Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion a SafeTALK

2 Mawrth 2017

Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion, ac mae llawer o themâu hanfodol ynglŷn â lles myfyrwyr y dylwn eu trafod ar y diwrnod hwn.

Gall myfyrwyr wynebu amrywiaeth enfawr o wahanol ffactorau cymdeithasol, academaidd a diwylliannol sy’n achosi straen yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol. Yn aml, gall hyn arwain at anawsterau iechyd meddwl, ond weithiau mae’r rhain eisoes yn bodoli.

Gall iechyd meddwl gwael ymyrryd â phob rhan o fywyd.

Effeithiau Academaidd

Mae myfyrwyr wedi sôn am lu o broblemau academaidd o ganlyniad i iechyd meddwl gwael.

Canfuwyd fod y prif ffactorau sy’n cael effaith negyddol ar berfformiad academaidd myfyrwyr yn ymwneud ag iechyd meddwl, gan gynnwys: straen, cwsg, pryderu am ffrind neu aelod o’u teulu sydd mewn trafferth, ac iselder neu orbryder.

Mae data arall hefyd yn dangos pa mor negyddol yw’r effaith y mae iechyd meddwl gwael yn ei chael ar lwyddiant academaidd. Er enghraifft, mae myfyrwyr gyda phroblemau iechyd meddwl fel gorbryder neu iselder yn dueddol o gael graddau is, ac yn fwy tebygol na’u cyfoedion (y rhai nad oes ganddynt y problemau hyn) o adael y Brifysgol cyn cwblhau eu hastudiaethau.

Effeithiau Cymdeithasol, Emosiynol a Chorfforol

Gall myfyrwyr ag iechyd meddwl gwael wynebu problemau o ran ymaddasu i fywyd yn y Brifysgol yn eu blwyddyn gyntaf ac ar ôl hynny. Gall bod i ffwrdd o gartref a gwneud penderfyniadau am y tro cyntaf wneud i rai myfyrwyr deimlo cymaint o straen nad ydynt yn gallu ymdopi. Gall y teimlad o unigedd sy’n aml yn cyd-fynd â phroblemau iechyd meddwl fel iselder arwain at broblemau rhyngbersonol sy’n ei gwneud hi’n anodd i rai pobl gael perthynas â phobl eraill. Gall yr anawsterau hyn o ran ymaddasu fod yn arbennig o amlwg ymhlith myfyrwyr newydd sydd eisoes wedi cael diagnosis o salwch meddwl.

Gall problemau iechyd meddwl atal myfyrwyr rhag manteisio i’r eithaf ar eu profiad yn y Brifysgol. Yn aml, maent yn rhwystro myfyrwyr rhag bod yn weithgar, ymroddedig a chynhyrchiol yn eu darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau a chymuned ehangach y campws, ac mae ansawdd bywyd myfyrwyr ag iechyd meddwl gwael yn fwy tebygol o ddioddef o ganlyniad i hynny.

Gall myfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl hefyd wynebu problemau o ran eu hiechyd corfforol. Mewn llawer o achosion, mae problemau iechyd meddwl yn gysylltiedig ag anawsterau o ran cysgu, sy’n ei gwneud yn anodd i fyfyrwyr ganolbwyntio a chadw’n effro. Mae ymchwilwyr hefyd wedi canfod bod cyflyrau emosiynol negyddol, fel digalondid neu straen, yn gallu lleihau gallu’r corff i frwydro yn erbyn afiechyd. O ganlyniad, gall myfyrwyr ag iechyd meddwl gwael fod yn sâl yn fwy aml.

Canlyniad mwyaf difrifol iechyd meddwl, efallai, yw pan mae myfyriwr yn mynd mor bell â cheisio lladd ei hun neu lwyddo i wneud hynny. Gall hunanladdiad, sy’n cael ei ystyried yr achos mwyaf cyffredin namyn un o farwolaeth ymhlith pobl ifanc, fod yn un o ganlyniadau trist problemau iechyd meddwl anhysbys neu ddiffyg cefnogaeth yn hynny o beth.
Creu Cymuned fwy Diogel rhag Hunanladdiad

Mae’r trasiedi o hunanladdiadau ymhlith myfyrwyr yn dangos pa mor hanfodol yw cynnal trafodaethau ynglŷn â hunanofal, datblygu gwydnwch myfyrwyr, ac addysgu cymunedau cyfan am hunanladdiad. Gall ymwybyddiaeth o iechyd meddwl achub bywydau, a gall cymorth amserol fod yn hynod fuddiol ar adegau anodd.

