Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Hoffi bwyd, casáu gwastraff – bwyta’n foesegol ac effaith y cyfnod clo

31 Gorffennaf 2020

Mae Lia Moutselou (Daearyddiaeth a Chynllunio 2002-2005) yn uwch-reolwr polisi ar gyfer corff gwarchod dŵr ac yn un o bedwar cyfarwyddwr Lia’s Kitchen, sy’n gwmni buddiant cymunedol. Mae gan Lia brofiadau eang ac mae wedi bod yn ddarlithydd yn ogystal â myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.  Yma, mae hi’n trafod gwastraff bwyd, y diwydiant bwyd, ryseitiau newydd, a’i barn ar y byd, ar ôl y pandemig.  

O ble ddaeth yr angerdd dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd?    

Dyna beth sydd wedi bod yn gyfarwydd i mi erioed. Roedd fy nheulu’n byw fel hynny, ac mae wastad wedi bod yn bwysig i mi. Roedd fy rhieni o gymunedau amaethyddol mewn pentrefi bach yn Groeg, ac er roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy magu mewn lle trefol a chael profiadau addysgol a diwylliannol gwych, fy atgof cyntaf yw bod yn agos at yr elfennau naturiol a’r tir.  

Sut oedd eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd? 

Gweithiais ar brosiectau polisi amgylcheddol a gwleidyddiaeth yn gysylltiedig ag amgylchedd morol ac arfordirol. Roeddwn i wrth fy modd yn addysgu yn y Brifysgol. Roeddwn i’n arfer addysgu cyfraith yr amgylchedd mewn sawl adran ac yn mwynhau trafod yr un pwnc ond ceisio ei drosglwyddo i ddisgyblaethau a myfyrwyr gwahanol, ac yn hoffi’r sgyrsiau a’r ymatebion gwahanol oedd yn deillio o hynny.  

Roedd gen i swyddfa yn y brif adeilad gyda golygfa o’r gerddi. Allwn i ddim credu pa mor ffodus oeddwn i fod yno. Roedd hi’n bleser gweithio i Brifysgol Caerdydd ac astudio yno. Mae’n brifysgol a champws mor arbennig.  

Rydych chi wedi cymryd rhan mewn sawl ymgyrch dros y blynyddoedd, wnewch chi sôn ychydig amdanynt? 

Mae rhan fwyaf y gwaith gyda Lia’s Kitchen yn ymwneud â lleihau gwastraff bwyd. Dechreuodd hyn gydag Ymgyrch Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff a chynnal digwyddiadau lleol mewn llefydd fel y Rhath a Sblot, gan ymgysylltu â phobl yn y cymunedau hyn. Fe gasglon ni wastraff bwyd o archfarchnadoedd a sgipiau a’i drawsnewid yn ryseitiau anhygoel.  

Yna, fe wnaethom ehangu ein hymgyrchoedd, gyda Swper Diwastraff a oedd yn canolbwyntio’n gryf ar werthfawrogi bwyd. Roeddwn i eisiau trawsnewid rhywbeth mewn sgip yn bryd bwyd o safon fel bod pobl yn gallu gweld sut y gall canfyddiadau ynghylch bwyd newid, yn ddibynnol ar sut y mae’n edrych.  

https://www.instagram.com/p/CCOx7yLA-ze/

Rydw i wedi bod yn gysylltiedig ag ymgyrch Grym Llysiau, yn hyrwyddo a chynyddu faint o lysiau mae pobl yn bwyta. Rydw i mewn llyfr gyda Paul McCartney a Jamie Oliver – mae fy ryseitiau yna!  

Prosiect arall sy’n agos at fy nghalon oedd fy ngwaith gyda ffoaduriaid ac Oasis Caerdydd lle roeddwn yn cofnodi ryseitiau eu cleientiaid a’u gwirfoddolwyr i helpu i greu cysylltiadau trwy fwyd, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth ac addysgol. Yna, fe wnes i greu bwydlen ar gyfer eu cerbyd bwyd, wnaeth fwydo llawer o bobl yn ystod gŵyl 2018.  

Yn eich barn chi, beth arall y gellid ei wneud i leihau gwastraff yn y diwydiant bwyd? 

Mae gennym nifer o fesurau iechyd a diogelwch, sy’n wych ac yn bwysig iawn, ond weithiau mae’n gallu bod yn wrthgynhyrchiol wrth ein haddysgu ynghylch beth y gallwn ei wneud gyda gwastraff. Rydw i’n credu bod Caerdydd yn gwneud mwy erbyn hyn a llawer mwy na rhai llefydd eraill.  

Mae cymuned Caerdydd yn ymwybodol iawn, ond mae angen help ar fusnesau bwyd. Nid oes gan berchnogion busnesau bach yr amser bob tro i ystyried cynaliadwyedd pan fod angen iddynt oroesi, cyflogi pobl a chadw’r blaidd o’r drws. Mae angen cymaint o help arnynt â phosibl; atebion sy’n hawdd i’w gweithredu ac sy’n fforddiadwy. Ma angen i gynghorau a sefydliadau rheoleiddiol wneud pethau’n haws a pheidio â rhwystro busnesau sy’n trio bod yn gynaliadwy. Er enghraifft, cynnig pecynnau cael gwared ar wastraff sy’n fforddiadwy ac yn annog gwrteithio ac ailgylchu.  

Sut ydych chi’n meddwl y mae agwedd pobl tuag at fwyd a gwastraff bwyd wedi newid yn ystod y cyfnod clo? 

Mae pobl wedi edrych ar ardal cynigion yr archfarchnadoedd ac y tu mewn i’w hoergelloedd yn fwy nag erioed, oherwydd cyfyngiadau ariannol ac i siopa. Yn ystod y cyfnod clo, doedd dim modd mynd i’r siopau yn rheolaidd, felly defnyddiom ni beth oedd gyda ni yn barod.  

Hefyd, roedd bwyd yn cynnig cysur, yn weithred ac yn bleser i dynnu ein sylw oddi wrth realiti brawychus COVID-19. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n dod yn fwy dyfeisgar ac archwiliadol. O ymagweddau diwylliannol gwahanol, i dechnegau a chynhwysion newydd, daethom ni’n fwy parod i dderbyn newid. Mae’n rhywbeth gwych y dylem ni ddal gafael arno.  

Ydych chi wedi darganfod unrhyw ryseitiau’r ‘cyfnod clo’? 

Rydw i wedi darganfod gymaint o ryseitiau newydd yn ystod y cyfnod clo. Rydw i wedi casglu dros 50 o lyfrau ar gyfer llyfrgell llyfrau coginio Lia’s Kitchen. Dydw i ddim yn gwybod sut rydw i’n mynd i’w rannu, ond drwy’r broses o bori trwy’r llyfrau, rydw i wedi bod yn archwilio bwydydd newydd.  

Rydw i wedi mwynhau mynd yn ôl at brydau syml iawn yn ystod y cyfnod clo. Un o’n nodau yn Lia’s Kitchen yw sicrhau bod bwyd yn hygyrch, o safbwynt ariannol ond hefyd o ran manteision iechyd a chyfyngiadau amser. Rydw i wedi bod yn gwneud pethau syml a thymhorol gyda llysiau sydd wedi’u tyfu’n lleol.  

Sut rydych chi’n meddwl bod y cyfnod clo wedi effeithio ar y diwydiant bwyd? 

Mae pawb yn addasu ond rydw i’n credu ein bod ni’n mynd i weld effaith mawr, tymor hir.  

Rydw i wedi dilyn y busnesau bwyd a fy ffrindiau gyda chryn ddiddordeb a phryder – mae eu hysbryd entrepreneuraidd yn anhygoel. Mae’r sefyllfa’n fy mhoeni’n fawr oherwydd rydw i wedi credu erioed ei bod yn sector nad yw’n cael ei gwerthfawrogi ddigon. Mae angen dŵr a bwyd arnom i oroesi, ac rydym ni’n cymryd tyfwyr a gwasanaethau bwyd yn ganiataol.  

Ond mae’r cyfnod clo hefyd wedi ysgogi newidiadau cadarnhaol ynghylch gwastraff bwyd. Mae cymaint o brosiectau a chaffis gwych sy’n gwneud cymaint i gefnogi eu cymunedau a’r rheiny sydd mewn angen. Mae pobl wedi’u sbarduno i droi bwyd a gwastraff yn gynhaliaeth, ond hefyd yn creu nifer o gyfleoedd eraill ar gyfer ymgysylltu ac ailddefnyddio deunyddiau. 

Mae 2020 wedi dangos i ni na allwn ragweld beth sydd ar y gorwel. O lifogydd i eira, sefyllfaoedd gwleidyddol, a phandemigau, mae’n rhaid i fusnesau weithredu mewn modd sy’n eu galluogi i addasu a bod yn foesegol. Po fwyaf y gallwch addasu a bod yn foesegol, y mwyaf tebygol y byddwch o oroesi.