Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Fy nyddiadur Caerdydd

24 Gorffennaf 2017

Pam oeddwn yng Nghaerdydd? Ddeunaw mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn dal i fod yn yr ysgol feddygol, aeth genetegydd Camerŵnaidd ag ambell un ohonom o’n clwb Geneteg i labordy yn Cotonou, yng Ngweriniaeth Benin. Yno, cawsom ein cyflwyno ganddo i’r ddilyniannau Sanger a fyddai, mewn byr o dro, yn chwyldroi byd meddygaeth.

Nid yw fy niddordeb mewn geneteg wedi pylu ers hynny, hyd yn oed pan gymerais y cam ymarferol o fynd ar gyfnod preswyl seiciatreg, yr hyn a wnaeth beri i mi benderfynu bod yn feddyg yn y lle cyntaf. Roedd traethawd fy Nghymrodoriaeth, gan ddilyn fy ysgogiad naturiol o hyd, ar yr unig fath o eneteg a oedd yn bosib ar gyfer seiciatrydd o Nigeria o dan hyfforddiant – astudiaeth deuluol o afiachusrwydd seiciatrig ymysg probandiaid sgitsoffrenia (claf sydd yr aelod cyntaf o’r teulu i gael ei astudio)

Ar ôl ymgymhwyso, anfonais grynodeb at Gynghrair Seiciatryddion Geneteg y Byd. Roeddwn yn ffodus, o ganlyniad i gael grant, o allu mynd i’r cyfarfod yn Boston ym mis Hydref 2013, lle bûm yn eistedd yn y gynulleidfa yn gwrando ar gyflwyniadau syfrdanol gan Jordan Smoller, Stephan Ripke, Mick O’Donovan a Michael Owen, ymhlith eraill. Roedd diffyg presenoldeb Affricanaidd yn nata’r Astudiaeth Cysylltiad Genom-gyfan (GWAS) a oedd yn cael ei gyflwyno yn deimlad annifyr dros ben.

Dair blynedd yn ddiweddarach, bues i mewn gweithdy pythefnos o hyd ar enomeg niwroseiciatreg a drefnwyd gan Sefydliad Rhyngwladol Ymchwil yr Ymennydd a Phrifysgol Cape Town, lle’r oedd y gyfadran yn cynnwys mawrion fel Stephan Ripke, Ben Neale, ac eraill.

Ar ôl y gweithdy hwn, roeddwn yn awchu am ragor, ac erbyn i ni ennill grant egin (ar y cyd â chydweithwyr yn Imperial College, Llundain) ar gyfer astudiaeth ar eneteg seicosis sy’n dechrau yn ystod plentyndod, roeddwn yn gwybod bod yn rhaid i mi fynd ar bererindod i Gaerdydd, prifddinas Ewropeaidd genomeg seiciatrig.

Prin oriau ar ôl anfon fy nghais ar gyfer ysgol haf Prifysgol Caerdydd i’r Athro George Kirov, derbyniais ymateb cadarnhaol, ac ychydig wythnosau yn ddiweddarach, ar brynhawn Llun tesog, wedi teithio am fwy na 24 awr (gan gynnwys arhosiad yn Doha), roeddwn ar drên o orsaf Paddington Llundain i Gaerdydd. Deuthum oddi ar y trên yng ngorsaf Cathays a llusgo fy magiau’r holl ffordd i Adeilad Hadyn Ellis, yn diferu adrenalin.

Roeddwn yn awyddus i wrando ar James Walters yn siarad am ‘Ddata Mawr a GWAS’, a dangosodd yr amserlen wreiddiol a anfonwyd ataf y byddai’n dechrau unrhyw funud. Gofynnais yn brin o anadl wrth y ddesg gofrestru a oeddwn wedi colli fy nghyfle i ymuno â’r drafodaeth ac fe roddwyd i mi raglen ddiwygiedig a ddangosodd fod newid i’r amserlen gyda George Kirov ar fin dechrau siarad am ‘Amrywiolion Rhifau Copi ac Anhwylderau Niwroddatblygiadol’.

