Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesEin Cyn-fyfyrwyrModern LanguagesUncategorized @cy

Matthew Whitley (BA 2018)

14 Awst 2018
Matthew Whitley
Matthew Whitley

Astudiodd Matthew Whitley (BA 2018) Ffrangeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac yn ddiweddar mae wedi ennill rôl gyda’r cwmni archwilio rhyngwladol, KPMG. Mae o’r farn bod “ieithoedd yn hollol hanfodol ym mhob proffesiwn.”

Rydw i wastad wedi bod yn angerddol am ddysgu ieithoedd tramor, yn enwedig Ffrangeg gan i mi ymweld â Ffrainc eithaf tipyn drwy gydol fy mhlentyndod. Roedd y cyfle i astudio’r iaith mewn mwy o ddyfnder a byw yn Ffrainc ar gyfer fy mlwyddyn dramor yn apelio’n fawr.

Roeddwn i’n caru’r ymdeimlad o gymuned glos sydd gan yr Ysgol. Mae hi o faint hyfryd sy’n eich galluogi i ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a thiwtoriaid ar lefel bersonol, sydd wir yn gwella eich profiadau dysgu a chymdeithasol.

Fy hoff atgof o fy amser yn y Brifysgol oedd fy mlwyddyn dramor yn Nantes. Fe wnes i fwynhau pob eiliad yn fawr gan fy mod i’n ymwneud â chlwb pêl-droed lleol tra’r oeddwn i’n byw yno. Roeddwn i’n gallu chwarae a hyfforddi pêl-droed a oedd yn brofiad gwych, a bydd wastad yn aros gyda mi gan fy mod wedi ffurfio ambell i gyfeillgarwch cryf iawn. Fe wnes i hefyd weithio fel Cynorthwyydd Saesneg yn “Lycée” (ysgol uwchradd wedi’i hariannu gan y wladwriaeth) fel rhan o gynllun lleoliad gwaith. Roedd hyn yn brofiad gwirioneddol gwerth chweil gan i mi allu cael profiad gwaith gwerthfawr, yn ogystal â’r cyfle i archwilio diwylliant proffesiynol gwahanol a fydd yn ddefnyddiol iawn yn y dyfodol.

Yn ddiweddar, rydw i wedi derbyn swydd gyda KPMG ar eu Cynllun Graddedig Archwilio Dwys. Mi fyddaf yn gweithio ar brosiectau archwilio sy’n wynebu cleientiaid tra hefyd yn gweithio tuag at ennill y cymhwyster proffesiynol ACA y byddaf yn ei ennill ar ôl cwblhau cynllun graddedig tair blynedd. Mi fyddaf wedyn yn gyfrifydd siartredig cymwys.

Roedd fy astudiaethau yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn hynod fuddiol gan iddynt roi i mi’r sgiliau academaidd a phersonol sydd eu hangen i gyflawni o fewn amgylchedd proffesiynol. Mae ieithoedd yn rhan hanfodol o bob proffesiwn gan fod cyfathrebu yn hanfodol i greu busnes llwyddiannus. Mae cwmnïau o hyd yn chwilio am ieithyddion dawnus i helpu i ehangu eu busnes a’u sylfaen cleientiaid.

I mi, bydd gallu siarad Ffrangeg yn KPMG yn agor llawer o gyfleoedd proffesiynol. Mae gan y cwmni swyddfeydd ledled y byd a sylfaen cleientiaid byd-eang, felly rydw i’n edrych ymlaen at allu defnyddio’r sgiliau iaith hynny yr ydw i wedi’u datblygu o fewn y byd gwaith.


Arts, Humanities & Social SciencesModern LanguagesOur Alumni

Matthew Whitley (BA 2018)

14 Awst 2018
Matthew Whitley
Matthew Whitley

Matthew Whitley (BA 2018) studied French at the School of Modern Languages and has recently secured a role at international auditors KPMG. He believes that “languages are a fundamental need in all professions.” (rhagor…)