Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd Iechyd meddwl yn y gweithle
10 Hydref 201710 Hydref yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2017, ac iechyd meddwl yn y gweithle yw’r ffocws eleni a bennwyd gan Ffederasiwn Byd-eang Iechyd Meddwl.
Ym Mhrifysgol Caerdydd rydym yn mabwysiadu dull o fynd i’r afael â iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr a staff sy’n cofleidio’r sefydliad cyfan. Fel rhan o brosiect a ariennir gan Hefce, bydd y Ganolfan Cefnogi a Lles Myfyrwyr yn cydweithio â Phrifysgol Gorllewin Lloegr, Prifysgol Efrog, Prifysgolion y DU, a Student Minds er mwyn arwain ‘Strategic Approaches to Student Mental Health’.
Mae Prifysgolion y DU yn galw ar Brifysgolion i wneud iechyd meddwl yn rheidrwydd strategol fel rhan o’u dull #stepchange.
“Mae iechyd meddwl yn bwysig. Mae’n effeithio ar ein cysylltiadau a’n lles. Mae’n pennu sut rydym yn dysgu, a pha mor gynhyrchiol yr ydym. Efallai mai’r ffordd rydym yn deall ac ymagweddu at iechyd meddwl yw ein her fwyaf”.
Ein ffocws allweddol yng Nghaerdydd fydd:
- Newid y naratif: mae angen ar addysg uwch atebion sy’n ei galluogi i symud oddi wrth fodelau darpariaeth lles adweithiol sy’n seiliedig ar iechyd i rai sy’n gweddu’n strategol â datblygiad addysgol a phersonol.
- Ymgorffori gwytnwch yn y cwricwlaidd a’r cyd-gwricwlaidd, a symud y pwyslais i sgiliau a addysgir, yn hytrach na darparu gwasanaeth.
- Perthnasedd Gwasanaethau Lles: mae angen ar addysg uwch amrywiaeth o blatfformau y gall ymgysylltu â myfyrwyr drwyddynt parthed eu iechyd emosiynol. Yn aml, gwelir lles/iechyd meddwl fel rhywbeth i’w flaenoriaethu pan fydd yn dirywio, yn hytrach na rhywbeth y mae’n rhaid rhoi sylw digonol iddo o hyd i’w gynnal er mwyn atal dirywiad.
- Ateb y galw: Ni all dulliau lles presennol, nad ydynt yn berthnasol i bawb, fodloni’r galw a ragwelir ar gyfer darpariaeth gwasanaeth. Bydd dull strategol yn caniatáu ymyriadau cynnar i reoli’r risg i fyfyrwyr/staff a all fod yn profi salwch meddwl difrifol.
Mae’r ddarpariaeth bresennol o fewn Gwasanaethau Cefnogi a Lles Myfyrwyr yn rhannu ei ffocws rhwng dulliau adweithiol (gan gynnwys apwyntiadau therapiwtig un-wrth-un, gweithdai, a grwpiau), a dulliau rhagweithiol. Mae’n dulliau rhagweithiol yn anelu at:
- Gwella gallu myfyrwyr a staff i adnabod salwch iechyd meddwl
- Hyrwyddo lles drwy’r sefydliad drwyddo draw
- Gwella cyfleoedd hyfforddi staff a myfyrwyr
- Mynd i’r afael â meysydd iechyd meddwl a lles allweddol (meddwl am hunanladdiad, gofid meddwl, bod yn agored i niwed, gwytnwch, stigma iechyd meddwl, profiadau o drais a cham-drin)
Mynychder Achosion Iechyd Meddwl
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2001), mae 1 ym mhob 4 oedolyn ym Mhrydain yn profi o leiaf un broblem iechyd meddwl ddiagnosadwy mewn unrhyw flwyddyn benodol, ac mae 1 ym mhob 6 yn ei phrofi mewn unrhyw gyfnod penodol. Gorbryder yn gymysg ag iselder yw’r anhwylder iechyd meddwl mwyaf cyffredin ym Mhrydain, gyda 9% o bobl yn bodloni’r meini prawf ar gyfer diagnosis a rhwng 8-12% yn profi iselder mewn unrhyw flwyddyn benodol. Iselder yw prif achos salwch ac anabledd ledled y byd bellach.
Iechyd Meddwl yn y Gweithle
Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar y ffordd mae pobl yn meddwl, teimlo, ac ymddwyn; ac i lawer o bobl sy’n astudio neu weithio, bydd yn effeithio ar eu gweithgarwch beunyddiol (presenoldeb, perfformiad, canolbwyntio, a chyrhaeddiant). Gall iechyd meddwl hefyd effeithio ar y ffordd rydym yn cyfathrebu ag eraill ac ar ein perthnasau gwaith.
Mae llawer o bobl sy’n dioddef o salwch iechyd meddwl yn ceisio cuddio eu teimladau am eu bod yn ofni ymatebion pobl eraill. Er mwyn gallu mynd i’r afael ag iechyd meddwl drwy’r holl sefydliad, mae Prifysgol Caerdydd yn deall bod rhaid i ni gydnabod bod myfyrwyr a staff yn cael eu heffeithio gan stigma a all fod yn rhwystr i siarad yn agored am salwch iechyd meddwl a lles. Rydym wedi llofnodi’r Time to Change Pledge, sy’n canolbwyntio ar staff a myfyrwyr fel ei gilydd, gan fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl ar y campws.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016