Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Gwrywdod: Yn fendith ac yn faich?

7 Gorffennaf 2017

Ein profiadau personol yn aml sydd yn dylanwadu ar ein llwybr academaidd. Drwy gydol fy mywyd hyd yma, dywedwyd wrthyf fod rhaid imi ymddwyn mewn ffyrdd penodol, dim ond am fy mod i’n wryw. Mae’r rhain yn cynnwys peidio â chrïo (“nid yw bechgyn yn crïo”) a pheidio â dangos unrhyw arlliw o emosiwn (“ymwrola”) wrth wynebu anhawster.

Enynnwyd fy niddordeb mewn seicoleg glinigol fel proffesiwn yn rhannol gan fy rhwystredigaeth a’m hanfodlonrwydd gyda’r disgwyliadau hyn. Roedd hyn yn cynnwys y posibilrwydd o helpu dynion i herio eu syniadau ynghylch gwrywdod, cysylltu a’u hemosiynau a hwyluso eu datblygiad seicolegol.

Er gwaethaf fy niddordeb personol yn y maes hwn, byddwn yn ei ystyried yn fater arbennig o bwysig. Mae ymchwil yn awgrymu bod dynion rhwng 20 a 49 oed yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i hunanladdiad nag unrhyw ffordd arall o farw. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu mai dynion sydd i’w cyfrif am 90% o’r boblogaeth ddigartref a 95% o’r rheiny yn ein system garchar. Awgrymwyd hefyd bod dynion yn parhau i fod yn llai parod na menywod i geisio cymorth ar gyfer eu problemau ffisegol neu emosiynol.

Pan gefais wybod am y gystadleuaeth ‘cwblhau thesis mewn tair munud’, cefais fy ysbrydoli i sefyll ger bron cynulleidfa o’m cyfeillion a siarad yn angerddol ac yn agored nid yn unig am fy rhwystredigaethau ynghylch y cysyniad o ‘wrywdod’, ond hefyd fy ymchwil innau sydd wedi dangos sut mae rhai dynion gyda hanes o droseddu treisgar yn ystyried eu gwrywdod.

Yr hyn a ddaeth i’r amlwg i mi oedd bod y dynion hyn yn bwriadu bod yn ‘ddynion da’, ond eu bod yn ei chael hi’n anodd troedio llwybr cul gwrywdod. Roeddent yn ymwybodol y gallai rhy ychydig o wrywdod eu gwneud yn agored i niwed, ac y gallai gormod o wrywdod arwain at ymosodedd. Yn anffodus, bu iddynt ogwyddo tuag at drais, am fod yr anawsterau yn eu bywydau yn rhy fawr, ac roedd arfwisg gwrywdod (yr oedd cymdeithas wedi’i rhoi arnynt) yn rhy drwm.

Er fy mod o’r farn y gallai fy ymchwil gael goblygiadau pellgyrhaeddol, nid yw dallineb rhywedd yn amlycach yn unman nag yn y prinder ymchwil cymharol i’r problemau sy’n effeithio’r rhyw wrywaidd yn ehangach, yn enwedig yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl pob golwg, rydym yn byw mewn diwylliant ôl-ffeministaidd lle credir yn gyffredinol mai dim ond menywod sy’n gallu dioddef oherwydd eu rhyw (y mae’n amlwg eu bod yn gallu ac eu bod yn dioddef felly). Yn anffodus, mae hyn yn cynnal y diffyg dealltwriaeth ynghylch pam y mae’r gyfradd hunanladdiad ar gyfer dynion mor uchel, a pham mae cymdeithas cymaint yn fwy parod i adael i ddynion fod yn fwy agored i risg a pheryg.

Mae Seager et al yn dadlau y dylai sbectrwm llawn y cyflwr dynol yn ei holl amrywiaeth ac amrywioldeb fod yn destun ein hymchwil a’n chwilfrydedd seicolegol.

Wedi ennill cystadleuaeth ‘cwblhau thesis mewn tair munud’ Prifysgol Caerdydd, rwy’n awyddus i gael gwybod a fyddaf yn llwyddo i ennill lle yn y rownd derfynol a gynhelir yn Birmingham ar 11 Medi, 2007. Cynigir y lleoedd hyn i’r chwe phrif gystadleuydd o’r holl brifysgolion yn y DU a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.

Pe bawn yn ddigon ffodus i gael cynnig lle, byddwn yn edrych ymlaen at siarad unwaith am hyn unwaith yn rhagor. Byddai hyn yn gam arall tuag at weld fy ngalwedigaeth yn helpu dynion i dorri’n rhydd o’r pwysau i gydymffurfio â rolau cymdeithasol sydd ar hyn o bryd yn eu niweidio.