5 syniad codi arian tymhorol
2 Rhagfyr 2021Mae’n adeg wych o’r flwyddyn pan fydd y rhan fwyaf ohonom yn teimlo’n hael iawn ac yn hapus i gyfrannu at achos da. Anogwch eraill i gofleidio’r ysbryd o roi gyda rhai gweithgareddau codi arian ar thema’r Nadolig.
Cyn dechrau, gwnewch yn siŵr bod beth bynnag a wnewch yn cyd-fynd â chyfyngiadau COVID-19 lleol, ac os penderfynwch wneud unrhyw beth â bwyd, ystyriwch hylendid bwyd ac alergeddau. Ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gamblo, edrychwch ar reolau’r Comisiwn Gamblo a chofiwch, os ydych yn gofyn am roddion yn gyfnewid am nwyddau neu wasanaethau, megis raffl neu anrhegion lapio, ni fydd hyn yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd.
1) Amnewid anrhegion am roddion
Lleddfwch rywfaint o’r straen sy’n gysylltiedig â dewis yr anrheg berffaith drwy ofyn i ffrindiau a theulu roi i’ch tudalen JustGiving yn lle hynny. Mae hyn yn lleihau eu llwyth siopa Nadolig, gwastraff papur a phlastig posibl, yn eich helpu i gyrraedd eich targed codi arian, ac, yn bwysicaf oll, yn mynd tuag at achos anhygoel.
2) Raffl Nadoligaidd
Llenwch hamper o bethau da (mae pawb wrth eu bodd â siocled!) neu siaradwch â’ch tafarn, bwyty neu siop annibynnol leol am dalebau ar gyfer raffl. Yn y ffordd honno, yn ogystal â chodi arian, byddwch chi’n cefnogi busnes lleol sydd angen cymorth.
3) Rhagfyr o dacluso
Codwch arian a thacluso’ch cypyrddau ar yr un pryd. Mae Facebook yn ffordd hawdd iawn o wneud hyn heb unrhyw dâl comisiwn. Yn syml, dechreuwch lanlwytho lluniau a phrisiau!
4) Trefnwch ddiwrnod siwmperi Nadolig
Pwy sydd ddim yn caru siwmper Nadolig glyd? Gorau po fwyaf nadoligaidd (a hwyliog!) y gorau. Gofynnwch i gydweithwyr wisgo eu siwmperi ar ddiwrnod penodol a rhoi rhodd fach tuag at eich achos codi arian. Os nad ydych yn gallu bod gyda’ch gilydd yn bersonol, awgrymwch anfon lluniau ar dudalen a rennir neu sgwrs grŵp.
5) Lapio Nadolig
Wir, gall lapio anrhegion gymryd llawer o amser, a gall cael y tâp gludiog hwnnw i gadw yn y lleoedd cywir fod yn fwy rhwystredig na dod o hyd i nodwydd mewn ysgub. Drwy gynnig tynnu’r gorchwyl hwn oddi ar ddwylo pobl a lapio eu hanrhegion ar eu cyfer, gallwch ofyn am rodd yn gyfnewid. Mae’n fuddugoliaeth i bawb, ac erbyn diwedd y flwyddyn, bydd gennych sgiliau lapio trawiadol!
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018