Examined Life – Shrouk El-Attar (MEng 2018)
17 Rhagfyr 2018Mae Shrouk El-Attar, ymgyrchydd blaenllaw LGBT+ wedi cael ei henwi yn ‘Fenyw Ifanc y Flwyddyn’ 2018 gan Uwch-gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid.
Dwi wedi derbyn rhagfarn gymdeithasegol ers pan oeddwn yn ifanc iawn. Ces i fy magu yn yr Aifft, ac am amser hir, roeddwn yn gwrthod cydnabod fy hunaniaeth rywiol ac yn credu y dylai pobl LGBT+ gael eu cosbi. Pam? Roedden ni’n cael ein dysgu i gasáu ein hunain.
Dechreuais ysgrifennu yn Arabeg er mwyn cydnabod ein bodolaeth a bod hynny yn iawn , ond roedd yr eirfa oedd ar gael yn fy nghyfyngu. Mae iaith mor bwerus. Tan yn ddiweddar iawn, doedd dim geiriau positif am bobl LGBT+ ar gael yn Arabeg. Dychmygwch geisio dweud wrth rywun y dylent dderbyn eu hunain, ond yn defnyddio geiriau a oedd yn eu sarhau? Dyna pam bod dyfodiad y gair Methly (‘fel fi’) mor bwysig – oherwydd mae’n dweud bod pobl LGBT+ yn bobl fel pawb arall. Pan ddarllenais y gair am y tro cyntaf, roedd dagrau o lawenydd yn llifo i lawr fy ngrudd wrth i fi syllu ar y sgrin. Roedd fy iaith yn newid: roedd yn fwy caredig wrtha i.
Cafodd fy mam, fy mrawd a fy chwaer eu halltudio mewn cyrch mewnfudwyr ar doriad gwawr. Roedd fy mam wedi ceisio am loches yn y DU, ac am gyfnod roeddem ni i gyd yn byw mewn un ystafell mewn lloches ar Heol Casnewydd. Roeddwn wedi cael fy ngadael ar fy mhen fy hun yn y DU. Roedd yn dorcalonnus. Yn y pen draw, cefais statws ffoadur, ac er nad oeddwn mewn cyflwr da iawn, y peth cyntaf gwnes i oedd gwneud cais ar gyfer astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roeddwn mor lwcus o fy nhiwtor arbennig ac o’r cymorth gwych a dderbyniais drwy Wasanaethau Cefnogi’r Brifysgol i fy annog drwy amseroedd caled.
Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, fe ymunais â’r Gymdeithas Gweithredu dros Ffoaduriaid (STAR). Fy mhrif ffocws gyda STAR yw’r ymgyrch Mynediad Cyfartal. Mae menywod sy’n ffoaduriaid yn llwyr ymwybodol bod addysg yn gallu newid bywydau, ond nid yw rhai o bobl fwyaf bregus y byd yn cael mynediad at addysg. Pan ddechreuais ar yr ymgyrch, ychydig iawn o brifysgolion oedd yn derbyn ceiswyr lloches fel myfyrwyr cartref; erbyn hyn, mae tua 60 yn gwneud a dwi’n falch o allu dweud mai Caerdydd yw’r Brifysgol Mynediad Cyfartal gyntaf yng Nghymru.
O ganlyniad i fy ngradd Feistr, dwi’n credu fy mod newydd newid y byd! Mae electroneg wedi fy nghyfareddu erioed, ac fe ges i’r cyfle i ddatblygu rhywbeth gwirioneddol wych. Gweithiais gyda grŵp ymchwil gwych ac elwa o’r cyfoeth o wybodaeth sydd gan Brifysgol Caerdydd ym maes Cyseiniant Parafagnetig Electron (EPR). Mae’n dechnoleg sy’n cymharu â sganio MRI. Mae cyfarpar Technolegau EPR yn llenwi ystafelloedd cyfan ac yn costio miliynau o bunnoedd ar hyn o bryd. Datblygais dechnoleg sydd tua’r un maint a hambwrdd ac sydd ond yn costio ychydig o gannoedd o bunnoedd yn rhan o fy ngradd Feistr! Dychmygwch ryw ddydd y bydd hi’n bosib canfod canser gyda theclyn sydd yr un maint â ffôn symudol.
Mae menywod mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, a Mathemateg (STEM) wedi llwyddo yn barod drwy gyrraedd yno. Pan ddechreuais fy ngradd, dim ond 8% o beirianwyr y DU oedd yn fenywod: y raddfa leiaf yn Ewrop. Mae angen modelau rôl yn y meysydd yma i ddangos bod STEM yn opsiwn ar gyfer merched. Pwy a ŵyr pa fath o bethau anhygoel y gallan nhw eu datblygu? Dwi’n hapus bod Prifysgol Caerdydd yn chwarae ei rhan, a dwi wedi bod yn rhan o raglenni ail-gymorth di-ri gyda STEM.
Mae fy ngradd yn waith caled, felly’r haf yw’r cyfle i fi ganolbwyntio ar y dawnsio a’r gwaith ymgyrchu. Dwi wedi perfformio ledled y byd, yn Ewrop, UDA a Japan. Dwi’n perfformio dawnsio bola traddodiadol mewn drag gyda barf er mwyn protestio yn erbyn y ffordd mae pobl LGBT+ yn cael eu trin yn fy ngwlad. Cafodd un o fy ffrindiau ei garcharu am chwifio baner Enfys mewn cyngerdd. Dwi’n ymdrechu i berfformio mewn Saesneg ac Arabeg, oherwydd, er bod termau newydd fel Methly yn bodoli, mae siarad yn gadarnhaol am brofiadau LGBT+ mewn Arabeg yn chwyldroadol o hyd.
Roedd yn anhygoel cael fy enwi yn ‘Fenyw Ifanc y Flwyddyn’ gan Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid. Roedd yn brofiad mor anhygoel cael fy nghydnabod gan un o’r cyrff mwyaf dylanwadol yn y byd, ac i fod yng nghanol menywod pwerus sy’n gweithio mor galed i newid bywydau.
Fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd oedd y sylfaen i’r unigolyn yr wyf i heddiw a byddwn yn berson gwahanol pe bawn wedi astudio unrhyw le arall. Dwi’n caru Cymru, ac rwy’n ystyried fy hun yn rhannol Gymreig! Caerdydd yw fy ninas i, Caerdydd yw fy nghartref.
Darllen fwy am Cardiff Connect
A wnaethoch chi fwynhau’r erthygl? Beth yw eich barn?
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018