau annog pobl i deithio i’r Ucheldiroedd rhag ofn i’r firws ledaenu yno a rhoi mwy o bwysau ar adnoddau gweddol gyfyngedig y GIG yn ein cymunedau gwledig. Fe ddiflannodd fy rhaglen waith ar gyfer yr haf dros nos.
Felly, beth mae gwyddonydd sydd wedi troi’n fynyddwr yn gwneud yn ystod y cyfnod clo? Fe wnes i droi’n greadigol.
Fe sylweddolais fod ffrind i mi o ddyddiau pysgota wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol, i adrodd straeon o’i fywyd diddorol. Gwawriodd arnaf y gallwn i wneud yr un peth. Fodd bynnag, roedd yn afrealistig ei hadrodd ar y cyfryngau cymdeithasol wrth ystyried pa mor swmpus oedd fy stori.
Arweiniodd fy nghreadigrwydd at fy llyfr cyntaf, A Quest For Fulfilment, sydd wedi cael ei chyhoeddi bellach. Ni feddyliais erioed y byddwn yn newid o ymchwilydd, i fynyddwr, i awdur.
Roeddwn wedi meddwl ysgrifennu am hanes fy newid gyrfa sawl gwaith, yn gobeithio y byddai’n ysbrydoli rhywun, yn rhywle, i fynd ati i wireddu eu breuddwyd, beth bynnag ydyw.
Mae llyfr newydd James, A Quest For Fulfilment, ar gael nawr ac fe gewch ragor o wybodaeth am ei fentrau mynydda ar ei wefan.
Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi
Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018