Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewid y drefn

Newid y drefn: Karen Cooke (BMus 1996)

13 Rhagfyr 2018

Millicent Mackenzie oedd yr athro benywaidd cyntaf yn un o brifysgolion y DU, ym 1910. Mae ei hetifeddiaeth fel un wnaeth newid y drefn yn parhau i gael ei hymgorffori gan staff a chynfyfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd sy’n benderfynol o newid y byd er gwell yn eu meysydd nhw eu hunain.

KAren Cooke holds aloft her award from Stonewall

Bellach, mae Karen Cooke (BMus 1996) yn Rheolwr Datblygiad Sefydliadol Prifysgol Caerdydd. Mae hi hefyd yn gadeirydd Enfys, rhwydwaith y Brifysgol ar gyfer staff a myfyrwyr ôl-raddedig LGBT+. Eleni, mae’n 100 mlynedd ers i ambell fenyw gael pleidleisio mewn etholiadau i Senedd y DU.

An old photograph of Millicent Mackenzie in academic dress

Mae Caerdydd yn cymryd balchder arbennig o fod yn gartref i Millicent Mackenzie Hughes, un o benseiri mudiad y swffragetiaid. Hi oedd yr unig ymgeisydd Seneddol benywaidd yng Nghymru yn y flwyddyn hollbwysig honno.

Hi hefyd oedd yr Athro benywaidd cyntaf mewn prifysgol siartredig lawn yn y DU, yn rhinwedd ei swydd fel Athro Addysg (Menywod) yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ym 1910.

Erbyn heddiw, Prifysgol Caerdydd yw’r enw ar y Coleg hwnnw, lle mae angerdd Millicent am gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn parhau i gael ei adlewyrchu mewn myfyrwyr, staff a chynfyfyrwyr.

Mae ei hesiampl arloesol yn fy ysbrydoli’n bersonol yn fy ngwaith fel Cadeirydd ein rhwydwaith staff a myfyrwyr ôl-raddedig LGBT+, Enfys. Caf fy nghymell bob dydd i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu bod yn nhw eu hunain mewn cyd-destun proffesiynol, ac mae gan dempled Millicent ar gyfer cydraddoldeb ran fawr yn ein gwaith.

Heddiw, Prifysgol Caerdydd yw’r 14eg ymhlith holl gyflogwyr y DU ar restr elusen hawliau LGBT+, Stonewall, a’n unig uchelgais ydyw gwneud yn well.

Fodd bynnag, nid fi yw’r unig un sy’n dwyn ysbrydoliaeth o enghraifft yr Athro Mackenzie; yn 2018, fel ym 1918, mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i gynhyrchu’r rheini sy’n newid y drefn.

Darllenwch yr erthygl nesaf am Newid y Drefn:
Helen Molyneux (LLB 1987) – Monumental Welsh Women

Hefyd yn y gyfres: