Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Cynyddu’r ddealltwriaeth o awtistiaeth, a rhoi’r gorau i feio rhieni ar gam

11 Awst 2017
Focus on  wooden blocks and child on background
Focus on wooden blocks and child on background

Sue Leekam a Catherine R.G. Jones

Mae gan gynifer â 1.1% o boblogaeth y Deyrnas Unedig anhwylder sbectrwm awtistig (ASD), sy’n golygu ei fod yn gyflwr cymharol gyffredin. Ac eto mae modd o hyd i anhwylderau sbectrwm awtistig (ASD) gael eu camddeall, neu hyd yn oed osgoi sylw. Mae arwyddion ASD yn amlwg mewn rhai plant, ond yn achos eraill mae’r arwyddion i’w gweld mewn ffyrdd mwy cynnil a llai traddodiadol. Gall diffyg dealltwriaeth ynghylch sut mae ASD yn dod i’r amlwg olygu na sylwir ar yr arwyddion, neu eu bod yn cael eu priodoli ar gam i achos gwahanol. Gall cambriodoli a chamddeall fel hyn gael effeithiau negyddol sylweddol ar bobl awtistig a’u teuluoedd.

Yn erthygl BBC Wales ar 26 Gorffennaf 2017, amlygwyd canlyniad methiant i ddeall ASD. Disgrifiodd mam ei hofnau y gallai ymddygiad ei phlentyn awtistig gael ei ddehongli fel esgeulustod rhieni ac y byddai rhywun yn dweud amdanynt wrth y gwasanaethau cymdeithasol, tra dywedodd cyfreithiwr fod rhieni’n aml yn cael eu beio am rianta annigonol pan fyddai eu plant awtistig yn cael pyliau o dymer ac yn dioddef gorlwytho synhwyraidd.   Rhaid mynd i’r afael â syniadau camarweiniol o’r fath. Cyflwynwyd y myth mai rhieni oedd ar fai am ASD yng nghanol y ganrif ddiwethaf ac fe’i chwalwyd gan dystiolaeth ymchwil yn y Deyrnas Unedig o fewn ychydig ddegawdau.

Felly gofynnwn i’r BBC a chyfryngau eraill ymuno â’r ymgyrch i symud dealltwriaeth gyhoeddus ymlaen drwy ganolbwyntio ar dystiolaeth ymchwil. Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos yn eglur nad yw rhieni plant ag ASD fel grŵp mewn unrhyw fodd yn dewis lleihau lefel eu rhianta, ond y byddant o bosibl yn addasu eu rhianta i ymateb i anghenion penodol eu plentyn.

Er i’r erthygl newyddion hon gan y BBC roi’r ffocws ar fai, fe ddaeth hefyd â’r newyddion da pwysig fod  Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig  newydd wedi cael ei lansio ledled Cymru gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Mae’r gwasanaeth yn ymroddedig i sicrhau y bydd gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, addysg a gofal cymdeithasol yn derbyn adnoddau newydd a hyfforddiant i gynyddu ymwybyddiaeth a lleihau’r syniadau camarweiniol ynghylch ASD.  Y nod yw bod gweithwyr proffesiynol yn dod yn fedrus ac yn wyliadwrus i ganfod amrywiaeth o ymddygiadau sydd ‘ar y sbectrwm awtistiaeth’ ac yn ymateb gyda chymorth priodol ar gyfer unigolion a’u teuluoedd. Mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau eisoes ar gael.

Mae tystiolaeth ymchwil o Ganolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru Prifysgol Caerdydd ar ddangos y ffordd yn achos ASD yn cyfrannu at yr adnoddau hyn.  Er enghraifft, mae ffilm y gellir ei lawrlwytho am ddim bellach ar gael, sy’n darparu hyfforddiant ar arwyddion ASD ar gyfer gweithwyr proffesiynol a theuluoedd.  Mae prosiect hefyd wedi cael ei lansio mewn ysgolion.

ASD cyflwr niwroddatblygiadol gydol oes y ceir diagnosis ohono pan fydd anawsterau o ran rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu, sy’n cyd-ddigwydd ag anhyblygrwydd o ran meddwl ac ymddygiad. Mae sbectrwm o ymddygiad ar draws y dimensiynau gwahanol hyn. Mae’r symptomau’n datblygu yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd ac mae ASD yn rhedeg mewn teuluoedd fel un o’r mwyaf etifeddadwy o’r cyflyrau niwroddatblygiadol.  Mae’n effeithio ar unigolion o bob gallu; er bod gan rai unigolion hefyd anableddau deallusol, nid yw hynny’n wir am eraill.  Mae ASD hefyd i’w weld yn gyffredin ochr yn ochr â chyflyrau eraill niwroddatblygiadol megis namau ADHD, dyspracsia a iaith.

Mae symptomau ASD yn aml i’w gweld ochr yn ochr ag anawsterau cysylltiedig. Mae’r rhain yn cynnwys anawsterau emosiynol (e.e. gorbryder, dicter), problemau ymddygiad (e.e. pyliau o dymer) a phroblemau ‘gweithredol’ (e.e. anawsterau cysgu, bwyta a mynd i’r toiled). Yn wir, mae cynifer â thri chwarter o’r holl blant sydd ag ASD hefyd yn dioddef o’r mathau hyn o anawsterau cysylltiedig.  Gall dehongli’r ymddygiadau hyn heb adnabod neu ddeall awtistiaeth plentyn arwain at gamddealltwriaeth a chyngor amhriodol.  Mae’n hanfodol, felly, deall eu cysylltiadau cymhleth â symptomau awtistiaeth i sicrhau cefnogaeth effeithiol ar gyfer yr anawsterau ychwanegol hyn.   Er enghraifft, mae Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Glinigol yn pwysleisio’r angen am gefnogaeth ac ymyriadau priodol i ASD er mwyn lleihau ymddygiad heriol.

O ran anawsterau emosiynol, mae’n bwysig cofio nad yw ASD yn salwch meddwl. Fodd bynnag, mae gan y rhai sydd ag ASD risg sylweddol uwch o ddatblygu pryder neu iselder clinigol ac mae’n hanfodol deall y cysylltiad rhwng materion iechyd meddwl a phroffil symptomau ASD yr unigolyn.  Er enghraifft, mae tystiolaeth bod cysylltiad rhwng symptomau ymddygiad ailadroddus ASD a phryder  a chanlyniadau ansawdd bywyd, sy’n dangos bod angen cefnogaeth benodol iawn ar unigolion i hybu eu llesiant.

Mae gwasanaethau awtistiaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer gwella. Gadewch inni ddefnyddio’r cyfleoedd hyn i atal teuluoedd rhag bod o dan anfantais yn sgîl camddealltwriaeth a ffocws ar feio.  Trwy gefnogi gweithwyr proffesiynol i gynyddu eu dealltwriaeth, byddant mewn lle gwell i helpu unigolion sydd ag ASD a’u teuluoedd. Mae hyfforddiant, gwybodaeth ac adnoddau, a dull gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyd yn ffyrdd o wella’r ddealltwriaeth gyffredinol o ASD, gan sicrhau manteision i bawb y mae ASD yn effeithio arnynt.