Datblygu ymchwil i ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn rheoli’r profiad o ddementia
22 Tachwedd 2017Ar gyfer fy lleoliad Rhaglen Ymchwil Israddedig Prifysgol Caerdydd, roeddwn yn ffodus o gael cynnig y cyfle i weithio gyda Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), ar brosiect sy’n ymwneud â gwella’r profiad o fyw â dementia. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar y ffactorau sy’n caniatáu i unigolion sydd â dementia i brofi safon byw, ac mae goruchwylydd fy ngwaith yn canolbwyntio’n benodol ar ddylanwadau rhwydweithiau cymdeithasol a chydberthnasau. Mae llenyddiaeth sy’n bodoli eisoes wedi dangos y gall cysylltiadau cymdeithasol fod yn ganolog i archwilio unrhyw brofiadau negyddol y mae’n bosibl sydd gan unigolyn, ac nid yw dementia yn wahanol o gwbl.
Pan ddechreuais arni, roedd y prosiect eisoes yn mynd rhagddo, a chefais y dasg o adolygu’r llenyddiaeth sy’n bodoli eisoes er mwyn gwerthuso’r defnydd o sosiogramau fel dull o gasglu data. Mae’r diagramau hyn yn mapio rhwydweithiau cymdeithasol unigolion, a gwnaed defnydd effeithiol iawn ohonynt yn y gwaith ymchwil a gynhaliwyd hyd yma. Fodd bynnag, un broblem a oedd yn dod i’r amlwg oedd llunio’r ffordd orau o ddadansoddi’r data a gofnodwyd ganddynt.
Drwy gydol fy lleoliad, bum yn yn dadansoddi ac yn croesgyfeirio corff o lenyddiaeth oedd yn ffocysu ar fapio rhwydweithiau cymdeithasol yn ogystal ag effaith rhwydweithiau cymdeithasol ar ddementia. O’r fan hon, gallwn weld sut roedd ymchwil arall wedi addasu dyluniadau’r sosiogramau yr oeddent yn eu defnyddio er mwyn casglu data’n benodol at ddibenion y cwestiwn ymchwil. Yn ogystal, llwyddais i bennu beth yn union oedd yn berthnasol ar gyfer ein cwestiwn ymchwil drwy adolygu cyfuniad o lenyddiaeth sylweddol, a thrawsgrifiadau o gyfweliadau pan fu ein cyfranogwyr wrthi’n llenwi eu sosiogramau. At ei gilydd, roedd hyn yn rhoi syniad cliriach i mi o’r hyn yr oedd angen i’r sosiogramau ei amgodi, a’r ffordd orau o roi hynny ar waith.
Yn sgil yr ymchwil methodolegol, roeddwn wedi gallu dwyn casgliadau i gynnig bod rhai gwelliannau’n cael eu gwneud i’n sosiogramau fel dull o gasglu data. Roedd y rhain yn cynnwys cyflwyno system godio drwy liwiau i gynrychioli mathau gwahanol o berthynas, a gan ddefnyddio strwythur presennol y sosiogram i ddyrannu gwerthoedd rhifiadol ar gyfer graddau gwahanol o berthynas, er mwyn gallu dadansoddi’n hawdd. Cafodd y broses hon ei hwyluso drwy ddeall pa ddata oedd yn bwysig i’w amgodio. Cefais y ddealltwriaeth honno yn sgil fy adolygiad gwirioneddol o’r llenyddiaeth a dadansoddi trawsgrifiadau.
O ran yr ymchwil ehangach sy’n cael ei chynnal gan fy ngoruchwyliwr, mae’n bosibl y gellir casglu gwell data yn sgil y fethodoleg addasedig hon. Gall yr arlliw y soniwyd amdanynt yng nghyfweliad y boblogaeth ei gynrychioli’n raffig erbyn hyn yn y sosiogram, a hyd yn oed ei droi i mewn i werthoedd rhifiadol at ddibenion dadansoddiad ystadegol. Ymhen hir a hwyr, mae’n bosibl y gallem gyfatebu mesurau sosiogram â sgoriau lles a safon byw, i ddarparu sail wrthrychol ar gyfer deall pwysigrwydd perthnasoedd cymdeithasol oddi mewn i’r profiad o fyw â dementia. Byddai’r gwaith ymchwil hwn hefyd yn cynnwys gofalwyr unigolion sydd â dementia – grŵp sydd fel arfer mewn perygl o ynysu cymdeithasol a chael problemau hwyliau o ganlyniad i’w dyletswyddau gofal helaeth.
Yr hyn yr wyf yn ei werthfawrogi’n bennaf am fy mhrofiad yw fy mod wedi gallu datblygu sgiliau ymchwil a data annibynnol na fyddwn, fel arfer, wedi gorfod eu defnyddio i’r fath raddau. Bydd hyn yn gam gwerthfawr pan fyddaf yn dechrau prosiect fy mlwyddyn olaf, am fy mod bellach yn meddu ar y galluoedd angenrheidiol i gynnal ymchwil effeithiol. Fel myfyriwr seicoleg, roedd hefyd yn cynnig cipolwg ar y gwyddorau cymdeithasol i mi, sy’n faes na fyddwn fel arall wedi cael cyfle i’w brofi.
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Medi 2023
- Awst 2023
- Chwefror 2020
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Chwefror 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016