Skip to main content

Iechyd meddwl oedolionIechyd meddwl plant a'r glasoedschizophrenia

MINDDS – rhwydwaith holl-Ewropeaidd ar gyfer ymchwil Anhwylderau Niwroddatblygiadol

9 Hydref 2017
Human head silhouette with a jigsaw piece cut out on the wooden background, mental health symbol
Human head silhouette with a jigsaw piece cut out on the wooden background, mental health symbol

Pan fyddwn yn sôn am ‘anhwylderau niwroddatblygiadol’ (NDD), rydym yn cyfeirio at ystod o gyflyrau iechyd meddwl a unir gan fioleg orfyffryddiadol sy’n deillio o ddatblygiad ymenyddol amharedig.

 Dim ond trwy gydweithredu rhyngwladol ac ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn sy’n achosi NDD y gallwn obeithio datblygu triniaethau effeithiol i reoli – ac ryw ddydd atal – yr anhwylderau gwanychol hyn.

 Mae NDD yn cynnwys popeth, o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD), i sgitsoffrenia.  Gall y cyflyrau hyn amharu ar ddysgu, y cof, a swyddogaeth weithredol, yn ogystal â pheri anawsterau i ryngweithio cymdeithasol a rheoli emosiynau.

 Gydag 1 ym mhob 25 person yn cael ei effeithio gan NDD, gall y cyfryw anhwylderau roi pwysau anferthol at systemau gofal iechyd, datblygiad economaidd, a’r gymdeithas. Mae diffyg gwybodaeth ynghylch y mecanweithiau biolegol sy’n achosi’r cyfryw anhwylderau yn her allweddol, am ei bod yn rhwystro datblygiad gwell triniaethau a diagnosteg.

 Effaith mwtadiadau genetig

 Mae nifer o ffactorau yn cynyddu’r risg o ddatblygu NDD, ond o safbwynt ymchwil, un o’r ffactorau cyfrannol mwyaf amlwg yw cyfraniad sylweddol geneteg. Dros y degawd diwethaf, mae cydweithio rhyngwladol mewn ymchwil geneteg a genomeg wedi dechrau awgrymu bod bioleg gyffredin a rennir gan y cyflyrau hyn. Yr her allweddol nawr yw defnyddio ein gwybodaeth genetig newydd i ddeall sut y newidir bioleg yr ymennydd, ac i ddatblygu gwelliannau ar gyfer diagnosis a thriniaeth.

Mae geneteg o fewn y boblogaeth NDD gyffredinol yn gymhleth oherwydd bod y risg fwy yn deillio o groniad llawer o fwtadiadau, a phob yn dangos effaith ysgafn yn unig. Anhawster pellach yw fod effaith benodol yr un mwtadiad yn gallu amrywio o’r naill glaf i’r llall.

 Ateb i’r problemau hyn yw astudio cleifion NDD lle mae dileu neu ddyblygu segmentau DNA (Amrywiolion Nifer y Copïau, CNV) yn cael effeithiau mawr ar weithrediad genynnau. Yn yr achosion hyn, mae’n haws sefydlu cyswllt uniongyrchol rhwng genyn penodol a’i effeithiau, am fod effeithiau’r mwtadiadau yn gryfach ac mae eu diffygion seiciatrig yn amlycach. Yn anffodus, mae achosion NDD mor addysgiadol â hyn yn brin, ac mae angen cydweithrediad rhyngwladol, cydlynus er mwyn canfod pobl yr effeithir arnynt gan y cyflyrau hyn fel y gellir cynnal astudiaethau mwy cynhwysfawr.

 Pwysigrwydd cydweithredu rhyngwladol

 I gyflawni hyn rydym wedi creu MINDDS (Maximising Research Impact in Neurodevelopmental Disorders), rhwydwaith ymchwil sy’n canolbwyntio ar ganfod ac astudio cleifion â chyflyrau NDD prin arnynt er mwyn gwella dealltwriaeth a thriniaeth yn y maes hwn.

 Cefnogir y prosiect hwn fel Gweithred COST Ewropeaidd. COST (European Cooperation in Science and Technology) yw fframwaith hynaf Ewrop i gefnogi cydweithredu ymchwil traws-wladol, ac fe’i cefnogir gan Raglen Fframwaith Ymchwil ac Arloesi yr UE, Horizon 2010.

