Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd meddwl oedolion

Cynyddu ymwybyddiaeth o Iechyd meddwl mewn Clefyd Huntington

27 Mehefin 2016
MRI brain scan
MRI brain scan

Anhwylder ar yr ymennydd yw Clefyd Huntington (HD), clefyd niwroddirywiol a achosir gan gelloedd yr ymennydd yn marw’n raddol. Mae achos genetig i HD, ac felly os yw genyn y clefyd gennych chi, mae 50% o debygolrwydd y gallech ei drosglwyddo i’ch plant. Mae prawf genetig ar gael i bobl sy’n meddwl y gallent fod mewn perygl o ddatblygu HD. Gelwir hwn yn brawf rhagfynegol, oherwydd er ei fod yn gallu dweud wrthych chi bod gennych chi’r genyn ar gyfer HD, ni fydd yn dweud yn union pa mor gyflym na pha mor ddifrifol fydd y symptomau’n datblygu, na phryd yn union y byddwch yn cael y clefyd.

Meddylir am HD yn gyffredin fel clefyd sy’n effeithio ar sut mae pobl yn symud, ac mae pobl sydd ag HD yn datblygu problemau symudedd sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Mae’r problemau symudedd yn aml yn dechrau’n raddol, gyda llaw yn siglo, baglu neu gwympo efallai, ac yna’n gwaethygu dros amser, gan achosi siglo afreolus a symudiadau herciog sy’n effeithio ar y corff cyfan, ac sy’n arwain at anabledd corfforol sylweddol a’r angen am gadair olwyn yn aml. Os yw rhywun yn profi anawsterau symudedd, fel gydag HD, yn aml mae’n amlwg iawn, oherwydd gallwch weld eu problemau symudedd yn glir.

Cyn i’r problemau symudedd ddechrau, cydnabyddir yn gynyddol y gall pobl sydd ag HD brofi problemau iechyd meddwl sylweddol gan gynnwys: iselder, anniddigrwydd a difaterwch. Os yw rhywun yn cael diagnosis o glefyd niwroddirywiol sy’n lleihau eu disgwyliad einioes ac a allai effeithio ar eu plant, gallech feddwl y byddai hyn yn achosi iddynt deimlo’n isel, yn anniddig ac yn bryderus ac mae hyn yn wir i raddau. Mae syniadau a cheisiadau hunanladdiad yn uwch ymhlith pobl sydd â hanes teuluol neu sydd wedi cael diagnosis o HD. Er hynny, mae rhai pobl yn dweud bod cael diagnosis yn rhoi tawelwch meddwl iddynt am eu bod yn gallu rhoi enw ar eu cyflwr.
Fodd bynnag, mae problemau iechyd meddwl mewn HD yn broblem allweddol, ac er bod eu pwysigrwydd yn cael ei gydnabod yn gynyddol, gellir gwneud mwy i gynyddu ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl mewn HD.

Mae stigma sylweddol yn gysylltiedig â HD, felly mae cynyddu ymwybyddiaeth o’r cyflwr yn allweddol i sicrhau gwell dealltwriaeth a derbyn y clefyd. Mae cysylltu â’r cyhoedd mewn dyddiau agored, seminarau a darlithoedd yn un ffordd i gynyddu ymwybyddiaeth, gwybodaeth a thrwy hynny ddealltwriaeth.

Ond gan fod stigma’n gysylltiedig â’r clefyd, ac am fod digwyddiadau fel hyn yn aml yn atgoffa pobl am eu cyflwr, gall fod yn anodd cael cleifion a theuluoedd i ymgysylltu. Rwyf i’n credu’n gryf bod gennym fwy o gyfrifoldeb i estyn allan a sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn ffyrdd hygyrch a dyfeisgar. Mae gwefan HDBuzz yn gwneud gwaith da iawn yn crynhoi newyddion ymchwil HD mewn iaith syml a cheir amrywiol sefydliadau ac unigolion sy’n defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ymchwil HD mewn ffyrdd hygyrch.

Mae cyfathrebu gyda chleifion, teuluoedd a gofalwyr HD yn allweddol ac yn hynod o bwysig mewn ymchwil gwyddonol. Rydym ni’n ymchwilio i gyflwr sy’n cael effaith aruthrol ar deuluoedd ac mae eu cyfraniad nhw i’r ymchwil a fydd yn effeithio arnyn nhw’n elfen sylfaenol o gynllunio, datblygu a gweithredu’r ymchwil rydym ni’n ei gynnal.

Dr Emma Yhnell yw’r ymgeisydd arweiniol ar grant ymchwil ôl-ddoethurol gan Sefydliad Jacque a Gloria Gossweiler.
Cyllidwyd ei phrosiect ymchwil PhD drwy Efrydiaeth tair blynedd gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC).