Skip to main content

NewsNewyddion

Eich canllaw munud olaf i Ddydd Sant Ffolant yng Nghaerdydd

13 Chwefror 2019

Mae’r Mis Bach wedi cyrraedd, ac mae’n llawn o uchafbwyntiau’r tymor: Diwrnod Crempog, Y Flwyddyn Newydd Dsieineaidd a’r Chwe Gwlad – ac mae’n rhaid dathlu pob un. O, a Dydd Sant Ffolant wrth gwrs.

Rhowch y badell ffrio i lawr! Diffoddwch y tân! Ciciwch y bêl dros yr ystlys! Oeddech chi wir wedi anghofio?

Peidiwch ag ofni: mae dal cyfle i achub eich perthynas. Dewch a’ch cariad yn ôl i Gaerdydd, a dilynwch ein canllaw ar sut i dreulio Dydd Sant Ffolant yng Nghaerdydd.

Ewch i’ch [hoff dafarn]

Yn ystadegol, mae 109% o gyplau Caerdydd yn cwrdd mewn bar neu dafarn yn Cathays. Pa le gwell i ailgynnau’r fflam na lle gwnaethoch gwrdd am y tro cyntaf?

Mynd i Gastell Caerdydd

Mae’n ddigon da i Harry a Meghan, felly mae’n ddigon da i ni!

Cardiff Castle

Llyn Parc y Rhath

Does dim llawer o bethau mwy rhamantaidd na rhwyfo dros lyn Fictoraidd gorau Caerdydd.

Ond byddwch ofalus – yng nghanol yr holl gariad, mae cannoedd o wyddau, hwyaid a gwylanod. Dyma gyfle gwych am “foment Mr Darcy-aidd”.

Heol y Plwca

Mae cariad yn gallu bod yn greulon. Yn ddigon ffodus, mae digonedd o leoedd da i fwyta ar Heol y Plwca.

Byw la dolce vita

Mae’r Eidalwyr yn rhamantwyr wrth reddf, ac mae Caerdydd yn ganolfan i fwyd bellissimo – o Gaffi Citta i Hufen iâ Joe’s.

Canolfan y Mileniwm

Ar ôl llwyddo i osgoi drama gyda’r canllaw defnyddiol hwn, ewch i’r Bae i wylio perfformiad o’r radd flaenaf.

Stadiwm Principality

Mae Cymru yn chwarae gartref, ac efallai mai tocyn i’r Chwe Gwlad fydd eich tocyn chi i galon eich cariad. Mae dwy gêm galendr ar ôl; yr Eidal (gweler pwynt 5) a Ffrainc (efallai yn rhamantwyr mwy greddfol fyth).

Amgueddfa Cymru

Gwnewch argraff dda ar eich dêt gyda’ch gwybodaeth ddiwylliannol ac artistig, a gydag un o gasgliadau Celf Argraffiadol fwyaf y byd. Mwy o ramant Ffrengig. Mwy o rhamant Ffrengig.

Mae’n rhaid nodi nad yw’r eitemau i gyd wrth ddant pawb – dewisa’n ofalus neu (fel yr arddangosfeydd) ti fydd yn hen hanes.

Gerddi Alexandra

Roedd rhaid cadw lle ar y rhestr. Yn y Gwanwyn, ewch am dro drwy erddi mawreddog eich hen Brifysgol, a gadewch i’r cariad dyfu.

Ynys y Barri

Dyma lle gwawriodd cariad Gavin a Stacey – a Nessa a Smithy hefyd. Gallai fod yn lwcus i chi hefyd.

Y siop cofroddion

Ar gyfer y rhai munud ola’ yng ngwir ystyr y gair: mae angen anrheg arnoch ac mae angen un nawr. Cacennau cri siâp calon a llwy garu? Clasur.

Felly, dyna ni. Peidiwch byth â dweud bod eich addysg yn gorffen wrth ichi raddio; yn awr mae gennych y wybodaeth leol angenrheidiol i gael Dydd Sant Ffolant gwerth chweil. Ac os eith pethau o chwith, dim ond un ar ddeg mis sydd tan Ddydd Santes Dwynwen…

Pob lwc!