Ydy sgitsoffrenia’n glefyd hunanimíwn?
20 Rhagfyr 2016Mae’r cysyniad y gallai fod gan glefydau seiciatrig fel iselder a sgitsoffrenia elfen imíwn yn dyddio’n ôl o leiaf 40 mlynedd, gydag astudiaethau niferus yn darparu tystiolaeth sy’n cysylltu’r system imíwn ac adweithiau hunanimíwn mewn o leiaf rhai cleifion â’r clefydau hyn. Cafwyd adroddiadau am amrywiol “gwrthgyrff gwrth-gelloedd ymenyddol” ond hyd yma nid oes dealltwriaeth glir o ba hunan-wrthgyrff sy’n nodweddiadol o glefydau seiciatrig a sut mae ymgysylltu â’u targedau’n achosi afiechyd.
Yn y rhifyn cyfredol o Lancet Psychiatry, mae Lennox a’i chydweithwyr yn disgrifio chwilio am hunan-wrthgyrff penodol i gelloedd niwronaidd mewn cleifion ag episod cyntaf o seicosis. Manteisiwyd ar banel o brofion celloedd byw a ddatblygwyd yn Rhydychen i fynd ati’n benodol i ddatgelu hunan-wrthgyrff yn erbyn proteinau arwyneb niwronaidd cymhleth. Dim ond un prawf yn y panel oedd yn dangos gwahaniaethau rhwng cleifion a rheolyddion iach – canfuwyd gwrthgyrff yn erbyn y derbynnydd N-methyl-D-aspartate (NMDAR) mewn 3% o’r rheini oedd yn cyflwyno gyda seicosis, ond dim un yn y rheolyddion. Nid oedd gwahaniaeth amlwg o ran clefyd rhwng y rheini yr oedd ganddynt wrthgyrff gwrth-NMADR a’r rheini oedd hebddynt.
Mae NMADR yn dderbynnydd pwysig ar gyfer gweithrediad niwronaidd normal, gan chwarae rhan allweddol mewn nifer o weithgareddau pwysig gan gynnwys dysgu a chof. Mae hunan-wrthgyrff yn erbyn NMADR wedi’u disgrifio o’r blaen mewn perthynas â chlefydau eraill yr ymennydd, yn benodol enceffalitis, ac wedi’u cysylltu â phroses y clefyd. Mae dangos bod gan is-set o gleifion sy’n cyflwyno gyda seicosis hunan-wrthgyrff gwrth-NMADR yn cefnogi’r cysyniad bod o leiaf rhai achosion o seicosis yn cynrychioli ymosodiad hunanimíwn ar gelloedd yr ymennydd. Mae’r canfyddiad yn awgrymu’r posibilrwydd o drin “seicosis hunanimíwn” mewn ffyrdd a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer clefydau hunanimíwn eraill – drwy dargedu’r hunan-wrthgyrff a’r celloedd imíwn sy’n gyfrifol.
Mae’r gwaith hwn yn gam cyffrous at sicrhau haeniad biolegol ar gyfer anhwylderau seiciatrig ac yn arwyddo’r ffordd at driniaethau newydd ar sail imíwn i rai cleifion. Cyn bwrw iddi gyda therapïau sy’n dileu gwrthgyrff neu abladu celloedd imíwn, mae’n glir bod angen ailadrodd yr astudiaeth hon mewn grwpiau eraill (mwy) o gleifion ac ehangu’r ystod o hunan-wrthgyrff y sgrinnir amdanynt. Serch hynny, mae’r gwaith yn codi’r posibilrwydd y bydd profion sgrinio am hunan-wrthgyrff yn golygu y bydd modd canfod cyfran o gleifion seicosis cynnar sy’n addas i gael ymyriadau o’r fath – o’r diwedd, therapi sy’n mynd i’r afael ag achos clefyd seiciatrig.
Mae Jeremy Hall a Paul Morgan yn Gyd-Gyfarwyddwyr Canolfan newydd Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig, canolfan ymchwil sydd wedi’i gwreiddio mewn dau Sefydliad Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n ceisio canfod cysylltiadau rhwng imiwnedd/llid a chlefydau seiciatrig.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016