 Bydd MINDDS yn creu rhwydwaith holl-Ewropeaidd o wyddonwyr clinigol ac ymchwilwyr cyn-glinigol o ganolfannau cyhoeddus a diwydiannol a chynrychiolwyr cleifion i symud astudiaethau uwch o gleifion NDD yn eu blaen ar gyfer y CNV pathogenig hyn. Mae’r prosiect yn anelu at gyflymu’n sylweddol gynnydd ymchwil i NDD yn ôl tri amcan cyd-gysylltiedig.

 Yn gyntaf, bydd y fenter yn creu rhwydwaith rhyngwladol ar gyfer cynnull grwpiau cleifion mwy sy’n barod i gymryd rhan mewn ymchwil. Er mwyn gwneud hyn, bydd yn cytuno ar ‘safon aur’ asesu cleifion clinigol i sicrhau bod yr holl ddata perthnasol yn cael ei gasglu yn yr un modd a bod cleifion yn gallu cael eu cymharu’n hawdd o wahanol safleoedd cenedlaethol. Ymhellach, bydd MINDDS yn sefydlu fframwaith rheoliadol, cyfreithiol, a moesegol ar gyfer cydweithredu ymchwil cleifion NDD traws-wladol a chyfnewid gwybodaeth effeithiol.

 Yn ail, er mwyn sicrhau y ceir y budd mwyaf o ymchwil sy’n seiliedig ar gleifion, bydd MINDDS yn datblygu protocolau a dulliau safonedig fel bod yr un dulliau ymchwil yn cael eu defnyddio ni waeth ym mha ganolfan ymchwil y digwydd.

Bydd safoni’r protocolau yn cynnwys astudiaethau cleifion cyfan, megis profi gwybyddol a delweddu’r ymennydd, ond hefyd dechnolegau newydd bôn-gelloedd sy’n deillio o’r claf.

 Cysylltiad gwybodaeth

 Yn olaf, bydd MINDDS yn datblygu adnodd ar-lein trosfwaol ar gyfer rhannu gwybodaeth – cysylltiad gwybodaeth. Bydd hyn yn cynnwys cofrestrfa Ewropeaidd at gyfer cleifion NDD, a all gymryd rhan mewn ymchwil yn y dyfodol; cronfa ddata ymchwil ar gyfer ymchwilwyr gweithredol, a gwasanaeth, gwybodaeth ar gyfer clinigwyr, cleifion, darparwyr gofal, a rhieni.

 Ar gyfer ei aelodau, amcanion MINDDS yw dod â chymuned ynghyd trwy gynadleddau, gweithdai, a gweithgorau. Bydd yn hyfforddi clinigwyr i ganfod ac asesu cleifion NDD â CNV, sydd yn aml yn blant, a chynnig ffordd iddynt gyd-weithio er mwyn cynnull carfanau ymchwil.

 Rydym yn anelu at hyrwyddo dealltwriaeth o NDD o fewn y gymuned ymchwil, gan greu partneriaethau gwaith agos rhwng canolfannau ymchwil, yn gyhoeddus ac yn ddiwydiannol fel ei gilydd, a’r rheng flaen glinigol a chymunedau cleifion. Gwneir hyn drwy’r cysylltiad gwybodaeth, ond hefyd drwy gefnogi ymweliadau cyfnewid ar gyfer ymchwilwyr ifainc, clinigwyr, a chynrychiolwyr cleifion.

 Cymuned sy’n tyfu

 Mae MINDDS hefyd yn bwriadu ehangu ei aelodaeth yn Ewrop a’r tu hwnt, i sicrhau y cwmpas daearyddol ehangaf posib. Mae sylfaenwyr y prosiect yn hanu o ar draw Ewrop, o Iwerddon i Fwlgaria a Rwmania, ac mae Macedonia a Bosnia a Herzegovina eisoes wedi ymuno â ni.

Y tu hwnt i Ewrop, mae Israel a Chanada ill dwy yn aelodau o’r rhwydwaith, a thrwy gyfranogaeth ryngwladol cynyddol, ein gobaith yw creu cerbyd byd-eang ar gyfer ymchwil NDD.

Os hoffech ymuno â MINDDS, cysylltwch â’r Athro Adrian J Harwood drwy harwoodaj@caerdydd.ac.uk.