Y diwrnod canlynol, gwrandewais ar James Walters, a siaradodd yn huawdl am waith y Consortiwm Genomeg Seiciatrig, a’r Dr Anthony Isles (‘Epig-eneteg a’r Ymennydd’) ymhlith eraill. Fy uchafbwyntiau dydd Mercher oedd Lawrence Wilkinson(‘Rhoi geneteg seiciatrig ar waith – defnyddio niwrowyddoniaeth i drosi ystadegau i fioleg’) a Mick O’Donovan (‘Darganfyddiadau mawrion mewn geneteg sgitsoffrenia yn darparu mewnwelediad i bathogenesis’).

Roedd y gofal a aethpwyd i mewn i gynllunio’r cwricwlwm yn amlwg yn y ffaith bod cyflwyniadau cynrychioliadol o dirlun hydredol seiciatreg, o seiciatreg plant i oedolion, o sgitsoffrenia i anhwylderau deubegynol, dibyniaeth i fathau o ddementia. Cynrychiolwyd niwroleg a niwrolawdriniaeth gan gyflwyniadau ar epilepsi a buddion gwybyddol llawdriniaeth fôn-gelloedd.

Collais y daith dilyniannau trwygyrch uchel, ond fe wnaeth yr Athro Kirovfy nghysylltu ag aelodau staff ardderchog megis Alex Evans a Will Nash a wnaeth fwy na iawn am yr hyn a gollais. Cafwyd taith hefyd o amgylchSefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, ar drydydd llawr Adeilad Hadyn Ellis, lle cawsom ein cyflwyno i’r gwaith rhyfeddol sy’n cael ei wneud â bôn-gelloedd.

Gwnaethom hefyd ymweld â’r CUBRIC newydd sbon, sydd â pheth o’r cyfarpar delweddu’r ymennydd mwyaf soffistigedig yn y byd. Yn olaf, a chan ystyried proffil gyrfa cynnar y rhan fwyaf o fyfyrwyr, roedd y trefnwyr wedi cynnwys, yn feddylgar, weithdai gyrfa ar gyfer gwyddonwyr meddygol ac anfeddygol.

Yn ddelfrydol, hoffwn weld yr ysgol haf yn cynnig rhaglen bythefnos sy’n neilltuo mwy o amser ar gyfer ymarfer amlygiad. Heb y pythefnos a dreuliais yn Cape Town, byddai’r sesiynau ar Fiowybodeg gydag Elliot Rees wedi bod yn anodd eu dilyn.

Heblaw am y cyfle i gwrdd ag ymchwilwyr o’r radd flaenaf, rhoddodd yr ysgol gyfle i gymysgu â chyfoedion o wahanol rannau o’r byd. Mwynheais gymdeithasu yn ystod ac ar ôl cinio gyda fy nghydweithwyr o Groatia, Pacistan, yr Almaen a’r Aifft – a ffurfiwyd perthnasau a all yn sicr bara oes wrth i genhedlaeth newydd o ymchwilwyr yr ymennydd ddod i’r amlwg a meithrin y maes gyda’i gilydd.

 

Bywgraffiad y Cyfrannwr: Astudiodd Niran Okewole feddygaeth ym Mhrifysgol Ibadan, Nigeria ac fe gyflawnodd breswyliad mewn Seiciatreg yn yr Ysbyty Niwroseiciatrig Ffederal, Yaba Lagos, Nigeria. Mae ganddo radd Meistr mewn Iechyd Plant ac Oedolion (Prifysgol Ibadan) ac mae’n ymgynghorydd yn yr Ysbyty Niwroseiciatrig, Aro Abeokuta, Nigeria. Ei ddau gyhoeddiad mwyaf diweddar yw siart ddeuddeg blynedd o seicosis sy’n cychwyn yn ystod plentyndod a llencyndod, ac astudiaeth ar iselder mamol a seicopatholeg plant.