Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd ac Iechyd MeddwlIechyd meddwl oedolion

Pam mae ymwybyddiaeth ofalgar yn bwysig ym maes addysg feddygol

18 Gorffennaf 2017

Mae’r darn hwn yn seiliedig ar bapur sy’n ail rifyn The British Student Doctor Journal, a gaiff ei argraffu gan Wasg Prifysgol Caerdydd.

Mae nifer o heriau sy’n gysylltiedig â bod yn feddyg ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli straen, lludded a chynnal iechyd meddwl da ac agwedd iach at hunanofal. Mae heriau eraill yn cynnwys gweithio mewn amgylchedd sy’n mynd yn fwy prysur ac yn eich drysu, lle mae’n arferol eich bod yn gwneud gwaith cymhleth o aml-dasgu. Ymysg hyn mae nifer arswydus o uchel o wallau diagnosteg a meddyginiaeth yn cael eu gwneud, sydd â goblygiadau enfawr ar les doctoriaid, cleifion a’u teuluoedd a’r system gofal iechyd.

Mae angen dod o hyd i strategaethau a fydd yn helpu doctoriaid i fynd i’r afael â heriau tebyg, a gweithredu’r rhain. I ficroreoli sylw i’r amgylcheddau cymhleth hyn, a dysgu mwy am sut i ymdrin â diwrnod prysur, un eiliad, un swydd ac un claf ar y tro. Oherwydd hyn, a rhesymau eraill, mae mwy o ysgolion meddygol ac ysbytai yn troi at arferion fel ymwybyddiaeth ofalgar, sydd â manteision amrywiol iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys lleihau straen sy’n ymwneud â gwaith a lludded, yn ogystal â chynyddu hunanofal a thosturi. Mae hefyd mwy o waith yn dod i’r amlwg sy’n nodi y gall helpu lleihau gwallau clinigol.

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ddull syml o wella ein gallu i ymgysylltu a chynnal ein sylw, ar yr un pryd â meithrin agwedd fwy agored a thosturiol ar yr adeg honno. Caiff ei datblygu drwy arfer ffurfiol o fyfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar a’r arfer anffurfiol o fod yn ystyriol wrth i ni ymdrin â’n bywydau bob dydd.

Mae’r erthygl, Why Mindfulness Matters in Medical Education, yn rhoi ychydig o’r rhesymeg y tu ôl i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar ym maes addysg feddygol ac arfer, yn ogystal â disgrifio’r dull sydd gennym ym Mhrifysgol Monash, Awstralia, o addysgu ymwybyddiaeth ofalgar. Mae hefyd yn rhoi dolenni at ragor o adnoddau, gan gynnwys cwrs cyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar ar-lein a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Monash, a’i leoli ar blatfform FutureLearn y DU.