Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Cynfyfyrwyr yn dod ynghyd yn y frwydr yn erbyn canser

31 Gorffennaf 2018

Brwydro yn ôl, dyna oedd ymateb cyntaf Gareth Dunn (BA 2013) wrth wynebu diagnosis o ganser terfynol. Gyda chymorth grŵp cyfeillgar o gynfyfyrwyr Caerdydd, hyd yn hyn mae wedi codi dros £99,000 ar gyfer elusen ganser.

“Daethom i Gaerdydd yn 2010,” meddai Chris Pool (BA 2013). “Roedd rhai ohonom yn byw yn yr un bloc. Dyna sut y bu hi; arhoson ni gyda’n gilydd yn yr ail a’r drydedd flwyddyn ac rydyn ni wedi aros yn ffrindiau byth ers hynny.”

Mae’n disgrifio ei ffrind Gareth fel dyn “eithriadol o glyfar”, ac un sy’n “creu cryn argraff”: yn hoff iawn o chwaraeon, yn Llywydd Cymdeithas Hanes Prifysgol Caerdydd ac roedd ei fryd ar gael lle yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst.

Ond dim ond chwe mis ar ôl graddio, dywedwyd wrth Gareth fod tiwmor wedi’i ganfod yn ei ffêr dde. Mewn eiliad newidiodd cwrs ei fywyd – roedd angen torri ei droed i ffwrdd.
“Roedden nhw’n meddwl mai dyna ddiwedd y mater,” meddai Chris.

Addasodd Gareth i’w gyfyngiadau, a phenderfynodd roi pwyslais newydd i’w ymdrechion. Ac yntau’n methu ymladd dros ei wlad, rhoddodd ei fryd ar gynrychioli Cymru fel athletwr ac ymunodd â Charfan Hyfforddi Tîm Paralympaidd Prydain.

Ar ei ffordd i gael ei ddewis ar gyfer Gemau 2020 yn Tokyo, roedd gan Gareth fynediad at arbenigwyr meddygol blaenllaw – ond cafodd wybod yn ystod archwiliad arferol fod y canser wedi lledu i’w galon a’i ysgyfaint.

Rhoddwyd dwy flynedd i Gareth fyw.

Daeth diagnosis newydd â her newydd i Gareth, ac fe sefydlodd dudalen JustGiving gyda’r bwriad o godi £100,000. Hyd yn oed fel trychedig diweddar, nid oedd ganddo unrhyw amheuaeth ynghylch cystadlu ym Marathon Llundain eleni (llun), gan gwblhau’r cwrs 26.2 milltir mewn llai na chwe awr.

Buan iawn y dilynodd ei ffrindiau Prifysgol ei esiampl. Cymerodd 12 o raddedigion Caerdydd ran ym Marathon Paris a nifer o rasys ffordd eraill, o Southampton i Stockholm.

Ym mhob achos, dim ond y dechrau oedd y llinell gorffen. Rhyngddynt, aeth cynfyfyrwyr Caerdydd i’r afael â her Tough Mudder, Her y Tri Chopa, Y Cylch Nello 100-milltir a heriau di-rif eraill mewn ymdrech i gyrraedd targed Gareth o £100,000.

Yna’r penwythnos diwethaf, daethon nhw’n ôl i’r man lle dechreuodd popeth.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, roedd y ffrindiau o’r neuaddau preswyl wedi cynyddu mewn nifer – roedd 22 o gynfyfyrwyr Caerdydd wedi dod ynghyd ar y maes chwaraeon yn Llanrhymni, llawer ohonynt wedi chwarae pêl-droed gyda Gareth yng Ngemau Rhyng-golegol Caerdydd.

Roedd pob un ohonynt wedi rhoi rhodd o £25 i £100 i gymryd rhan mewn gêm elusennol ar gyfer ‘Ceidwaid Parc y Rhath’. Talwyd a noddwyd y gwisgoedd gan Juice (clwb nos chwedlonol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd), a’r Brifysgol a Chymdeithas Canolwyr Caerdydd a ddarparodd y cyfleusterau a’r swyddogion yn y drefn honno.

O ganlyniad i bwl diweddar o gemotherapi, nid oedd Gareth yn gallu dod ymlaen fel eilydd fel a gynlluniwyd, ond golygodd hefyd ei fod wedi osgoi’r sefyllfa annifyr o ddewis tîm – ac yntau wedi cynrychioli’r ddau dîm yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd.

Mae eisoes wedi perfformio’n arwrol, ac ar adeg ysgrifennu, roedd o fewn £2,500 o gyrraedd ei darged. I Chris, mae’r arian a godir yn “dyst i ba mor arbennig ydyw mewn gwirionedd.”

“Rydym yn hynod falch o gyflawniadau Gareth,” meddai. “Ac yn wirioneddol ffodus i’w ystyried yn ffrind i ni.”

Mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwil gancr yn y DU – darganfyddwch mwy, a chefnogwch ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn uniongyrchol.

Gallwch gefnogi ymdrechion Gareth a’i ffrindiau ar ei dudalen JustGiving hefyd