Mae’r Tîm Cwnsela, Iechyd a Lles yn cydnabod yr angen am ragor o addysg a hyfforddiant ynglŷn ag ymwybyddiaeth o hunanladdiad. Ar 22 Chwefror, daeth Living Works (un o sefydliadau mwyaf blaenllaw’r byd ar gyfer Atal ac Ymyrryd mewn Hunanladdiadau) i Gaerdydd i gynnal gweithdy hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad, o’r enw SafeTALK, sy’n paratoi unrhyw un, boed yn rhywun sydd wedi cael hyfforddiant blaenorol ai peidio, i ddod yn ymwybodol o hunanladdiad. Mae’r gweithdy’n addysgu pobl sut i adnabod rhywun sy’n cael meddyliau hunanladdol, ynghyd â beth i’w wneud i’w helpu, drwy ddilyn 4 cam syml.

Roedd grŵp o 35 o gynrychiolwyr myfyrwyr a staff, o amrywiaeth o wahanol grwpiau ac adrannau myfyrwyr, yn bresennol yn y gweithdy. Roedd y myfyrwyr yn cynnwys: Hyrwyddwyr Lles ac aelodau o’r Gweithgor Myfyrwyr Amser i Newid (myfyrwyr sy’n gwirfoddoli), gwirfoddolwyr o Linell Nos y Myfyrwyr, a Myfyrwyr Ôl-raddedig sy’n Cefnogi Cyfoedion. Roedd yr aelodau staff yn cynnwys: Rheolwyr Preswylfeydd, staff Diogelwch ac o’r gwasanaeth Cefnogi a Lles Myfyrwyr, chynrychiolwyr: y Tîm Cyngor ac Arian, y Tîm Anabledd a Dyslecsia, a’r Tîm Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.

SafeTALK

Roedd hyfforddiant SafeTALK yn canolbwyntio ar addysgu pobl sut i osgoi: Colli, Anwybyddu neu Osgoi arwyddion bod person arall yn meddwl am ladd ei hun.

Myth cyffredin yw bod pawb sy’n lladd ei hun yn dymuno marw. Ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael teimladau hunanladdol yn dymuno dod â’u bywyd i ben, yn hytrach, maen nhw’n wynebu poen o ryw fath yn eu bywydau sy’n eu harwain at ladd eu hun. Yn aml, mae eu hymddygiad yn fodd o ofyn am gymorth.

Mae Gweithdy SafeTALK yn addysgu’r rhai sy’n bresennol i adnabod pan mae rhywun yn gofyn am gymorth, a sut i weithredu. Mae camau ‘TALK’ – ‘Dweud’ (Tell), ‘Gofyn’ (Ask), ‘Gwrando’ (Listen) a ‘Chadw’n Ddiogel’ (Keep-safe) – yn fodd o gynnig cymorth ar unwaith i rywun sy’n ystyried lladd ei hun, ac yn helpu’r naill berson a’r llall i gysylltu â chymorth arbenigol.

Yn y sesiwn, rhoddwyd awgrymiadau ynglŷn â sut i oresgyn y rhwystrau o ran trafod hunanladdiad drwy ymarfer sefyllfaoedd ffug a meddwl am resymau pam rydym efallai’n colli, anwybyddu neu’n osgoi arwyddion bod rhywun yn meddwl am ladd ei hun, a hynny heb fwriadu gwneud hynny.

