Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Allai gwyddor data chwyldroi gofal iechyd meddwl?

2 Awst 2017

Mae salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar person bob blwyddyn, ac yn aml mae hynny’n cael effaith ddinistriol ar eu bywydau.  Ac er bod salwch meddwl yn cael sylw cynyddol yn y cyfryngau ac mewn trafodaethau gwleidyddol, mae ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n achosi cyflyrau sy’n amrywio o brydersgitsoffrenia yn dal yn druenus o annigonol, gyda’r ymchwil ymhell ar ei hôl hi o gymharu â chyflyrau iechyd eraill corfforol.

Dim ond £8 y pen sy’n cael ei wario ar ymchwil salwch meddwl am bob person sy’n dioddef ei effaith – 22 gwaith yn llai na chanser.  Yn MQ: Transforming Mental Health, ein barn ni yw ei bod hi’n arswydus bod ymchwil iechyd meddwl wedi cael cyllid mor annigonol cyhyd, a heb gael ei gweld fel blaenoriaeth.  Felly rydym wedi addunedu i ymgymryd â hynny, drwy ariannu rhai o wyddonwyr blaenllaw’r byd i ateb rhai o gwestiynau mawr iechyd meddwl, fel: sut mae salwch meddwl yn datblygu, pwy sy’n wynebu’r risg fwyaf, a pham mae rhai pobl yn gwella, ond eraill ddim?

Mae ein rhaglen gwyddor data yn rhan allweddol o’r addewid honno.  Drwy gyfuno setiau data lluosog sy’n edrych ar bopeth o driniaethau a gyrchwyd a chanlyniadau i gofnodion ysgol, gobaith y gwyddonwyr data yw y byddan nhw’n gallu sicrhau darlun mwy cyflawn o sut mae iechyd meddwl yn effeithio ar unigolion a gwella’r triniaethau maen nhw’n eu derbyn.

Rydym wedi ariannu pedwar gwyddonydd, cyfanswm o £200,000, i archwilio sut gall data ein helpu i sbarduno cynnydd ym maes iechyd meddwl. Mae eu prosiectau yn amrywiol ac yn arloesol, ac yn defnyddio data i fynd i’r afael ag amrywiol heriau megis: adnabod arwyddion perygl hunanladdiad mewn ysgolion, paru pobl â’r opsiwn gorau o ran triniaeth seicolegol yn y GIG, personoli triniaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc, a helpu i gynyddu hyd oes ddisgwyliedig yn achos sgitsoffrenia, astudiaeth sydd yng ngofal Dr James Walters, seiciatrydd academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd James yn edrych ar sampl genetig mwyaf y byd o bobl sydd â sgitsoffrenia, ac yn cysylltu hynny â data clinigol.  Bydd ei waith yn ein galluogi i ganfod effaith ffactorau risg genetig ar gyfer pobl sydd â sgitsoffrenia, gan gynnwys problemau iechyd corfforol, fel clefyd cardiofasgwlaidd a gordewdra.

Drwy wella ein dealltwriaeth o geneteg yng nghyswllt sgitsoffrenia, byddwn ni’n gallu creu gwell ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer cleifion unigol.

Gallai gwaith James a’r gwyddonwyr data chwyldroi gofal iechyd meddwl – gan ganiatáu i ni weld pwy sy’n wynebu’r risg fwyaf ac ymyrryd yn gynharach, gyda thriniaethau sydd wedi’u personoli a’u targedu’n fwy.

Er bod gennym ni ffordd bell i fynd i gyrraedd yr un man â iechyd corfforol, rydym ni yn gwneud cynnydd, a thrwy ariannu rhaglenni arloesol fel y rhain, rydyn ni’n cymryd y cam cyntaf tuag at ddyfodol gwell ar gyfer y rhai sy’n wynebu salwch meddwl.