Skip to main content

Enwau Nodedig

Athro Ffisioleg Arloesol Caerdydd

19 Rhagfyr 2019
Athro Subodh Chandra Mahalanobis (circa 1900)

Nid yw Subodh Chandra Mahalanobis yn enw cyfarwydd i lawer, ond roedd y cyn-academydd o Brifysgol Caerdydd yn arloeswr yn ei gyfnod. Yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy (a ddaeth yn ddiweddarach yn Brifysgol Caerdydd), fe dorrodd dir newydd nid yn unig yn y byd gwyddonol ond hefyd drwy ei waith yn hyrwyddo annibyniaeth India.

Ganwyd Mahalanobis yn Kolkata ym 1868. Datblygodd frwdfrydedd dros ymchwiliad gwyddonol yn ifanc ac ymrestrodd yn Ysgol Meddygaeth Calcutta yn 1883. O fanno, fe wnaeth ei ffordd i Brydain, yn astudio ym Mhrifysgol Caeredin, cyn teithio i’r de yn 1897 i Gaerdydd, a dod yn ddarlithydd cynorthwyol ac yn arddangoswr mewn ffisioleg. Yn ôl The Cardiff Times yn 1897, hwn oedd y tro cyntaf i Indiad gael ei benodi’n arholwr ar gyfer gradd wyddonol mewn prifysgol Brydeinig.

Yn wir, roedd hwn yn gyfnod arloesol yn hanes Prifysgol Caerdydd. Ychydig dros ddegawd ar ôl i Mahalanobis weithio yng Nghaerdydd, ymunodd Millicent Mackenzie, un o benseiri mudiad y swffragetiaid â’r Brifysgol gan ddod yn athro benywaidd cyntaf mewn prifysgol siartredig lawn yn y DU .

Roedd Mahalanobis ei hun hefyd wedi bod yn weithgar yn wleidyddol ym maes hawliau a chenedlaetholdeb Indiaidd. Roedd yn aelod o Gyngres Genedlaethol India ac yn llywydd cymdeithas Indiaidd Caeredin. Roedd hefyd yn aelod sefydlol o Gymdeithas Foesegol Caeredin yn trafod pynciau megis hawliau Indiaid a’u haddysg.

Credai ymchwilydd modern ym Mhrifysgol Caeredin ei fod yn bosibl y cafodd Mahalanobis drafferth datblygu ei yrfa ym Mhrydain. Gall hyn fod wedi ei ysgogi i ddychwelyd i India, lle daeth yn athro yn Kolkata yn 1900. Yno, fe sefydlodd ffisioleg fel pwnc academaidd annibynnol yn y wlad: cafodd ei waith effaith ddwys ar addysg Indiaidd. Yn 1934, daeth yn llywydd sefydlol Cymdeithas Ffisiolegol India – sefydliad sy’n parhau heddiw. Er cyflawniadau a gallu diamheuol Mahalanobis, ychydig iawn a ysgrifennwyd amdano, a dim ond ychydig o gydnabyddiaethau sydd o’i gyfraniadau arloesol i fywyd Prifysgol yng Nghaeredin a Chaerdydd.

Wedi’ch ysbrydoli gan hanes Subodh Chandra Mahalanobis? Dywedwch wrthym am enwau nodedig eraill sydd â chysylltiadau â Chaerdydd a Phrifysgol Caerdydd: rydym eisiau eich awgrymiadau am ffigurau hanesyddol sy’n haeddu cael eu dathlu mewn enwau adeiladau, gwaith celf a phortreadau ar y campws.