Examined Life – Guto Harri (PgDip 1988)
17 Rhagfyr 2018Mae Guto Harri yn Awdur, Darlledwr ac yn Ymgynghorydd Cyfathrebu Strategol.
Cefais fy magu ar dir ysbyty seiciatrig – yn fab i awdur a seiciatrydd. Rwy’n chwilfrydig, yn wrthreddfol ac yn werthfawrogol o bŵer geiriau o achos hynny. Rhoddais fy mryd ar newyddiaduraeth pan oeddwn yn fyfyriwr yn Rhydychen. Dim ond dwy brifysgol oedd yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig yn y pwnc ar y pryd, felly roedd dychwelyd adref yn ddewis greddfol.
Roedd yr athrawon yn ddidrugaredd, yn cyferbynnu traethodau israddedigion gyda’r cysyniad o “gopi” a fyddai’n gwerthu. Roedd realiti’r sefyllfa wedi syfrdanu sawl un ohonom a oedd yn meddwl ein bod mewn sefyllfa gyfforddus. Ac yn ystod y flwyddyn daethom i sylweddoli y bydd ffrindiau a chydweithwyr yn gystadleuwyr ar gyfer nifer cyfyngedig o gyfleoedd a swyddi. Roedd Prifysgol Caerdydd, felly yn gam da tuag at y byd gwaith a maes hynod gystadleuol.
Newyddiaduraeth, ar ei gorau, yw bod yn y lle mwyaf diddorol ar yr adeg fwyaf diddorol gyda’r bobl fwyaf diddorol. Gwaith newyddiadurwr yw cyfleu beth sy’n digwydd i gymaint o bobl â phosibl; mae’n alwedigaeth wych ac rwyf wrth fy modd.
Cymraeg oedd fy mamiaith, iaith fy mreuddwydion, a’r iaith yr oeddwn yn gallu mynegi fy hun ynddi orau. Roedd y wasg cyfrwng Cymraeg yn lle amlwg i fi ddechrau fy ngyrfa. Roedd symud i’r BBC, o bosibl y sefydliad newyddion uchaf ei pharch yn y byd, yn rhywbeth eithaf dychrynllyd ar y dechrau. Ond, ar ôl cael fy nerbyn ac ymgymryd â’r gwaith, fe fwynheais bob eiliad.
O ran gwir fwynhad y swydd, roedd cael fy lleoli yn Rhufain yn rhywbeth na ellir ei guro. Berlusconi a’r Pab, y maffia, bwyd, ffasiwn, trysorau Rhufeinig a dan y môr ac esgidiau Arnie Schwarzenegger – roedd pob eiliad yn llawn cyffro. Gellir dadlau, bod uchafbwynt fy ngyrfa wedi dod ar ddechrau fy ngyrfa: cael fy anfon i Saudi-Arabia yn 23 mlwydd oed ar gyfer rhyfel cyntaf y Gwlff. Roedd dechrau o’r fath yn anghredadwy o lwcus.
Roedd mynd i faes Newyddiaduraeth Wleidyddol yn gam naturiol wedi hynny. Aeth dros ddegawd heibio cyn imi sylweddoli bod drws yn gwahanu’r newyddiadurwyr a’r man lle’r oedd penderfyniadau yn cael eu gwneud. Roeddwn i eisiau bod gyda nhw yn yr ystafell honno. Roedd gorfod bod yn diduedd yn fater arall. Mae’n hollol briodol i ddarlledwyr ond ceir adegau pan mae rhai ohonom eisiau ochri gydag un ochr o’r stori. Digwyddodd hyn i fi gydag Ail Ryfel y Gwlff. Roeddwn i’n credu ei fod yn gamfarn drychinebus, anfoesol, anghyfreithlon hyd yn oed. Daeth yn eglur i fi nad oeddwn eisiau treulio gweddill fy oes yn gorfod bod yn ddiduedd. Roedd symud at wleidyddiaeth a chyfathrebu yn gam rhesymegol.
Ar fy ail ddiwrnod gyda chwmni Cysylltiadau Cyhoeddus cefais fy anfon i Dde America lle’r oedd Morgan Tsvangirai mewn tŷ diogel. Roedd Robert Mugabe yn gwrthod rhoi’r gorau iddi ar ôl iddo gael ei guro gan Tsvangirai mewn etholiad. Roeddwn yn yr ystafell ac yn meddwl pa mor ddiddorol oedd y stori cyn sylweddoli nad oeddwn i yno i ohebu’r stori, ond i gynghori.
Pan gafodd Boris Johnson ei ethol yn Faer Llundain, fi oedd un o’i gynghorwyr, yn ei gynorthwyo i redeg Llundain ac yn cynorthwyo wrth wneud penderfyniadau a’u cyfathrebu. Roedd cymaint i’w wybod, y pwysau yn aruthrol ac roeddwn i’n gyfrifol am ei holl gyfathrebiaeth allanol. Dyna’r swydd anoddaf i fi ei gwneud erioed, a’r un anoddaf y byddaf erioed yn ei gwneud gobeithio, ond roedd hi’n un o’r swyddi y gwnes i ei mwynhau fwyaf.
Nid cyfrinach oedd hi fod gen i a Boris farn wahanol dros Brexit ac rwyf wedi fy synnu, ac yn wir wedi fy siomi’n fawr o hyd ei fod wedi arwain yr ymgyrch i adael. Mae gadael yn rhywbeth trychinebus y mae Prydain wedi ei gwneud i’w hun, ac mae fwy neu lai yn angheuol i Gymru.
Ar ôl y sgandal hacio ffonau, mae’n bosib mai News International oedd y cwmni oedd pobl yn ei gasáu fwyaf yn y DU. Felly, roedd dechrau fel eu Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn dipyn o sioc i’r system. Roedd y cwmni yn ei hanfod ar dân, ac roedd y rhan fwyaf yn rhedeg oddi wrth y perygl. Fe wnaeth y newyddiadurwyr oedd yn gweithio yno eu gwaith yn wych, ddydd ar ôl dydd, yn rhesymu’r byd; yn herio’r cyfoethog a’r pwerus; ac yn rhannu’r wybodaeth â’r gweddill ohonom ac yn ein diddanu ar yr un pryd. Rwy’n falch o’r rôl a gymerais yn galluogi’r bobl hynny i fod yn newyddiadurwyr unwaith eto, nid yn cael eu gweld fel hacwyr a llygrwyr bywyd cyhoeddus.
Mae’r demtasiwn i fod yn ôl yn y byd darlledu ychydig fel taeru na fyddech erioed yn mynd yn ôl i fod yn bianydd cyngherddau eto: nid yw’n golygu na ddylech fynd yn ôl a chwarae’r piano o dro i dro. Mae angen archwilio gwleidyddiaeth Cymru yn ddyfnach, ac mae angen rhoi min ar newyddiaduraeth Cymru, ac os gallaf ddylanwadu ar hynny, byddaf yn hapusach fy myd.
Darllen fwy am Cardiff Connect
A wnaethoch chi fwynhau’r erthygl? Beth yw eich barn?
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018