Rhagor i’w wneud…

Mae llawer o waith i’w wneud o hyd ynghylch y stigma sy’n bodoli ynglŷn â thrafod problemau iechyd meddwl a theimladau hunanladdol yn agored, ac er mwyn galluogi pob un ohonom i fod yn ymwybodol o hunanladdiad, i deimlo’n hyderus y gallwn adnabod arwyddion bod rhywun efallai’n ystyried lladd ei hun, ac i fod yn ddigon hyderus i’w helpu.

Y gobaith yw y bydd rhagor o sesiynau hyfforddiant SafeTALK yn cael eu cyflwyno ar draws y Brifysgol, ac os oes gennych ddiddordeb mewn mynd i Weithdy SafeTALK anfonwch ebost at Jo Pinder (Ymarferydd Lles a Chwnselydd) i ddangos bod gennych ddiddordeb:

Wellbeingchampion@caerdydd.ac.uk

Cael cymorth

Cwnsela, Iechyd a Lles

Os ydych chi’n profi unrhyw fath o drallod emosiynol, peidiwch â phetruso cysylltu â ni.  Gall y Gwasanaeth Cwnsela, Iechyd a Lles gynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n cael unrhyw fath o anhawster, pa mor fawr neu beth bynnag ydyw.

Rydym yn cynnig apwyntiadau drwy ein holiadur atgyfeirio ar-lein, ac yna gall ein staff cyfeillgar ac agored gynnig cymorth anfeirniadol mewn man diogel a chyfrinachol. Rydym hefyd yn cynnig Gwasanaeth Lles Galw Heibio dyddiol (3pm-3.45pm: ddydd Llun – dydd Gwener a phob bore dydd Mercher: 9.30am–10.15am yn y Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr yn 50 Plas y Parc; a phob prynhawn ddydd Mercher 3pm–3.45pm yn Nhŷ Aberteifi, Campws Parc y Mynydd Bychan).

Os ydych chi’n poeni bod gennych symptomau corfforol a allai fod yn effeithio ar eich iechyd, argymhellwn yn gryf y dylech drefnu apwyntiad gyda’ch meddyg teulu i drafod hyn. Os nad oes gennych feddyg teulu yn barod, cysylltwch â GIG Cymru ar 0845 46 47 neu ewch i’w gwefan i weld eich holl opsiynau o ran meddygon teulu. Mae gan y Brifysgol ei meddygfa ei hun hefyd – Meddygfa Plas y Parc i’r rhai sy’n byw o fewn eu dalgylch.

Hyrwyddwyr Lles

Cadwch lygad allan hefyd am ein Hyrwyddwyr Lles, myfyrwyr gwirfoddol sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n hyrwyddo negeseuon iechyd a lles i gyd-fyfyrwyr ar y campws. Maen nhw’n gallu cynnig gwybodaeth, profiad a chymorth cymdeithasol neu ymarferol i gyd-fyfyrwyr, neu hyd yn oed bod yn glust i wrando. Os hoffech weld ein Hyrwyddwyr Lles ar waith, ewch i weld eu fideo.

Pryderon Brys

Os oes gennych bryderon brys ynglŷn â’ch diogelwch chi eich hun neu fyfyriwr arall, cysylltwch â’r Gwasanaethau Brys ar unwaith.

Mae’r Llinell Nos ar gael hefyd, sef llinell gymorth gyfrinachol a dienw sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr eraill yn ystod y tymor, ar gyfer unrhyw fyfyrwyr sy’n teimlo straen, neu sydd am sgwrsio’n gyfrinachol â myfyriwr arall rhwng 8pm ac 8am: 02920 870555.

Gwasanaeth cymorth emosiynol cyfrinachol arall yw The Samaritans. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, dros y ffôn neu drwy ebost: Ffôn: 02920 344022; ebost: jo@samaritans.org

Ystyr CALL yw ‘Cyngor Cymunedol a Llinell Wrando’ (Community Advice and Listening Line). Mae’r llinell gymorth hon ar gael 24 awr y dydd, ac yn cynnig cefnogaeth dros y ffôn neu drwy negeseuon testun:  Ffôn: 0800 132 737 neu anfonwch neges destun ‘help’ at 81066.

Mae Tîm Diogelwch y Brifysgol ar gael 24 awr y dydd ar: 029 20 874 444.