Cyswllt Caerdydd

‘Beth yw beth’ mewn etholiad cyffredinol

Rhydian Thomas (BSc 2000)

Ar Rhagfyr 12 bydd miliynau o bobl yn gwneud y siwrne i neuaddau preswyl ac ysgolion ledled y DU i roi eu pleidlais yn yr etholiad cyffredinol. Er mai’r cwbl sydd angen ei wneud ar y diwrnod yw rhoi croes syml mewn blwch, mae’r broses o gynllunio a gweithredu etholiad yn swydd amser llawn.

Yng Nghymru, Rhydian Thomas (BSc 2000) sy’n cael y cyfrifoldeb hwn fel pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru. Cawsom air gydag ef i drafod beth yw trefnu etholiadol cyffredinol, ac am ei amser fel myfyriwr israddedig yng Nghaerdydd.

Swydd y comisiwn

Fe ddechreuom wrth ofyn i Rhydian, a raddiodd mewn Hanes Modern a Gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd, beth yw swydd y comisiwn mewn etholiad cyffredinol. Eglurodd fod camsyniad cyffredin mai’r comisiwn sy’n rhedeg yr etholiad, ond mewn gwirionedd, “mae’r gweithredu sylfaenol o’r etholiad yn cael ei wneud gan swyddogion etholiad annibynnol. Mae 22 ohonynt yng Nghymru ac yn gyffredinol, prif weithredwyr yr awdurdodau lleol ydynt”.

Dywedai Rhydian wrthym fod gan y comisiwn dair prif rôl yn yr etholiad yn Rhagfyr.

Gweinyddu’r etholiad

Mae gweinyddu etholiad cyffredinol yn amrywio o enwebiadau, i’r cyfri, i bleidleisio absennol, yn ogystal â gwerthuso perfformiad swyddogion etholiad ac arsylwi’r etholiad ei hun.

Fel y disgwylir, mae’n weithrediad mawr. “O ran niferoedd rydym yn sôn am o gwmpas 7000 o staff yng Nghymru, ac mae hynny’n cynnwys rheiny yn y cyfri a’r staff sy’n gweithio yn un o’r 2300 gorsaf pleidleisio ledled y wlad,” dywedai.

Yn unigryw yng Nghymru, mae’r etholiad yn cael ei weithredu yn hollol ddwyieithog, gan gynnwys y datganiad gan y swyddogion etholiad y gwelwch ar y teledu.

“Mae’n bwysig i ni bod etholiadau yn cael eu cynnal yn ddwyieithog, a bod pleidleiswyr unigol yn gallu cael mynediad i’r broses yn ddwyieithog ar unrhyw lefel,” nodai.

Cyfathrebu â’r cyhoedd

Ail rôl y comisiwn yw cyfathrebu, a rhan fawr o hynny yw canolbwyntio ar gofrestru pleidleiswyr.

Dywedodd Rhydian wrthym am y newidiadau enfawr mewn cyfathrebu dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi arwain at y comisiwn yn addasu ei arferion.

“Os ewch yn ôl 10 mlynedd, canolbwynt ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd oedd teledu a radio a hyd yn oed ychydig o brint. Mae hynny wedi newid erbyn hyn. Rydym yn dal i redeg hysbysebion teledu gan ei fod dal yn ffordd effeithiol i negeseuo elfennau penodol o’r etholwyr. Llawer o’n gwaith, yn enwedig o ran targedu pobl ifanc a myfyrwyr, a rheiny sydd ddim mor gysylltiedig i’r broses ddemocrataidd â grwpiau eraill yn ein cymdeithas, yw i ledaenu’r neges i’r grwpiau hynny drwy’r cyfryngau cymdeithasol”.

Nododd nad yw hyn yn cael ei wneud drwy hysbysebu y talwyd amdano yn unig, ond hefyd drwy ffyrdd mwy organig drwy ddefnyddwyr cyffredin, gan nodi sut mae nodwedd ‘rhannu eich cofrestriad’ Facebook ac anogaeth gan enwogion wedi helpu hyrwyddo cofrestriadau.

Mae trydydd ffocws swydd Rhydian yn canolbwyntio ar reoliad etholiadol. “Rydym yn rheoleiddio gwariant y pleidiau gwleidyddol sy’n cymryd rhan yn yr etholiad”, ac, “yn rhoi cyngor ac arweiniad i bleidiau ac ymgeiswyr yn ogystal.”

Atgofion o Gaerdydd

Fel cynfyfyriwr Caerdydd, siaradodd am ei amser yn y Brifysgol a sut mae wedi dylanwadu ar ei safbwyntiau. “Rwy’n dod o Rydaman yn Sir Gaerfyrddin, tref fach yng Ngorllewin Cymru, ac wrth dyfu fyny rydych yn meddwl fod gennych ddealltwriaeth o gymdeithas a’ch ffyrdd o feddwl. Rwy’n credu mai’r hyn a ddysgais drwy fod yng Nghaerdydd oedd bod llawer o ffyrdd o feddwl am bethau”.

Nid oedd hyn mewn seminarau a darlithoedd yn unig, ond drwy ei fywyd personol ei hun fel myfyriwr israddedig. “Roeddwn yn byw gyda hogiau o Lundain, Caerdydd, Ffrainc, Groeg a Zambia yn fy fflat, a hwythau i gyd yn bobl wahanol gyda syniadau gwahanol. Roeddwn wedi fy amgylchynu gan bobl o bob cwr o’r byd, roedd wir yn gyd-destun rhyngwladol.”

Roedd ei ddiddordeb mewn etholiadau yn amlwg o’r cychwyn. “Ar fy niwrnod cyntaf, ar ôl i’m rhieni fy nghludo i yno, mi wnes i gwrdd fy nghyd-letywyr a mynd draw i Undeb y Myfyrwyr. Fodd bynnag, noson refferendwm datganoli 1997 i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd hi, felly fe wnes yn siŵr fy mod yn gadael ddigon cynnar i wylio’r canlyniad!”

Yn olaf, gofynnom iddo am ei hoff dafarn yng Nghaerdydd. Ar ôl rhoi cynnig ar nifer o lefydd yn ei flynyddoedd cynnar fel myfyriwr, fe wnaeth ymgartrefu mewn un lle yn y pen draw. “Fe dreulion ni lawer o amser yn y Taf yn Undeb y Myfyrwyr, yn bennaf oherwydd y diodydd rhad a’r gerddoriaeth dda!”