Myfyrio ar Fywyd: Neville John (BMus 1957)
21 Hydref 2020Cafodd Neville John (BMus 1957) ei eni yn y Tymbl, Sir Gâr a bu’n astudio’r soddgrwth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd yrfa lwyddiannus fel athro cerdd a chyfansoddwr ar ôl ei astudiaethau, ac yn ddiweddar dathlodd ei ben-blwydd yn 90 oed. Yn yr erthygl hon sy’n Myfyrio ar Fywyd, mae’n edrych yn ôl ar ei deulu cerddorol, ei atgofion gorau o Gaerdydd a’r drychineb hanesyddol a fu’n ysbrydoliaeth iddo gyfansoddi.
Roedd gennyf angerdd dros gerddoriaeth yn yr ysgol gynradd a chefais wersi feiolín preifat pan oeddwn yn 11 oed. Mae gennyf allu gwych i gofio ac adnabod melodïau, ac mae cerddoriaeth wedi bod yn agos at fy nghalon erioed.
Roedd Prifysgol Caerdydd yn ddelfrydol i mi. Oherwydd fy nawn gerddorol, roeddwn yn credu y gallwn fod yn athro cerdd mewn ysgol uwchradd – ac roedd angen gradd mewn cerddoriaeth arnaf er mwyn gwireddu hynny. Roedd fy nhiwtor ar gyfer y soddgrwth, Mr George Isaac yn un o staff Prifysgol Caerdydd. Trefnodd gyfweliad ar fy nghyfer gyda’r Athro Joseph Morgan, a’m perswadiodd i astudio ar gyfer arholiadau mynediad y Brifysgol. Rhoddais orau i fy swydd yn gweithio yn swyddfa Undeb Cenedlaethol y Glowyr, a chyflog da i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, lle gallwn barhau i dderbyn gwersi soddgrwth gyda Mr Isaac yn hytrach na theithio 60 milltir i’w gartref ym Mhontyclun.
Mae gennyf nifer o atgofion melys fel myfyriwr, ond mae’n rhaid mae’r ymarferion a’r cyngherddau gyda Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol yw’r atgofion gorau.
Mae sawl aelod o’r teulu yn gerddorion gyda gradd o Brifysgol Caerdydd. Roedd y blynyddoedd yn dysgu fy mhlant yn werth chweil. Rydw i wedi rhannu nifer o gyfrinachau gyda nhw am fy oes yn y byd cerddorol ac rwy’n hynod falch eu bod wedi dilyn ôl fy nhroed.
Cafodd trychineb Aberfan effaith ddofn arnaf. Roeddwn yn athro feiolín peripatetig ar gyfer Pwyllgor Addysg Merthyr Tudful ac roeddwn yn ymweld ag Ysgol Gynradd Pantglas yn Aberfan unwaith yr wythnos. Ar 21 Hydref 1966, cafodd 144 o bobl eu mygu gan dirlithriad enfawr o wastraff glo. Doeddwn i ddim yn dysgu yno ar y pryd, ond roedd tri o’r bobl ifanc a gollodd eu bywydau yn ddisgyblion imi.
Roedd y drychineb a’u colled yn ysgogiad imi gyfansoddi Agorawd Trychineb Aberfan, agorawd gerddorfaol i goffáu’r drychineb. Caiff y tirlithriad ei bortreadu gan drefniadau disgynnol ar y soddgrwth, yn symud fesul hanner tôn ar wahân i’r basau dwbl marwaidd. Mae cadenza gan offerynnau taro ar ddiwedd yr agorawd yn nodi diwedd y tirlithriad. Ar ôl perfformiad cyhoeddus cyntaf fy narn yn 1969, gofynnodd y Cyfarwyddwr Addysg i mi ysgrifennu agorawd arall, y tro hwn yn cyfleu dewrder pobl Aberfan, a’u llwyddiant o ran symud y tomenni slag oedd yn weddill o ben y bryniau. Cafodd fy ail agorawd, The Triumph of Aberfan, ei berfformio gyntaf ym Merthyr Tudful yn 1970.
Dros y blynyddoedd rwyf wedi arwain a pherfformio gyda llawer o grwpiau cerddoriaeth. Fy hoff atgofion oedd y blynyddoedd tra roeddwn yn arwain Cerddorfa Ieuenctid Merthyr a Cherddorfa Henoed Merthyr.
Cefais fy ysbrydoli i sefydlu’r Wobr Llinynnol Neville John ym Mhrifysgol Caerdydd pan enillodd fy merch Wobr Llinynnol Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn 1982. Yr adran linynnol yw’r un fwyaf yn y gerddorfa, ac wrth i mi weld fy merch yn ymarfer yn aml er mwyn ceisio ennill y wobr, sylweddolais y gallai gwobrau o’r fath fod yn ffordd glyfar o wella cerddorfa. Gyda phedwar chwaraewr offerynnau llinynnol yn ein teulu, a gydag ysbrydoliaeth techneg feiolin gwych Dr Robin Stowell, teimlais y gallai Prifysgol Caerdydd elwa ar wobr linynnol arbennig o’r fath.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am fywyd Neville John drwy fynd ihttps://nevillejohn.org.uka gwrando ar ei gyfansoddiad newydd, Corona Lament.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018