Gwell ymwybyddiaeth o iechyd meddwl plant
10 Mai 2018Mae llawer o blant a phobl ifanc yn profi teimladau o ofid a thristwch neu yn cael trafferth canolbwyntio ar waith ysgol.
Yn achlysurol, gall yr anawsterau hynny ddatblygu i fod yn rhai parhaus ac ymyrryd â bywyd gartref, gwaith ysgol a’r gallu i wneud ffrindiau.
Deallir yn gynyddol y gall y mathau hyn o broblemau ddatblygu i fod yn broblemau iechyd meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd. Rydym hefyd yn gwybod bod problemau iechyd meddwl fel iselder (sy’n cynnwys symptomau fel tristwch parhaus, teimlo’n ddiwerth ac anawsterau cysgu a chanolbwyntio) yn syndod o gyffredin ymysg pobl ifanc ac maent yn ymyrryd i raddau helaeth â’u gallu i wireddu eu potensial.
Mae gan nifer sylweddol o blant broblemau niwroddatblygiadol fel ADHD ac awtistiaeth sy’n golygu ei bod yn anodd iawn iddynt fynd ati i ddysgu a gweithio gyda chyfoedion mewn ystafelloedd dosbarth.
Sylwi ar yr arwyddion
Rydym yn croesawu adroddiad Llywodraeth Cymru yn fawr ac yn galw am fwy o bwyslais ar atal problemau iechyd meddwl ymysg plant a phobl ifanc.
Ceir tystiolaeth wyddonol gref sy’n dangos bod anawsterau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yn gyffredin ac yn gallu cael effaith hirdymor ar iechyd corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, mae hefyd yn dangos y gall rhai cyflyrau, gyda gofal priodol, gael eu trin yn fwy effeithiol a’u hatal, hyd yn oed.
Gall ymyriadau ataliol gynnwys nifer o bethau, ac yn eu plith mae cynnig triniaethau i bobl sydd â symptomau cynnar, cynnig gwybodaeth am yr hyn sy’n peri anawsterau a hyfforddiant iechyd meddwl i bobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc a theuluoedd.
Mae un enghraifft o ymyrraeth ataliol sydd wedi ei phrofi mewn hapdreialon rheoledig yn dangos bod therapi seicolegol (therapi gwybyddol ymddygiadol) ar gyfer y rheini yn eu harddegau sydd â symptomau iselder, yn atal y symptomau hynny rhag dwysáu i fod yn iselder clinigol difrifol ac mae’n cael effaith fuddiol ar iselder a sgiliau academaidd a chymdeithasol sy’n para nifer o flynyddoedd.
Mae gwell ymwybyddiaeth o symptomau, gwybodaeth am sut i ofyn am gymorth, a dealltwriaeth o ymddygiad defnyddiol ar gyfer y rhai â phroblemau iechyd meddwl a’u teuluoedd wedi bod yn ddefnyddiol.
Blaenoriaethu iechyd meddwl
Mater pwysig i’w gofio yw bod angen gwerthuso ymyriadau ataliol a rhaglenni ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn yr un modd â meddyginiaethau eraill.
Er mwyn cael mwy o fuddsoddiad ym maes atal i gyflawni buddiannau go iawn ar gyfer plant wrth iddynt dyfu’n hŷn, mae’n hanfodol bod triniaethau ar sail tystiolaeth ac ymyriadau ataliol yn cael eu defnyddio.
Mae nifer o ymyriadau ataliol sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi’u gwerthuso’n dda, ac mae pecynnau addysg iechyd meddwl yn bodoli.
Mae’n hanfodol hefyd bod pobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol eraill yn cael hyfforddiant o ansawdd da a chyngor am iechyd meddwl a’r ymyriadau sydd ar gael.
Mae’n bwysig bod clinigwyr a gwyddonwyr yn cydweithio ag athrawon, rhieni a phobl ifanc er mwyn cefnogi’r fenter hon a chyfnewid gwybodaeth.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016